Dirgelwch yr operâu sebon Cymraeg ddaeth cyn Pobol y Cwm...

A ninnau yn nodi 50 mlynedd ers dechrau darlledu Pobol y Cwm ar wasanaeth teledu ´óÏó´«Ã½ Cymru, mae'r hanesydd darlledu Jamie Medhurst, sy'n Athro Ffilm a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Aberystwyth, am wybod mwy am ragflaenwyr y gyfres, a hynny ar y radio ugain mlynedd ynghynt:

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Disgrifiad o'r llun, Cast Teulu'r Siop yn recordio pennod ar 1 Hydref 1954

Pob hyn a hyn wrth ymgymryd ag ymchwil hanesyddol ar ddarlledu, mae rhywun yn dod ar draws gwybodaeth mewn archifau am raglen sy’n arwain rhywun ar drywydd a sy’n codi awch i ddarganfod rhagor.

Dwy o’r rhaglenni hyn yw Teulu TÅ· Coch a Teulu’r Siop, sydd, o bosib, yn nodi ymdrechion cyntaf y ´óÏó´«Ã½ i gynhyrchu operâu sebon yn y Gymraeg. Ychydig o wybodaeth sy’n bodoli am y cyfresi drama hyn a hwyrach eu bod wedi mynd o’r cof a diflannu o’r ether, ond fe hoffwn i wybod mwy!

Gallwn olrhain hanes yr opera sebon nôl i ddyddiau radio cynnar yr Unol Daleithiau pan noddwyd cyfresi drama gan wneuthurwyr powdwr golchi (sy’n esbonio’r ‘sebon’!).

Fe lansiodd y ´óÏó´«Ã½ gyfresi drama, neu operâu sebon, ar y radio yn fuan wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, megis Mrs Dale’s Diary yn 1948 ac, wrth gwrs, The Archers yn 1951.

Angen cyfieithydd?

Yn ôl y Radio Times, ‘cyfres newydd o raglenni yn adrodd helyntion beunyddiol teulu Ned Lloyd, ysgolfeistr yn ysgol Rhydafon’ oedd Teulu Tŷ Coch.

Darlledwyd y gyfres yn nosweithiol am 6.45pm am chwarter awr ar y Welsh Home Service, gyda'r cyntaf ar 1 Hydref 1951, ac mewn ambell bapur newydd roedd yn cael ei gymharu â theulu Mrs Dale (Mrs Dale’s Diaries).

Disgrifiad o'r sainGwrandewch ar flas o bennod o'r gyfres Teulu TÅ· Coch, Tachwedd 1951

Ychydig a wyddwn i am y gyfres, ond mae’n amlwg iddi greu dipyn o argraff ar y gwrandawyr.

Yn ei golofn radio yn y Western Mail ar 24 Mawrth 1952, fe nododd ‘Y Tiwniwr’ ei fod wedi derbyn llu o ymatebion i’w gais am farn ei ddarllenwyr ar Teulu Tŷ Coch. ‘This typical Welsh family of the air is either well-liked or utterly detested by every listener who has written’.

Felly beth wnaeth ennyn y fath ymateb?

Yn ôl un, ‘JHJ’ o Aberystwyth, roedd yr actio’n wael ar y cyfan ac roedd y portread o’r ysgolfeistr yn gwneud niwed i’r proffesiwn (medde JHJ). Roedd gwrandawr arall yn awgrymu bod y sefyllfaoedd a’r lleisio yn rhy theatrig rhywsut.

Gan mai yn ne Cymru y lleolwyd y ddrama, gellir deall sylw un gwrandawr o Bwllheli gwynodd nad oedd ef/hi yn deall ‘run gair, gan orffen ‘I’m getting an interpreter!’... rhagflas o ambell gŵyn yn erbyn Pobol y Cwm gan wylwyr gogledd Cymru hwyrach?

Roedd eraill yn canmol y gyfres trwy ddweud bod y Gymraeg a glywyd yn naturiol ac yn adlewyrchu’r hyn roedd pobl yn ei glywed yn eu pentrefi pob dydd.

Debut Hywel Gwynfryn

Ac yna fe ddaeth Teulu’r Siop, cyfres radio gafodd ei chynhyrchu gan y ´óÏó´«Ã½ o stiwdio’r Gorfforaeth ym Mangor.

Disgrifiad o'r llun, Christine a Iorwerth - a oedd yn cael eu portreadu gan Sheila Huw Jones ac Arfon Rawling - tu allan i Siop y Bont

Darlledwyd y bennod gyntaf ar 29 Medi 1954 ar y Welsh Home Service a daeth y gyfres i ben dair blynedd yn ddiweddarach. Yn ôl y Radio Times roedd yn cael ei ddarlledu am 7.30pm ar nosweithiau Mercher ac ail-ddarlledu am 4.30pm ar nosweithiau Sadwrn.

O’r ychydig wybodaeth sydd gennym am y gyfres, gwn fod y ddrama wedi’i lleoli mewn pentref dychmygol o’r enw Llanfwynach, ac yn arbennig yn Siop y Bont.

Disgrifiad o'r sainGwrandewch: Gofynnodd Bet y Post am help Jacob a Hanna Humphreys y siop, fore cyn ei phriodas â Robat y Fron (o'r chwith, Owen Williams, Emily Davies a Nel Hodgkins)

Ymhlith yr actorion oedd Emily Davies, Iris Jones, a Dic Hughes ac mae’n debyg i fachgen 12 mlwydd oed o’r enw Hywel Gwynfryn gael rhan ‘Glyn Bach’ yn y gyfres, diolch i Wilbert Lloyd Roberts oedd yn gynhyrchydd gyda’r ´óÏó´«Ã½ ar y pryd.

Awduron y gyfres oedd Idwal Jones, Islwyn Ffowc Ellis, a Gruffudd Parry.

Yr unig wybodaeth a geir yn llawlyfrau blynyddol y ´óÏó´«Ã½ yw’r disgrifiad ohoni fel ‘Weekly half -hour episodes of village life in North Wales’

Prin iawn yw’r cyfeiriadau at Teulu’r Siop mewn papurau newydd. Ceir un yn y Western Mail ar 30 Gorffennaf 1956 pan gyfeiriodd J. C. Griffith Jones at arddangosfa’r ´óÏó´«Ã½ ar faes Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Y Rhyl a nodi ‘What fascinated me was the exuberant throng speaking gutteral, explosive North Wales Welsh as they hemmed in still pictures of the Welsh radio family, “Teulu'r Siop."’

Disgrifiad o'r llun, Roedd Teulu'r Siop yn dilyn hanes trigolion pentref ddychmygol Llanfwynach. Yn y llun yma, roedd rhaid i'r gymuned ddod at ei gilydd i helpu i adeiladu'r neuadd bentref newydd

Dyna ni, felly. Os oes gan ddarllenwyr ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw unrhyw wybodaeth neu unrhyw atgofion am y cyfresi hyn, fe fydden i’n hapus iawn i glywed gennych!

Anfonwch neges at cymrufyw@bbc.co.uk