大象传媒

Teulu鈥檔 ofni bod Lucy Letby wedi anafu eu merch

Lucy LetbyFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Lucy Letby lofruddio saith o fabanod a cheisio llofruddio chwe babi arall rhwng 2015 a 2016

  • Cyhoeddwyd

Mae rhieni i ferch o Gymru a gafodd ei thrin pan yn fabi gan Lucy Letby yn anhapus na chawson nhw wybod am hynny gan yr awdurdodau.

Cafodd Emily Tarran ei geni yn Ysbyty Countess of Chester yng Nghaer ddiwrnod cyn i Letby gael ei symud o'r ward babanod yn 2016.

Y llynedd, fe gafodd y gyn-nyrs ei charcharu am oes am lofruddio saith babi a cheisio llofruddio chwech arall.

Mae Heddlu Sir Caer yn dweud bod eu hymchwiliad yn parhau.

鈥楩y merch yn ei dwylo hi鈥

Daeth rhieni Emily, Nicola a David Tarran, o hyd i nodiadau meddygol eu merch yn y eu cartref yn Yr H么b, Sir y Fflint, yn ddiweddar a chael braw o weld enw Lucy Letby ar y ddogfen.

Dywedodd Ms Tarran iddi deimlo鈥檔 鈥済orfforol s芒l鈥 pan welodd hi'r enw.

鈥淒aeth fy nghalon i fy ngheg wrth feddwl am fy merch yn ei dwylo hi," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Emily Tarran ei thrin gan Lucy Letby ddiwrnod cyn i'r gyn-nyrs gael ei symud o'r ward babanod

Cafodd Emily Tarran ei geni鈥檔 gynnar yn Ysbyty Countess of Chester ar 29 Mehefin 2016.

Oherwydd ei bod hi'n wan iawn, cafodd ei chymryd yn syth i鈥檙 uned gofal arbennig i fabanod, ble roedd hi o dan ofal Lucy Letby.

Ond cafodd y ferch fach ei symud yn ddirybudd i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, y diwrnod canlynol.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bellach yn saith oed, mae gan Emily Tarran sawl cyflwr iechyd gwahanol

鈥淔e ddaeth doctor i鈥檙 ward tua 01:00 a dweud bod angen symud Emily, ond chawsom ni ddim esboniad iawn," meddai Ms Tarran, 39.

"Mi sonion nhw rywbeth am y gwelyau.

鈥淐yn gynted ag y cyrhaeddodd hi Ysbyty Glan Clwyd, mi wellodd ei chyflwr yn syth.鈥

Cafodd Lucy Letby ei hatal rhag gofalu am fabanod ar 30 Mehefin, ac mae Nicola Tarran yn poeni y gallai staff yr ysbyty fod yn amau鈥檙 gofal roedd Letby yn ei roi Emily.

鈥淒wi鈥檔 poeni bod staff yr ysbyty yn gwybod rhywbeth a鈥檜 bod nhw eisiau Emily allan o鈥檙 uned ar frys," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Nicola a David Tarran yn ofni y gallai Letby fod wedi niweidio eu merch

Bellach yn saith oed, mae gan Emily Tarran sawl cyflwr iechyd gwahanol ac mae ei rhieni鈥檔 ofni y gallai hynny fod yn gysylltiedig 芒鈥檙 driniaeth a gafodd eu merch gan Letby.

鈥淒wi鈥檔 poeni ei bod hi wedi cael ei niweidio mewn rhyw ffordd a bod hynny wedi effeithio arni," meddai ei mam.

'Dim cysylltiad' gan yr heddlu

Mae Ms Tarran hefyd yn anfodlon mai trwy ddamwain y daeth hi a鈥檌 g诺r i wybod bod Letby wedi trin eu merch.

Mae鈥檔 credu y dylai鈥檙 heddlu fod wedi rhoi gwybod iddyn nhw.

Yn ei h么l hi, dydy鈥檙 heddlu ddim yn credu bod tystiolaeth fod Letby wedi niweidio Emily.

Ond mae Ms Tarran yn mynnu nad oes tystiolaeth i鈥檙 gwrthwyneb ychwaith.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nodiadau meddygol Emily Tarran yn enwi Lucy Letby fel un o'r staff oedd yn gofalu amdani cyn i'r baban gael ei symud i Ysbyty Glan Clwyd

Mewn ymateb, dywedodd Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Countess of Chester bod ymchwiliad ditectifs yn parhau ac mai Heddlu Sir Caer oedd orau i wneud sylw ar y mater hwn.

Dywedodd Heddlu Sir Caer 鈥渘a fyddai鈥檔 briodol i ni drafod achosion unigol鈥 tra bo'r ymchwiliad yn parhau.

鈥淧etai unrhyw beth yn codi sy鈥檔 achosi pryder meddygol, yna byddai鈥檙 t卯m ymchwilio yn cysylltu 芒鈥檙 teulu perthnasol.

鈥淥s oes gan rieni unrhyw bryder yngl欧n 芒鈥檜 babi, gallan nhw gysylltu gyda th卯m Ymchwiliad Hummingbird."

Pynciau cysylltiedig