大象传媒

Galw am edrych eto ar farwolaethau brawd a chwaer yn Sir Benfro

Griff a Patti ThomasFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd cyrff Griff a Patti Thomas eu darganfod yn eu ffermdy yn 1976

  • Cyhoeddwyd

Mae bargyfreithiwr troseddol blaenllaw wedi cefnogi ymgyrch sy'n galw ar Heddlu Dyfed Powys i ail-ddechrau ymchwilio i farwolaethau brawd a chwaer oedrannus yn eu ffermdy anghysbell yn Sir Benfro, bron i 50 mlynedd yn 么l.

Cafodd cyrff Griff a Patti Thomas eu darganfod gan bostmon yn Ffynnon Samson, ger Llangolman ym mis Rhagfyr 1976.

Mae'r bargyfreithiwr, Andrew Taylor yn credu bod rhai eitemau o dystiolaeth a gwybodaeth a gafodd eu casglu gan yr heddlu ar y pryd yn codi amheuon am y gred bod Griff Thomas wedi lladd ei chwaer cyn lladd ei hun.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod eu hadolygiad o'r achos yn parhau.

Nid yw teulu a ffrindiau'r brawd a chwaer oedrannus, a oedd wedi byw gyda鈥檌 gilydd ar hyd eu hoes, erioed wedi credu casgliadau鈥檙 heddlu am yr achos ac maen nhw wedi ymgyrchu ers tro i glirio enw Mr Thomas.

Ym mis Hydref 2022, fe gyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw am gynnal adolygiad fforensig o'r dystiolaeth gafodd ei chasglu yn 1974, er mwyn darganfod a allai technoleg forensig modern ateb y cwestiynau sydd, yn 么l llawer, heb eu hateb.

Enw'r ymchwiliad oedd Operation Hallam.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd cyrff Griff a Patti Thomas eu canfod yn ffermdy diarffordd Ffynnon Samson ger pentref Llangolman

Mae Andrew Taylor wedi cynrychioli sawl teulu mewn achosion lle cafodd euogfarnau o lofruddiaeth eu gwyrdroi ar 么l marwolaeth y rhai gafodd eu dyfarnu yn euog.

Bu'n dadlau achos Mahmood Mattan, y dyn olaf i gael ei grogi yng ngharchar Caerdydd a Timothy Evans, gafodd ei grogi am ladd ei wraig a鈥檌 ferch ond a gafodd bardwn yn ddiweddarach, ar 么l i鈥檙 llofrudd John Christie gyfaddef mai fo oedd yn gyfrifol.

Ar 么l darllen adroddiadau鈥檙 heddlu a phatholegwyr o'r ymchwiliad gwreiddiol i farwolaethau Griff a Patty Thomas, mae Andrew Taylor yn credu fod achos yr heddlu o'r cyfnod hwnnw yn fregus, a hynny am sawl rheswm.

Dwy baned ar eu hanner ar y silff ben t芒n

Un o'r rhesymau mwyaf trawiadol, yn 么l Andrew Taylor yw nad oes "unrhyw esboniad boddhaol" wedi ei gynnig gan naill ai'r heddlu na'r patholegydd i egluro bodolaeth hoelen gafodd ei darganfod yn y croen uwchben llygad Griff Thomas.

Roedd Griff wedi gwaedu鈥檔 arw, a'r gred yw iddo gael anaf i'w ben. Ond mi ddywedodd adroddiad yr heddlu y gallai hynny 鈥渇ynd yn groes鈥 i鈥檙 ddamcaniaeth nad oedd unrhyw un heblaw Griff a Patti Thomas yn Ffynnon Samson y noson honno.

Mae Mr Taylor hefyd yn credu fod diffyg tanwydd, neu unrhyw hylif i gynnal y t芒n yn arwyddocaol, yn enwedig os mai hunanladdiad oedd achos marwolaeth Griff Thomas.

Ac mae dwy baned ar eu hanner ar y silff ben t芒n yn ogystal 芒 phl芒t o fara menyn a chreision ar fraich cadair gyfagos yn awgrymu, yn 么l Andrew Taylor, bod rhywun cyfarwydd i'r brawd a chwaer wedi cael croeso yn y ffermdy ar y noson dan sylw.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Griff a Patti Thomas yn eu dyddiau iau

Daeth cwest yn Hwlffordd ym mis Chwefror 1977 i ben gyda rheithfarn o ddynladdiad i Patti Thomas a rheithfarn agored i farwolaeth Griff Thomas.

鈥淵n fy marn i, mae鈥檔 rhaid bod y crwner wedi dod i鈥檙 casgliad bod yna gwestiynau heb eu hateb... fel arall fe fyddai wedi dod i reithfarn o hunanladdiad,鈥 meddai Andrew Taylor.

鈥淓r lles y teulu, gobeithio y bydd yr heddlu yn ail-agor yr achos. Nid yw鈥檔 braf cael un o鈥檆h perthnasau wedi鈥檌 alw'n llofrudd.鈥

A allai John Cooper fod wedi llofruddio Griff a Patti?

Mae sawl un wedi cwestiynu dros y blynyddoedd a allai John Cooper, a gafodd ei ddyfarnu yn euog yn 2011 o ddwy lofruddiaeth ddwbl yn Sir Benfro, fod yn gyfrifol am farwolaethau Ffynnon Samson.

Wrth siarad 芒鈥檙 podlediad 'Death on the Farm', dywedodd yr arbenigwr fforensig Tracy Alexander, a fu鈥檔 gweithio ar achos Cooper, ei bod yn cofio bod ei enw鈥檔 cael ei grybwyll mewn cysylltiad 芒 marwolaethau Ffynnon Samson.

"Dywedodd rhywun ar y t卯m hwnnw 'rwy'n teimlo bod yna debygrwydd'," meddai.

鈥淩wy鈥檔 meddwl bod [yr heddlu] yn agored i鈥檙 awgrym ond roedd angen rhywbeth pendant arnyn nhw i allu ei symud ymlaen.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd John Cooper ei anfon i garchar am oes am ddwy lofruddiaeth ddwbl

Dywedodd Steve Wilkins, cyn uwch swyddog yn ymchwiliad John Cooper, wrth 大象传媒 Cymru y byddai'n "syndod" petai Cooper wedi bod yn gyfrifol am farwolaethau Griff a Patti Thomas, o ystyried bod miloedd o bunnoedd mewn arian parod wedi ei adael yn y ffermdy.

"Dwyn arian oedd cymhelliad penna' John Cooper... roedd yn droseddwr proffesiynol," meddai Mr Wilkins, sydd wedi ymddeol o'r heddlu ers hynny.

鈥淗efyd, roedd gan Cooper gysylltiadau cryf 芒鈥檙 lleoliadau lle roedd yn troseddu, ond doedd dim byd i鈥檞 gysylltu 芒鈥檙 ardal yn Llangolman, ac roedd gwahaniaethau rhwng llofruddiaethau Griff a Patti Thomas a鈥檌 droseddau eraill."

Croesawodd Mr Wilkins adolygiad yr heddlu o achos Ffynnon Samson, gan ychwanegu: "Mae'n ymgais i ddarganfod y gwir, ac i ateb y cwestiwn os oedd yna drydydd person yn gysylltiedig, ac os oes yna ffordd o sefydlu hynny, yna fe ddylai hynny ddigwydd."

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod yn parhau i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf gyda theulu Griff a Patti Thomas, gan ychwanegu: 鈥淣id yw鈥檙 amserlen ar gyfer cwblhau鈥檙 adolygiad yn gyhoeddus ar hyn o bryd, ond mae鈥檙 gwaith hwnnw yn parhau."