大象传媒

Dim teithiau uniongyrchol i Baris o Faes Awyr Caerdydd

Arwydd Maes Awyr CaerdyddFfynhonnell y llun, Maes Awyr Caerdydd
  • Cyhoeddwyd

Mae Maes Awyr Caerdydd yn cynnal trafodaethau gyda chwmn茂au hedfan er mwyn ceisio sicrhau teithiau uniongyrchol rhwng y ddinas a Paris.

Mae'n dilyn penderfyniad cwmni Eastern Airways i stopio eu gwasanaeth nhw rhwng Caerdydd a Maes Awyr Orly ar gyfer amserlen newydd yr haf.

Fe fydd y gwasanaeth, a gafodd ei lansio fis Ebrill y llynedd, yn dod i ben ar 30 Mawrth.

Dywedodd llefarydd ar ran Maes Awyr Caerdydd, sydd dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru, eu bod "yn trafod gyda chwmn茂au hedfan i ddarparu hediadau uniongyrchol" rhwng y ddwy ddinas.

Maen nhw hefyd yn pwysleisio ei bod hi'n dal yn bosib teithio o Gaerdydd i wyth o ddinasoedd yn Ffrainc, gan gynnwys Paris, ar awyrennau sy'n teithio trwy Amsterdam.

Eastern Airways oedd yn arfer cynnal teithiau awyren rhwng Caerdydd ac Ynys M么n nes i hediadau ddod i ben pan darodd y pandemig ym Mawrth 2020.

Ffynhonnell y llun, AirTeamImages.com

Dyma'r ergyd ddiweddaraf i'r maes awyr ym Mro Morgannwg.

Fe wnaeth y cwmni Wizz Air ganslo ei holl wasanaethau o'r safle ddechrau 2023 oherwydd sefyllfa economaidd heriol.

Daeth i'r amlwg ym mis Chwefror bod y safle'n parhau i wneud colled fawr, ac yn cael trafferth denu teithwyr yn 么l i'r un lefelau 芒 chyn y pandemig.

Pum cwmni fydd yn cynnig teithiau masnachol o'r maes awyr dan yr amserlen newydd - KLM, Ryanair, Vueling, Aer Lingus a Logan Air.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn feirniadol o'r dechrau ynghylch penderfyniad Llywodraeth Cymru i brynu'r maes awyr.

Dywedodd llefarydd trafnidiaeth y blaid, Natasha Asghar: 鈥淕yda chwmni hedfan arall yn tynnu'n 么l a dal dim golwg o'r teithiau sydd wedi eu gaddo rhwng Caerdydd a Doha, mae Maes Awyr Caerdydd yn parhau i fod yn fenter sy'n methu dan Lywodraeth Lafur Cymru."

Ychwanegodd bod y safle'n "fwrn" i'r llywodraeth 鈥済yda gweinidogion yn gwario degau o filiynau o bunnau i'w gynnal" a bod angen i'r Gweinidog Trafnidiaeth newydd, Ken Skates, flaenoriaethu "amrywiaethu'r maes awyr os ydym am weld newid positif gwirioneddol".