Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Heddlu'n ymchwilio i lofruddiaeth dyn yn Abertawe
Mae'r heddlu yn ymchwilio i lofruddiaeth dyn gafodd ei ddarganfod ag anafiadau difrifol yn Abertawe.
Cafodd swyddogion eu galw i Heol y Cwm yn ardal Hafod toc wedi 12:00 brynhawn Mercher.
Fe gadarnhaodd swyddogion fod y dyn 27 oed o Waunwen wedi marw o ganlyniad i'w anafiadau.
Cafodd pedwar dyn eu harestio mewn cysylltiad 芒'r digwyddiad ac mae nhw'n parhau yn y ddalfa.
Dywedodd yr heddlu fod dyn 31 oed o Waunwen, dyn 49 oed o Gendros, dyn 37 oed o'r Strand a dyn 39 oed o Dreforys wedi eu harestio.
Cafodd Heol y Cwm ei chau wedi'r digwyddiad, ac mae disgwyl y bydd y ffordd yn parhau ar gau tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.
Dywedodd y ditectif arolygydd, Paul Raikes eu bod yn "ddiolchar i'r cyhoedd am eu dealltwriaeth a'u hamynedd wrth i'r ymchwiliad barhau".
"Ry'n ni'n apelio ar unrhyw dystion, gan gynnwys unrhyw un sydd a lluniau dash-cam o Heol New Cut rhwng 11:50 a 12:00 ddydd Mercher i gysylltu 芒 ni," meddai.