Pawb yng Nghymru sy'n cadw adar yn gorfod cofrestru
- Cyhoeddwyd
O ddydd Mawrth bydd yn rhaid i unrhyw un sy'n cadw adar yng Nghymru gofrestru eu hunain gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.
Cyn hyn, dim ond pobl oedd yn cadw 50 neu fwy o adar oedd yn gorfod cofrestru eu hadar yn gyfreithiol, ond o 1 Hydref ymlaen ni fydd maint yr haid yn berthnasol.
Ond nid oes angen cofrestru adar anwes os ydyn nhw'n byw dan do drwy'r amser.
Atal clefydau fel ffliw adar rhag lledaenu ydy pwrpas y rheolau newydd, a bydd gofyn i geidwaid gofrestru'n flynyddol.
'Newyddion llwyr i fi'
Fe allai'r rheiny sydd ddim yn cofrestru wynebu dirwy o hyd at 拢5,000 neu chwe mis o garchar, yn ddibynnol ar y niwed sydd wedi'i achosi.
Mae'r newidiadau yn dod i rym yn Lloegr hefyd.
Ond mae'n amlwg nad yw pawb sy'n cadw adar yn ymwybodol o'r rheolau newydd.
Mae Guto Lloyd-Davies o ardal Dinbych yn cadw un i芒r.
Dywedodd nad oedd wedi clywed am y newid yn y gyfraith, ac y gallai fod yn drafferth gorfod cofrestru yn flynyddol fel rhywun sy'n cadw un i芒r yn unig.
"Mae'n si诺r y byse hyn yn gallu bod yn boen, gorfod mynd ar-lein i gofrestru hefo dim ond un i芒r, a dim ond r诺an dwi'n clywed am hyn i fod yn onest," meddai wrth Cymru Fyw.
"Mi o'n i'n ymwybodol bod dyletswydd i reportio marwolaeth i芒r, ond ma' hwn yn newyddion llwyr i fi.
"Ar y llaw arall mae o'n gwneud synnwyr mae'n si诺r - gwybod yn union faint o adar sydd, ac yn lle maen nhw, yn enwedig hefo'r math o haint sy'n medru ymledu'n gyflym."
Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Materion Gwledig, y bydd "y gofyniad newydd hwn yn ein galluogi i gyfathrebu 芒 cheidwaid adar yn effeithiol, sy'n hanfodol i'n helpu i reoli achosion o glefydau fel ffliw adar".
"Rydym yn annog pob ceidwad yng Nghymru i gofrestru eu hadar."
Mae'r amaethwr a'r cyflwynydd Alun Elidyr yn gweld manteision y cynllun, ond yn dweud fod ganddo bryderon hefyd.
"Falle fod o鈥檔 syniad da i wybod faint o ddofednod a gedwir ym mhle er mwyn gallu ymateb yn gyflym i heintiau megis ffliw adar," meddai.
"Ond dwi鈥檔 gobeithio y bydd hysbysu effeithiol gan y rheoleiddwyr o鈥檙 drefn newydd, a bod dull hawdd i gofrestru, ac y bydd cymedroldeb doeth yn cael ei ddefnyddio ar 么l ei chyflwyno o ran gweithredu unrhyw gosbau.
"Mae yna beth wmbreth o bobl yn cadw i芒r neu ddwy i gael wyau i鈥檙 t欧, sy鈥檔 byw mewn ardaloedd gwledig ble mae鈥檙 rhyngrwyd yn dal yn affwysol o wael.鈥
Ychwanegodd Richard Irvine, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru: "Bydd y gofynion cofrestru newydd o 1 Hydref yn helpu ceidwaid adar i ddiogelu eu heidiau.
"Bydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn gallu cysylltu 芒 cheidwaid adar os oes achosion o glefyd hysbysadwy yn eu hardal, fel ffliw adar, i'w hysbysu am y camau y mae angen iddynt eu cymryd i ddiogelu iechyd eu hadar, ac i atal clefydau rhag lledaenu.
"Mae'n bwysig cofio bod hylendid a bioddiogelwch craff yn parhau i fod yn hanfodol i ddiogelu heidiau rhag bygythiad afiechydon.
"Mae ceidwaid adar wedi gweithio'n galed i ddiogelu eu heidiau rhag peryglon ffliw adar yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac rwyf am ddiolch iddynt am eu hymdrechion parhaus."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror
- Cyhoeddwyd11 Medi 2023
- Cyhoeddwyd27 Ionawr