Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pencampwr codi pwysau o F么n yn anelu am y brig
- Awdur, Gareth Wyn Williams
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae codwr pwysau o Ynys M么n yn anelu am fwy o fedalau, dim ond tair blynedd wedi iddo gymryd diddordeb yn y gamp.
Fis diwethaf fe wnaeth Lucas Williams ddychwelyd o Sun City yn Ne Affrica gyda dwy fedal aur ac un arian yng nghystadleuaeth y Commonwealth Classic.
Llwyddodd Lucas, sy'n 19 oed ac yn hanu o Gaergybi, hefyd i dorri record y Gymanwlad gyda deadlift o 313.5kg.
Mae ei fryd ar greu mwy o argraff yn y gamp, sy'n cael y gorau allan ohono, meddai.
'Fyswn i wrth fy modd bod y gorau'
Fe gychwynnodd Lucas godi pwysau yn 16 oed, yn wreiddiol fel modd i geisio gwella a chryfhau ei ben-glin yn dilyn anaf tra'n bocsio.
Mae'r cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Bodedern yn hyfforddi ei hun mewn campfa yng Nghaergybi.
Dywedodd iddo ddechrau cymryd diddordeb mewn codi pwysau ar ddiwedd y cyfnod clo.
"Ro'n i wastad yn gwybod o'n i'n eitha' cryf pan yn blentyn," meddai.
"Ro'n i wedi gweld fideos powerlifting ar Instagram ac mae'n fwy accessible na weightlifting."
Gan gystadlu am y tro cyntaf yn 2022, mae wedi datblygu llawer mewn amser cymharol fyr, gan deithio i Rwmania y llynedd lle gipiodd fedal efydd ym mhencampwriaeth iau y byd.
Math o godi pwysau yw powerlifting, lle mai'r nod yw codi'r pwysau trwm mewn un symudiad.
Mae tair prif ddisgyblaeth sef sgwat, bench press a deadlift, ac mae cystadleuwyr yn cael tri chynnig i godi'r pwysau trymaf posib ym mhob un.
"Mae weightlifting Olympaidd yn llawer mwy technegol ac yn anoddach i ddysgu, mae'n gallu cymryd blynyddoedd," meddai Lucas.
"Mae powerlifting yn fwy dibynnol ar pa mor gryf wyt ti."
Gan ffilmio ei hun yn hyfforddi, mae Lucas yn parhau i ddysgu ei hun ac yn gorfod cyllido mynd i wahanol gystadlaethau ei hun.
"Dyma'r sport cynta' i fi ffeindio mod i'n rili da... fyswn i wrth fy modd bod y gorau," ychwanegodd.
'Pobl wedi stopio fi yn y stryd'
Wedi gorfod codi tua 拢2,500 i gystadlu yn Ne Affrica ym mis Hydref, gan gynnwys ap锚l ar-lein, roedd hefyd angen iddo golli 4kg mewn pedwar diwrnod cyn y gystadleuaeth er mwyn cyrraedd y trothwy o 83kg.
Er hynny, llwyddodd i ennill cystadlaethau'r squat a'r deadlift, a daeth yn ail yn y bench press.
Mae cyfanswm pwysau鈥檙 tair disgyblaeth yn cael eu hychwanegu at ei gilydd er mwyn nodi sg么r terfynol, a Lucas oedd y gorau o'r holl gystadleuwyr yn ei adran.
Ond er ei lwyddiant, mae Lucas yn benderfynol o fynd yn bellach ac yn bwyta hyd at 4,500 o galor茂au pob dydd er mwyn rhoi mwy o bwysau ymlaen i symud i adran drymach.
"Dwi eisiau gwneud lot mwy. Dwi byth yn hapus ac yn aimio i gael mwy a mwy bob amser," meddai.
"Mae mam fi over the moon a mae pobl wedi stopio fi yn y stryd yn dweud well done... mae'n deimlad da.
"Y targed nesa' ydy trio mynd fyny i 93kg. Dwi am drio cael cyntaf yn y four nations yn Glasgow a wedyn y British Champs.
"Dwi mor competitive a licio bod y gorau yn bob dim dwi'n gwneud."