Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cefnwr Cymru, Liam Williams i ailymuno 芒'r Saracens
Bydd cefnwr Cymru a'r Llewod, Liam Williams, yn dychwelyd am ail gyfnod gyda'r Saracens wedi iddo adael clwb Kubota Spears yn Japan.
Roedd yna gyhoeddiad ddydd Llun fod y chwaraewr, 33, yn gadael Kubota wrth iddo ddatgelu ei fod ef a'i bartner am symud yn nes adref ar gyfer geni eu plentyn cyntaf.
Roedd Liam Williams yn arfer chwarae i'r Saracens rhwng 2017 a 2019 pan enillon nhw Gwpan Pencampwyr Ewrop.
"Gymerodd hi ddim yn hir i fi ddweud ie wedi i un o reolwyr y Saracens gysylltu 芒 fy asiant yn sgil anafiadau yn y garfan," meddai Williams.
"Fe wnes i fwynhau fy amser blaenorol gyda'r clwb yn fawr. Roedd e'n amser arbennig i fy ngyrfa a'r clwb wrth i ni ennill nifer o dlysau."
Mae Williams wedi ennill 92 o gapiau dros Gymru ac mae鈥檔 debygol o gael ei ystyried ar gyfer gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a fydd yn dechrau ar 31 Ionawr.