Iolo Williams: Rhoi ‘trysor colledig’ oedd mewn sgip i'r Llyfrgell Gen
- Cyhoeddwyd
Mae Iolo Williams wedi rhoi llyfr sy’n gofnod pwysig o’r ymgyrch i achub y barcud coch fel rhodd i’r Llyfrgell Genedlaethol – ar ôl i’w ffrind ddod o hyd iddo mewn sgip.
Ar ddiwedd yr 1990au fe gafodd y naturiaethwr alwad ffôn gan gyfaill oedd yn gweithio fel peintiwr ac addurnwr tai.
Roedd swyddfeydd yr RSPB yn y Drenewydd yn cael eu cau ac wrth edrych mewn sgip tu allan roedd o wedi dod o hyd i hen lyfr nodiadau glas oedd yn cofnodi adar.
Eglurodd Iolo wrth Cymru Fyw: “Dyma fi’n deud ‘wel gwranda, dos a fo adra efo chdi ac wedyn pan dwi nôl lawr yn Drenewydd gai olwg arno fo’. Rargian Dafydd geshi’n syfrdanu – meddwl am daflu trysor fel yna allan!
“Neshi gadw fo a ro’n i wrth fy modd o dro i dro, rhyw unwaith y flwyddyn, yn pori drwyddo fo.”
Beth oedd ganddo yn ei feddiant oedd cofnod o’r barcud coch yng Nghymru o 1875 ymlaen. Roedd yn nodi tranc yr aderyn oedd wedi diflannu o Loegr a’r Alban erbyn 1890, a dim ond ambell i bâr yn nythu yng Nghymru.
Fe gafodd y cofnodion eu rhoi at ei gilydd gan yr adarwr Colonel Morrey Salmon, sy’n adnabyddus am ei waith yn ceisio achub y barcud coch yng Nghymru yn ystod y ganrif ddiwethaf.
Felly pan gafodd Iolo gynnig i fod yn rhan o gyfres Cyfrinachau’r Llyfrgell ar S4C, fe benderfynodd roi’r llyfr iddyn nhw er mwyn ei gadw’n ddiogel.
Ar y rhaglen, fe ddywedodd curadur llawysgrifau’r Llyfrgell Dr Maredudd ap Huw ei fod yn ‘drysor colledig a darn o jigso’ sy’n dweud hanes pwysig yr ymgyrch i achub aderyn cenedlaethol Cymru.
Meddai Iolo am y profiad: “Do’n i ddim yn sylwi arwyddocâd y llyfr. O’n i’n gwybod bod o’n bwysig ond ella mai jest pwysig i mi yn bersonol.
"O’n i’n meddwl bod ganddyn nhw gofnodion yn y Llyfrgell ond pan eshi a fo, dyna’i gyd oedd ganddyn nhw oedd ffotocopi ohono ac roedd y Llyfrgell yn falch o gael eu dwylo ar y gwreiddiol.
“A ro’n i’n falch bod o’n werthfawr i’r Llyfrgell – fan yna ddylsa fo fod, ar gael i bobl edrych arnyn nhw os oes ganddyn nhw ddiddordeb.”
Yn ystod y ffilmio fe gafodd Iolo weld rhan o weddill casgliad y Llyfrgell am yr ymgyrch i achub y barcud.
Oherwydd bod poblogaeth yr aderyn mor fregus am gyfnod hir mae holl wybodaeth y Llyfrgell am leoliadau nythod a chadarnleoedd y barcud wedi bod o dan glo ers degawdau.
Ond gan fod yr aderyn yn ffynnu erbyn hyn fe gafodd y bocsys cyfrinachol eu hagor am y tro cyntaf ers yr 1970au er mwyn i Iolo gael eu gweld nhw.
Ac roedd gallu darllen cofnodion o rai o’r bobl leol oedd wedi gweithio’n dawel i warchod yr aderyn yn brofiad emosiynol iddo.
Meddai wrth Cymru Fyw: “Pan ti’n darllen a gweld y sgrifen a sgwrs pobl, rargian mae o’n anhygoel.
“Mae o’n anfon ias oer lawr dy gefn di achos ti’n cael enwau, nid yn unig enwau'r coed lle oedd ambell i nyth, o'n i’n cofio’r enwau rheiny, ond cael enwau y ffarm a’r ffarmwr a gwraig y ffarm a’r plismon oedd wedi stopio rhywun oedd yn edrych amdanyn nhw i wneud difrod iddyn nhw.
"Mae o’n gwneud o llawer mwy personol pan ti’n ei ddarllen o.
"'Da ni mor ffodus eu bod nhw dal efo ni ac wrth gwrs yn gwneud yn arbennig o dda erbyn heddiw ac iddyn nhw mwy na neb mae’r diolch. Nid yn unig y wardeiniaid oedd yn cael tâl o 1903 ymlaen i’w gwarchod, ond mwy nag unrhywbeth rhai o’r ffermwyr yna oedd yn gwrthod dweud dim wrth y casglwyr wyau.
“Dwi’n gwybod bod ambell un wedi gofyn wrthyn nhw ‘oh have you got any kites?’ a’r ffermwr yn deud ‘duwcs I haven’t seen kites here for years’ ond yn gwybod yn iawn dros y bryn bod ‘na bâr.
"Fasa nhw wedi gallu dweud ‘rho di buntan i fi a wnai ddweud’ - neu geiniogau fasa nhw wedi cael ma’n raid, oedd yn lot o bres iddyn nhw - ond wnaeth nhw ddim. Nath nhw gau eu cegau er mwyn gwarchod yr adar.”
Bydd Iolo Williams ar Cyfrinachau'r Llyfrgell ymlaen ar S4C am 2100 ar 1 Hydref ac bydd y gyfres gyfan i'w gweld ar S4C Clic a ý iPlayer
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd14 Chwefror
- Cyhoeddwyd14 Ebrill