Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Benfro
Ffynhonnell y llun, Google
Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A40 yn Sir Benfro ddydd Gwener.
Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 23:15 nos Wener i'r gorllewin o gylchfan Pont Canaston, yn ardal Hwlffordd.
Y beic modur oedd yr unig gerbyd yn y gwrthdrawiad.
Fe gafodd y person ei gludo i鈥檙 ysbyty lle bu farw.
Mae teulu鈥檙 beiciwr modur wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu 芒 nhw.