Prinder cyffur ffibrosis systig yn rhoi bywydau 'yn y fantol'
- Cyhoeddwyd
Mae iechyd ac, o bosib, bywydau miloedd o bobol sy鈥檔 byw gyda'r cyflwr ffibrosis systig yn y Deyrnas Unedig "yn y fantol", yn 么l Aelod o Senedd Cymru.
Mae鈥檙 cyffur Creon, sy'n cael ei ddefnyddio i reoli symptomau'r cyflwr, yn brin ac yn 么l Mabon ap Gwynfor, llefarydd iechyd Plaid Cymru, mae'r sefyllfa erbyn hyn yn "argyfwng".
Wrth i'r cyflenwad fynd yn fwy prin bob dydd, mae un tad o Gonwy yn poeni beth fydd hyn yn ei olygu i'w ddwy ferch sy鈥檔 byw hefo'r cyflwr.
Mae Imogen ac Anabel yn cymryd gwahanol feddyginiaethau tuag at y cyflwr, gan gynnwys y cyffur Creon.
"Cyn iddyn nhw ddechrau cymryd Creon doedden nhw methu rhoi pwysau ymlaen," meddai eu tad, David Fare.
"Pan mae鈥檙 genod yn bwyta, heb rhain, mae braster yn mynd syth trwodd a rhoi poen bol. Maen nhw鈥檔 gorfod cael un o鈥檙 rhain hefo bob 3-5 gram o fraster maen nhw鈥檔 ei fwyta."
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2023
Cyflwr geneteg ydi ffibrosis cystig sy鈥檔 cael effaith ar tua 11,000 o bobl ar draws y Deyrnas Unedig - gyda 450 o鈥檙 rheini yn cael triniaeth yng Nghymru.
Mae'r cyflwr yn achosi mwcws gludiog i gasglu yn yr ysgyfaint a'r system dreulio gan achosi heintiau a phroblemau gyda threulio bwyd.
Mae 80% yn gorfod cymryd tabled fel Creon gyda phob pryd o fwyd i reoli symptomau鈥檙 cyflwr.
"Rhwng y ddwy 'dan ni鈥檔 mynd trwy 30 Creon bob dydd," meddai David Fare. "Mae un potel o鈥檙 cyffur yn para tua deuddydd.
Ar hyn o bryd mae鈥檙 cyffur yn brin, ac yn 么l David mae bod hebddo yn risg.
"Mae tua mis o gyflenwad gennym ni ar 么l. Does na鈥檓 byd i gymryd yn eu lle nhw. Ar y funud 'dan ni鈥檔 iawn ond mae鈥檔 rywbeth i boeni amdano yn y tymor hir."
Er bod triniaeth sydd ar gael i fonitro鈥檙 cyflwr wedi datblygu, mae鈥檙 sefyllfa fel mae hi ar hyn o bryd yn poeni nifer o deuluoedd fel David a鈥檌 deulu.
鈥淢ae cyffuriau newydd 鈥榤a wedi dechrau gwella bob dim ac mae鈥檙 genod yn gallu byw bywydau normal erbyn hyn, ond pan mae problemau fel hyn yn codi, mae鈥檔 dadsetlo pethau.鈥
'Tipyn o argyfwng'
Mae'r AS Mabon ap Gwynfor yn galw am newid ar unwaith wedi i sawl un o'i etholaeth gysylltu yn poeni am y diffyg cyflenwad.
Dywedodd bod "wedi canfod nad ydi鈥檙 cyffur yn hawdd i鈥檞 gael ac felly methu cario ymlaen hefo鈥檙 gofal sydd ei angen arnyn nhw".
Ychwanegodd: "Mae鈥檔 dipyn o argyfwng o ystyried nad ydi鈥檙 cyffur yma sydd yn arbed eu bywydau nhw ar gael a bod rhaid i gleifion sydd angen y cyffur gwtogi arno neu yn achos rhai ei dorri allan yn llwyr.
"Mae鈥檙 ffaith eu bod nhw felly methu cael y cyffur er mwyn cael y maeth yma i鈥檞 cyrff yn golygu bod eu hiechyd nhw ac o bosib eu bywydau nhw yn y fantol."
Mae鈥檔 galw am fwy o fuddsoddiad gan y Llywodraeth felly er mwyn datblygu math arall o gyffur er mwyn sicrhau fod y gofal a鈥檙 trinaieth ar gael ar gyfer pobl sydd 芒 ffibrosis cystig a chlefydau tebyg.
"Mae鈥檔 bryder sylweddol. Dwi wedi bod mewn cysylltiad hefo鈥檙 Llywodraeth ac wedi rhoi pwysau arnyn nhw i drafod hefo Llywodraeth San Steffan. Mae angen gweld y ddwy lywodraeth yn cydweithio yn agosach er mwyn sicrhau bod cyflenwad o Creon ar gael ar gyfer y bobl sydd ei angen."
Dywed yr Ymddireidolaeth Ffibrosis Systig eu bod yn monitro cyflenwad Creon ar draws y DU ers diwedd 2023, pan roedd rhai yn profi ymyrraeth byr dymor i gyflenwadau.
Mae hynny, medden nhw, wedi achosi pryder a straen sylweddol, gyda rhai yn gorfod teithio i sawl fferyllfa i ddod o hyd i鈥檙 cyffur sydd yn hanfodol i鈥檙 rhieni sy鈥檔 byw hefo ffibrosis systig.
Ychwanegon nhw eu bod yn poeni fod rhai wedi eu gorfodi i newid eu deiet o ganlyniad i鈥檙 prinder mewn rhai achosion.
'Wynebu problemau cyson'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "cynnal parhad cyflenwad meddyginiaethau i'r Deyrnas Unedig yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig" ond eu bod yn "gweithio'n agos" gyda nhw a chyrff iechyd i sicrhau bod "unrhyw amhariad i'r cyflenwad yn cael ei leihau i'r rhan fwyaf o bobl" sy'n derbyn y feddyginiaeth.
Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn "wynebu problemau cyson sy'n effeithio argaeledd meddygyniaethau gan gynnwys Creon鈥.
Ychwanegodd llefarydd eu bod hefyd yn "gweithio'n agos gyda'r gwasanaeth iechyd ac eraill yn y gadwyn gyflenwi i geisio lleihau y risg i gleifion a sicrhau bod cynnyrch eraill ar gael tan bod eu meddyginiaeth arferol ar gael eto".