Gohirio cwest Cymro fu farw yn Prague ar 么l cael ei daro gyda photel
- Cyhoeddwyd
Bu farw dyn o Rondda Cynon Taf ar 么l cael ei daro gyda photel tra ar benwythnos stag yn y Weriniaeth Tsiec, mae cwest wedi clywed.
Fe glywodd y gwrandawiad ym Mhontypridd fod David 'Dai' Richards, 31, a oedd yn byw yn Aberpennar gyda'i bartner a'i blant, wedi teithio i Prague ar 19 Medi.
Clywodd y crwner fod yr amgylchiadau llawn yn dal yn "aneglur", ond fod 'na "ddigwyddiad ar y strydoedd lle cafodd ei daro ar ei ben gyda photel" nes ymlaen yr un noson.
Cafodd ei gludo i'r ysbyty a bu farw ar 21 Medi.
- Cyhoeddwyd25 Medi
Cafodd ymchwiliad post-mortem ei gynnal yn Ysbyty'r Brifysgol yn Prague.
Daeth hwnnw i'r casgliad fod Mr Richards wedi marw o ganlyniad i niwed i'r ymennydd.
Dywedodd y Crwner, Patrica Morgan, fod ganddi "reswm i gredu fod y farwolaeth yn un dreisgar neu annaturiol".
Fe agorodd y cwest cyn ei ohirio, gan ddweud bod angen rhagor o ymholiadau a thystiolaeth cyn dod i gasgliad.