大象传媒

Cyhuddo dyn o ddynladdiad dyn 22 oed yn Llanelli

Liam Rhys Morgan-WhittleFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Liam Rhys Morgan-Whittle yn yr ysbyty ddiwedd mis Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 39 oed o Lanelli wedi cael ei gyhuddo o ddynladdiad yn dilyn marwolaeth dyn arall yn y dref fis diwethaf.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i fflat ar Heol Robinson y dref yn yr oriau m芒n y bore ddydd Sadwrn, 25 Mawrth, yn sgil pryder am les dyn yno.

Fe gafodd Liam Rhys Morgan-Whittle, 22, ei gludo i'r ysbyty ond bu farw yno'n ddiweddarach.

Cafodd Jason Thomas ei arestio yn fuan wedi'r digwyddiad a'i ryddhau ar fechn茂aeth amodol tra bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau.

Mae bellach wedi cael ei gyhuddo o ddynladdiad, ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ddiwedd Mai.