P锚l-rwyd: Cymru 70-55 Trinidad a Tobago
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi ennill am yr eildro yng Nghwpan P锚l-rwyd y Byd, gan drechu Trinidad a Tobago o 70-55.
Roedden nhw ar y blaen o 18-14 ar y chwarter a 32-28 ar yr hanner, ac fe wnaethon nhw ymestyn eu mantais i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru'n gorffen yn bumed allan o chwech yng Ngr诺p F, a hynny yn ail rownd y gystadleuaeth.
Ddydd Mercher fe gollon nhw o 56-73 yn erbyn Uganda, a hynny ar 么l i Seland Newydd eu trechu o 83-34.
Roedd Cymru eisoes wedi colli i Jamaica a De Affrica, a churo Sri Lanka, yn y rownd gyntaf.
Mae ganddyn nhw un g锚m ar 么l yn y gystadleuaeth, i weld pwy fydd yn gorffen yn 9fed neu 10fed, a hynny yn erbyn Fiji neu'r Alban ddydd Sadwrn.