ý

Elizabeth Taylor yng Nghymru: ‘Oedd hi’n dwlu bod ’ma’

PriodasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe briododd Elizabeth Taylor a Richard Burton am y tro cyntaf yn 1964 yn Montréal, Canada. Fe briodon nhw ddwywaith gyda'r ddwy briodas yn gorffen gydag ysgariad.

  • Cyhoeddwyd

Yr actores Elizabeth Taylor oedd un o sêr mwya’ disglair yr ugeinfed ganrif ac mae hi dal yn adnabyddus heddiw am ei pherthynas a’i phriodasau gyda’r actor o Bontrhydyfen, Richard Burton.

Gyda rhaglen ddogfen newydd ar ý2 am ei bywyd, Elizabeth Taylor: Rebel Superstar, bu nith Richard Burton, Sian Owen, yn sgwrsio ar Dros Frecwast ar Radio Cymru am ei hatgofion am ei modryb.

Meddai Sian: “Dwi’n cofio hi’n dod i Bontrhydyfen am y tro cyntaf a’r criw yn y stryd a’r pobl gyferbyn â ni yn ennill lot o arian achos oedd y ffotograffwyr i gyd moyn mynd lan llofft i gael llun o Elizabeth yn dod mas o’r drws. So ’nath y stryd yn dda iawn mas o hwnna!

“Ond i ’weud y gwir, daeth Elizabeth mewn i’r tŷ a’r peth cynta’ ofynnodd hi i Mam oedd ‘ble mae’r tŷ bach Hilda?’

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Taylor a Burton ar set y ffilm 'Sandpiper' yn 1965

“Hi oedd yr unig un o’r gwragedd (gwragedd Richard Burton) oedd wedi aros yn y tŷ ’ma ym Mhontrhydyfen.

“Oedd hi’n dwlu bod gyda’r teulu. Y bywyd oedd hi wedi cael, i weld y twymder o’r teulu oedd hi wrth ei bodd. A dysgu i ganu Ar Lan y Môr. Oedd hi'n dwlu bod ’ma. A chanu’r emynau hefyd.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Taylor yn ymweld â theulu Richard Burton ym Mhontrhydyfen ar ôl ei farwolaeth yn 1984. Yr hen ddynes ar y chwith yw Cis, chwaer Richard, a fagodd o fel plentyn.

Arhosodd Sian yn agos i’r actores hyd yn oed ar ôl iddi ysgaru wrth Richard Burton.

Meddai: “Bob Dolig oedd hi’n danfon hamper o Fortnum & Mason i’r teulu i gyd a gariodd hi hwnna ymlaen nes iddi farw.”

Bu farw yr actores yn 2011 ond mae ’na dal sylw iddi hi ac hefyd i’r gŵr wnaeth hi briodi ddwy waith, Richard Burton.

Pam felly fod y ddau dal i ddenu cymaint o ddiddordeb?

Yn ôl Sian: “Bob wythnos dwi’n gweld e yn y papur rhywbeth am un o’r ddau. Dwi ddim yn sylweddoli pam maen nhw dal i fod mor eiconig ar ôl yr holl flynyddoedd ’ma. Ond o’n nhw’n hyfryd cofiwch.”

Gwyliwch Elizabeth Taylor: Rebel Superstar ar ý iplayer.

Disgrifiad,

Teulu Richard Burton yn canu emynau tra'n teithio i Lundain ar gyfer parti wedi ei chynnal gan Elizabeth Taylor a Richard Burton yn 1972

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Elizabeth Taylor yn cwrdd â'i mab Michael Wilding Jr, am y tro cyntaf ers 6 mlynedd ar fferm Ffynonwen, cartref Michael yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dadorchuddio penddelw efydd o Richard Burton yng Ngholeg Cerdd a Drama, Caerdydd, gyda'r Tywysog Charles yn 2010

Disgrifiad,

Eitem newyddion am ymweliad Elizabeth Taylor i Bontrhydyfen yn dilyn marwolaeth Richard Burton yn 1984

Pynciau cysylltiedig