Cunningham yn gadael ei r么l fel prif hyfforddwr merched Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Ioan Cunningham wedi gadael ei r么l fel prif hyfforddwr t卯m rygbi merched Cymru.
Mewn datganiad brynhawn Gwener fe ddywedodd Undeb Rygbi Cymru (URC) eu bod wedi cytuno, ar y cyd 芒 Cunningham, i ddod 芒'i gyfnod yn y swydd i ben wedi tair blynedd.
Daw'r cyhoeddiad wedi blwyddyn gythryblus i'r t卯m ar, ac oddi ar, y cae wrth i URC yn y ffordd y cafodd trafodaethau cytundeb t卯m y merched eu cynnal.
Yn 么l URC, fe fyddan nhw nawr yn dechrau'r broses o benodi prif hyfforddwr newydd, yn ogystal 芒 bwrw 'mlaen 芒'r gwaith o fynd i'r afael 芒 materion ar wah芒n sydd wedi codi yn ddiweddar.
- Cyhoeddwyd1 Mai
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd
Cafodd Cunningham, 41, ei benodi i'r r么l yn 2021 ac roedd disgwyl iddo arwain Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2025 yn Lloegr.
Mae'r undeb yn dweud y bydd prif hyfforddwr newydd wedi ei benodi cyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y flwyddyn nesaf, er mwyn rhoi cymaint o amser 芒 phosib i'r t卯m baratoi ar gyfer Cwpan y Byd.
Mae 2024 wedi gweld cyfres o ganlyniadau siomedig gan y t卯m, gyda Chymru ond yn ennill pedair o'r 11 g锚m brawf diwethaf.
Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney mewn datganiad: "Hoffwn ddiolch yn ffurfiol i Ioan Cunningham am ei gyfraniad i g锚m y merched yng Nghymru dros y tri thymor diwethaf.
"Mae Ioan wedi llywio'r cyfnod pontio rhwng amatur a statws proffesiynol, ac fe wnaeth o arwain y t卯m i'w buddugoliaeth gyntaf erioed yn erbyn Awstralia yn gynharach eleni.
"Rydyn ni yn y dyddiau cynnar o ran proffesiynoli g锚m y merched yng Nghymru ac mae 'na heriau yr ydyn ni'n ceisio mynd i'r afael 芒 nhw, ond mae ein hymroddiad i'r agwedd hanfodol yma o'n g锚m yn ddiwyro."
Ychwanegodd Ioan Cunningham: "Ry'n ni wedi gwneud cynnydd sylweddol ac mae 'na lwyddiannau y dylie ni fod yn falch ohonynt o ran datblygiad y garfan.
"Ond nawr yw'r amser cywir i rywun newydd ddod i mewn i arwain, a hoffwn ddymuno pob dymuniad da i bawb fydd yn rhan o'r broses honno yn y dyfodol."