大象传媒

Teyrngedau i ddau ddyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad

Dafydd Craven-Jones a Morgan JonesFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Dafydd H没w Craven-Jones a Morgan Jones

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn ifanc o ardal Wrecsam wedi marw mewn gwrthdrawiad un cerbyd yn Sir Stafford dros y penwythnos.

Bu farw Dafydd H没w Craven-Jones, 18, o Dan-y-fron, a Morgan Jones, 17, o Goed-poeth, yn dilyn digwyddiad ar Cannock Road ym mhentref Penkridge toc cyn hanner nos, nos Sadwrn 25 Mai.

Dywedodd yr heddlu bod y ddau wedi marw yn y fan a'r lle.

Cafodd dwy ferch 17 oed eu cludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad hefyd, gydag un o'r merched mewn cyflwr difrifol.

Mae teuluoedd y ddau a fu farw wedi rhoi teyrngedau iddynt.

'Bywyd byr llawn cariad a hapusrwydd'

Dywedodd teulu Dafydd H没w Craven-Jones, gyrrwr y cerbyd, ei fod "yn enaid hyfryd, yn fab, brawd, ewythr, 诺yr ac aelod ardderchog o'r teulu i bawb oedd yn ei adnabod".

"Dafydd oedd y person mwyaf caredig a serchus buasech chi'n dymuno i'w gwrdd. Roedd ganddo ei ffyrdd arbennig ei hun ac roedd yn wahanol i bawb arall.

"Roedd pawb yn ei garu, babi'r teulu.

"Byddai Daf yn gwneud unrhyw beth i unrhyw un, er yn cwyno os oedd yn rhaid iddo dacluso ei ystafell wely."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae baner y Ddraig Goch a theyrngedau eraill yn nodi safle'r gwrthdrawiad

Ychwanegodd eu datganiad: "Roedd yn caru ei ffrindiau mwy na bywyd ei hun, ac yn drychinebus fe arweiniodd hyn at iddo adael y byd yma cyn pryd tra'n helpu ffrind ar y noson ofnadwy yma.

"Gallwn gysuro ein hunain y byddai Dafydd wastad yn mynd o'i ffordd i helpu eu ffrindiau.

"Hoffwn ddiolch i'w ffrindiau am yr holl negeseuon ac atgofion maen nhw wedi rhannu ohono a bod ei fywyd byr yn llawn cariad ac hapusrwydd."

'Roedden ni mor falch ohono'

Cafodd Morgan Jones ei ddisgrifio gan ei deulu fel "mab ac 诺yr serchus".

Mewn datganiad ar ran ei rieni, ei daid a'i fodryb, maen nhw'n dweud ei fod "yn ddyn ifanc caredig, gofalgar a chariadus yr oedden ni mor falch ohono".

"Roedd yn berson awyr agored oedd yn rhagori mewn rygbi, criced, marchogaeth a neidio ceffylau.

"Bydd yn cael ei golli'n fawr gan bawb o blith ei deulu rygbi, criced a marchogol, a'i deulu a'i ffrindiau.

"Roedd yn angerddol ynghylch ffermio ac roedd wedi sicrhau lle mewn coleg amaethyddol.

"Roedd yn ddyn ifanc poblogaidd ac roedd pawb yn ei garu."

Ffynhonnell y llun, Clwb Rygbi Wrecsam
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Clwb Rygbi Wrecsam wedi talu teyrnged hefyd i Dafydd Craven-Jones a Morgan Jones

Mae Clwb Rygbi Wrecsam wedi mynegi "tristwch enfawr a synnwyr dwfn o golled" o glywed am y marwolaethau.

Dywed y clwb bod y ddau wedi chwarae yn nhimau plant ac iau'r clwb "ac wedi gwneud eu marc yn y t卯m ieuenctid".

"Roedden nhw'n ffrindiau da ar ac oddi ar y cae a ni fydd modd llenwi'r bwlch y maen nhw'n ei adael."

Ychwanegodd datganiad y clwb bod "negeseuon caredig o gefnogaeth gan bawb oedd yn eu nabod a gan holl glybiau rygbi gogledd Cymru a thu hwnt" wedi eu "llorio".

"Mae ein meddyliau nawr gyda'r teuluoedd ar yr adeg torcalonnus yma ac rydym yn anfon ein cydymdeimladau diffuant."

Yn 么l pennaeth dros dro Coleg Ellesmere, Sir Amwythig, ble roedd Dafydd yn ddisgybl preswyl wythnosol ym Mlwyddyn 13, roedd yn "aelod adnabyddus ac uchel ei barch o gymuned yr ysgol" ac yn cynrychioli'r coleg yn rheolaidd fel aelod o'r timau rygbi, p锚l-droed a chriced.

Dywedodd Vicky Pritt-Roberts ei fod wedi bod ar daith ddiweddar i'r Ariannin gyda th卯m rygbi'r ysgol a'i fod 芒'r fryd ar yrfa gyda'r Awyrlu Brenhinol.

Ychwangodd fod ganddo "sgiliau t卯m arbennig - yn wir dyma oedd un o'i rinweddau arbennig".

Mae ffrind wedi cyhoeddi ap锚l ar ran teulu Morgan Jones am ffermwyr a fyddai'n fodlon fod yn rhan o'i daith olaf ddiwrnod ei angladd gan ei fod "wrth ei fodd gyda thractors".

"Fe fyddai'n golygu gymaint i'w deulu," ychwanegodd y neges.

Ymchwiliad heddlu'n parhau

Dywedodd y Rhingyll Richard Moors o Heddlu Sir Stafford a Gorllewin Canolbarth Lloegr fod y digwyddiad yn "drasig".

"Ry'n ni'n cydymdeimlo gyda theuluoedd a ffrindiau'r bobl ifanc sydd wedi colli eu bywydau yn y digwyddiad trasig yma, a'r rhai sydd wedi cael eu hanafu," meddai.

"Mae ymchwiliad manwl a llawn ar waith i geisio deall beth yn union wnaeth achosi'r gwrthdrawiad."

Ychwanegodd fod teuluoedd y bobl ifanc yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.