大象传媒

Iwan Huws Cowbois: 'Teimlo fel cerddor eto'

Iwan HuwsFfynhonnell y llun, FfotoNant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Iwan Huws ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol 2023 gyda Cowbois Rhos Botwnnog

  • Cyhoeddwyd

Ar 么l dod yn dad i ddau o blant, cyfnodau clo Covid a chael llawdriniaeth ar ei galon mae cerddoriaeth wedi tawelu dros y blynyddoedd diwethaf i Iwan Huws o Cowbois Rhos Botwnnog.

Ond ers yr haf mae caneuon newydd, rhyddhau albwm byw a pherfformio o flaen miloedd yn yr Eisteddfod wedi arwain at gwestiwn cyson.

鈥淩oedd pobl yn dod aton ni yn deud 'da chi鈥檔 gwneud come back鈥 a finna鈥檔 meddwl 鈥榦, do鈥檔 i鈥檓 yn meddwl ein bod ni wedi rhoi鈥檙 gorau iddi鈥!" meddai Iwan, prif leisydd y band. "Ond roedd hi wedi bod yn gyfnod o rhyw dair blynedd pan oedda ni wedi bod yn ddistaw rhwng bob dim.鈥

Ac mae cryn dipyn wedi newid mewn tair blynedd.

Ar ddechrau 2020 roedd Cowbois Rhos Botwnnog ar fin cwblhau taith o gwmpas Cymru i nodi 10 mlynedd ers rhyddhau eu halbwm Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn. Canslwyd y gig olaf yn Aberteifi oherwydd dyddiau duon iawn wrth i Covid roi stop ar bopeth.

Ffynhonnell y llun, Mei Lewis/Cowbois
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cowbois Rhos Botwnnog wedi bod yn rhan o'r sin cerddoriaeth Cymraeg ers bron i ddau ddegawd

Tra bod rhai artistiaid wedi bod yn gynhyrchiol iawn ar lein yn ystod y pandemig, daeth popeth i stop i gerddorion eraill 鈥 yn cynnwys Cowbois. Gan bod y tri brawd o Ben Ll欧n sy鈥檔 asgwrn cefn y band 鈥 Iwan, Aled a Dafydd - hefyd yn magu plant doedd dod o hyd i鈥檙 amser i greu ddim bob tro鈥檔 hawdd.

Ac ar ben popeth, ym mis Ebrill 2022 fe gafodd Iwan broblemau gyda鈥檌 galon.

Eglurodd wrth Cymru Fyw: 鈥淒digwyddodd pethau mor gyflym doedd na鈥檓 amser i boeni, ond mae鈥檔 anoddach i鈥檙 bobl o dy gwmpas di. Roedd o reit annifyr ar y pryd pan ddigwyddodd pethau, ond unwaith ro鈥檔 i鈥檔 gwybod nad oedd 'na risg mod i am ddisgyn yn farw wrth chwarae efo鈥檙 plant yn y parc roedd o鈥檔 haws.

鈥淔el oedd y meddyg yn dweud, y broblem oedd gen i oedd problem mecanyddol 鈥 fel oedd y llawfeddyg yn ddweud y plumbing.鈥

Ffynhonnell y llun, Iwan Huws
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhai o'r darluniau wnaeth Iwan Huws eu creu wedi iddo fynd adref o'r ysbyty

Saith mis ar 么l darganfod y broblem, roedd y 鈥榩lymio鈥 yn golygu triniaeth hegar i drwsio falfiau'r galon.

Roedd y llawfeddygon yn Ysbyty Morriston, Abertawe, wedi eu plesio, ond un sgil effaith pryderus i鈥檙 cerddor a chyfieithydd oedd ei fod o'n cael trafferth i drin geiriau wedi鈥檙 driniaeth. Felly tan iddo fedru sgwennu a darllen yn iawn eto, fe ddechreuodd wneud lluniau i geisio delio efo鈥檙 hyn oedd o wedi bod drwyddo.

"Ar 么l dod adra ro鈥檔 i wedi dechrau blocio bob dim allan a nes i feddwl wna i ddechrau gwneud lluniau o鈥檙 profiad,鈥 meddai. 鈥淔el ro鈥檔 i鈥檔 eu gwneud nhw 鈥 un neu ddau bob dydd 鈥 ro鈥檔 i鈥檔 cofio mwy a mwy o bethau o鈥檔 i wedi eu rhoi o鈥檙 neilltu.

"Trwy鈥檙 lluniau nes i lwyddo i beidio blocio pethau allan 鈥 a nes i fedru gweld doedd o heb fod yn brofiad mor ddychrynllyd a hynny, doedd o ddim mor dywyll ac roedd yna bethau oedd yn gadarnhaol. Ac wedyn ar 么l tua mis do鈥檔 i jest ddim isho gwneud y lluniau ddim mwy, ro鈥檔 i wedi prosesu鈥檙 cyfnod. Roedd o鈥檔 ffantastig a faswn i鈥檔 argymell o i unrhywun.鈥

Caneuon newydd

Nid y profiad dirdynnol yma oedd y sbardun i ail-gydio yn y gerddoriaeth. Rhywbeth llai dramatig, ond effeithiol iawn: dedlein.

Roedd Iwan, sy鈥檔 dweud bod sgwennu caneuon yn broses araf iddo, wedi bod yn gweithio ar gynnyrch newydd ers tro, ers iddo ddod yn dad am y tro cyntaf chwe mlynedd yn 么l.

Ffynhonnell y llun, Dafydd Hughes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aled Hughes yn stiwdio Sain yn paratoi ar gyfer albwm stiwdio cynta'r band ers 2016. Hon fydd eu pumed record hir

"Yn syth ar 么l gorffen record fyddai鈥檔 sgwennu dau neu dri c芒n yn syth i ffwrdd 鈥 dwi鈥檔 meddwl ella鈥檙 cyffro o ryddhau rhywbeth ydi o. Felly mae 'na rai sydd wedi eu sgwennu yn fuan iawn ar 么l rhyddhau鈥檙 albym ddiwetha鈥 yn 2016.

"Mae pobl yn meddwl mod i鈥檔 sgwennu mewn ffordd hynod confessional a phersonol iawn gan fod y caneuon fel arfer yn y person cyntaf ac yn delynegol, ond maen nhw i gyd drwy lens a dwi鈥檔 cyffredinoli i raddau. Ac o bosib mod i鈥檔 cymryd gymaint o amser i鈥檞 sgwennu nhw, ac wedyn yn ail-sgwennu ac mae鈥檙 pethau dwi鈥檔 ffeindio yn rhy emosiynol yn dod allan."

Eisteddfod Boduan

Gyda digon o ganeuon newydd roedd teimlad ei bod hi鈥檔 bryd recordio eto, ond y ffaith bod Eisteddfod Genedlaethol 2023 yn dod i鈥檞 hardal genedigol nhw roddodd y "cic yn din" oedd ei angen ar y brodyr.

Chafodd yr albym ddim ei gwblhau mewn pryd i Foduan, ond rhyddhawyd EP a chafwyd perfformiad cofiadwy o flaen torf enfawr ar Lwyfan y Maes.

Ffynhonnell y llun, FfotoNant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd miloedd yn gwylio'r band ar Lwyfan y Maes ym Moduan fis Awst 2023

Roedd y cyfuniad o faint y dorf a鈥檙 ffaith nad oedden nhw wedi chwarae llawer ers sbel yn effeithio鈥檙 nerfau.

"Dwi鈥檓 yn un sy鈥檔 mynd yn nerfus fel arfer ond ro鈥檔 i鈥檔 tin droi drwy鈥檙 bore ac wedyn neshi feddwl waeth i fi fynd ar y Maes," meddai Iwan. "Eshi yna tua amser cinio a threulio tua chwe awr gefn llwyfan. Dwi鈥檔 teimlo bechod dros pobl sy鈥檔 mynd yn nerfus cyn bob perfformiad."

Mae Cowbois Rhos Botwnnog wedi chwarae ambell i gig arall o gwmpas Cymru ers hynny ac wedi recordio y rhan fwyaf o鈥檜 halbym - fydd yn cael ei rhyddhau yn y gwanwyn gyda thaith i鈥檞 hyrwyddo ar y gweill.

Yn y cyfamser, maen nhw鈥檔 benderfynol o orffen y daith gafodd ei chanslo oherwydd Covid.

Ar 2 Rhagfyr eleni fe fydden nhw鈥檔 chwarae鈥檙 gig honno yn Aberteifi, dair blynedd a hanner yn hwyr, ac mae albym o berfformiad byw y band gafodd ei recordio yn Y Galeri yn ystod y daith newydd gael ei rhyddhau.

Ffynhonnell y llun, FfotoNant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cowbois Rhos Botwnnog mewn gig yn Nant Gwytheryn fis Hydref 2023. Bydd mwy yn cael eu trefnu yn 2024

Efo dau o鈥檙 brodyr dal i yn y gogledd ac Iwan yn Aberystwyth, tydi ddim mor hawdd dod at ei gilydd 鈥 yn enwedig gyda gwaith a magu plant yn rhan o鈥檙 fargen.

Teimlo'n lwcus

Er nad oedden nhw erioed wedi rhoi鈥檙 gorau iddi er mwyn gallu 鈥榙od yn 么l鈥, dywed Iwan bod cerddoriaeth yn chwarae rhan mwy canolog yn eu bywydau unwaith eto ac maen nhw鈥檔 ymwybodol eu bod nhw鈥檔 ffodus o hynny:

鈥淲naethon ni ddechrau pan o鈥檔 i鈥檔 15 鈥 sy鈥檔 18 mlynedd yn 么l a 'da ni鈥檔 gwybod pa mor lwcus yda ni i fedru cario mlaen i wneud hyn. Mae 'na lot o fandiau, rhai da oedda ni鈥檔 arfer chwarae efo nhw back in the day, 'da ni鈥檓 yn clywed amdanyn nhw r诺an, ond mi rydan ni yn dal i chwarae 鈥 drwy lwc, a hefyd drwy ymdrech a gwaith caled.

鈥淧an mae rhywun yn cael plant mae rhywun yn gorfod addasu, a tydi o ddim yn hawdd bob tro gwneud pethau creadigol. Mi rydan ni鈥檔 gorfod derbyn r么l wahanol a dwi wedi arafu o ran creu cerddoriaeth a chwarae yn fyw, ac mae鈥檔 neis i gael yr ochr yna yn 么l.

鈥淎 dwi鈥檔 teimlo鈥檔 fwy fel cerddor na dwi wedi ei wneud ers tro ac mae hynny鈥檔 braf.鈥

Pynciau cysylltiedig