Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Yr Uchel Lys i ddelio ag achos menyw wedi'i chyhuddo o lofruddio'i mab, 6
Mae dynes sydd wedi ei chyhuddo o lofruddio ei mab chwech oed a cheisio llofruddio ei thad wedi ymddangos yn y llys.
Mae Karolina Zurawska, 41, wedi ei chyhuddo o lofruddio Alexander Zurawski yn Abertawe fis Awst.
Fe ymddangosodd Karolina Zurawska yn yn Llys y Goron Abertawe fore Iau drwy gyswllt fideo o garchar Eastwood Park.
Dywedodd y bargyfreithiwr ar ran yr amddiffyn, John Hipkin KC, fod cynlluniau i gynnal adroddiadau seiciatryddol ar gyfer y diffynnydd.
Fe gadarnhaodd y barnwr, Paul Thomas, hefyd mai barnwr Uchel Lys fyddai'n delio gyda'r achos.
Cafodd Alexander Zurawski ei ganfod yn farw mewn eiddo ar Glos Cwm Du yn Gendros ar 29 Awst.
Mae ei fam hefyd wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio ei thad, Krzysztof Siwy, 67, yn gynharach ar yr un dyddiad.
Mewn datganiad wedi ei farwolaeth, dywedodd teulu Alexander ei fod yn blentyn "cl锚n iawn" oedd "wrth ei fodd yn chwarae gyda'i chwaer a'i gi".
Yn 么l Ysgol Gynradd y Garreg Wen, ble'r oedd Alexander yn ddisgybl, roedd yn fachgen "hoffus" a "phenderfynol".
Mae disgwyl i'r gwrandawiad nesaf gael ei gynnal ar 12 Rhagfyr.