大象传媒

Gwylanod yn nythu yn atal tr锚n rhag gadael M么n

GwylanFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Bu'n rhaid canslo tr锚n o Gaergybi ddydd Llun gan fod gwylanod yn nythu ar drac reilffordd.

Roedd yn fwriad i symud tr锚n gwag o Ynys M么n i safle cynnal a chadw yn Abertawe.

Ond pan gyrhaeddodd y criw, doedd dim modd symud y tr锚n heb amharu ar nyth yr adar, sy'n rhywogaeth sy'n cael ei warchod.

Roedd pob trac posib arall wedi eu blocio, ac felly bu'n rhaid canslo'r daith.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gwylanod wedi nythu rhwng y traciau yng Nghaergybi

Cerbyd dosbarth 175 yw'r tr锚n dan sylw - math oedd yn cael ei ddefnyddio gan Drafnidiaeth Cymru tan 2023.

Roedd nifer ohonyn nhw'n cael eu cadw yng Nghaergybi cyn cael eu symud i weithfeydd Gland诺r yn Abertawe.

Dyma oedd y tr锚n olaf i gael ei symud, ond roedd yn amhosib i hynny ddigwydd ddydd Llun gan fod yr adar yn nythu mor agos i'r trac.

Dywed Network Rail bod hi'n fwriad i aildrefnu'r daith gan ddefnyddio trac arall, fel bod y gwylanod yn cael llonydd i orffen nythu.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dydy'r sefyllfa heb amharu ar deithiau arferol i ac o Gaergybi - dim ond taith y locomotif ar y dde gyda'r cerbyd dosbarth 175

Dywedodd llefarydd: 鈥淣id oedd modd symud tr锚n gwag o'r seidins yng ngorsaf Caergybi gan fod gwylanod yn nythu ar lein liniaru.

鈥淩oedd yr uned i fod i deithio i Land诺r yn Abertawe ond mae'r gwylanod 鈥 rhywogaeth dan warchodaeth 鈥 yn nythu ar y trac.

鈥淩oedd llwybr arall o Gaergybi wedi ei flocio gan dr锚n arall, oedd heb griw, oherwydd doedd dim teithiau eraill wedi eu trefnu tan yn ddiweddarach yn y dydd.鈥