Apêl wedi difrod mewn mynwent yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd
"Rhag eich cywilydd chi a pheidiwch â dod yn ôl," medd cynghorydd ward Peblig yng Nghaernarfon wedi i feddau gael eu fandaleiddio yn hen fynwent Llanbeblig.
Mae yna apêl am wybodaeth wedi'r difrod - sy'n cynnwys peintio graffiti o air anweddus ar fedd.
Mae yna ryw 2,500 o bobl wedi eu claddu ym mynwent Llanbeblig ar hyd y canrifoedd.
Dywed gwirfoddolwyr, sy’n cynnal a chadw’r safle, eu bod wedi cael eu siomi a’u bod yn flin wedi i rai beddau gael eu difrodi ac ar feddau eraill roedd graffiti.
Mae John Davies yn un o’r rhai sydd yn rhoi ei amser bob wythnos i geisio gwneud yn siŵr bod y cyhoedd yn gallu mynd at y beddau.
"'Oedd 'na ddau fedd un o’r 1700au a’r llall o'r 1880au - un 'di cael ei falu yn siwrwd a’r llall 'di trio agor y bedd.
"'Di o ddim yn iawn... 'dyn nhw ddim i fod i distyrbio beddi… mae o’n anhygoel," meddai.
"Mae 'na rywun wedi sgwennu slag [ar fedd arall]. Dydi o ddim yn dangos parch i bobol yn y bedd yna… dydi o ddim yn dangos parch i hanes y bobol yna a dydi o ddim yn dangos parch i’r eglwys na’r fynwent."
Un arall sydd wedi ei siomi yn fawr efo'r digwyddiadau diweddar ydi Alun Roberts, sydd hefyd yn gwirfoddoli i gynnal a chadw’r hen fynwent.
"Peth arall sy’n digwydd - 'dan ni wedi rhoi llwybrau efo pren mân arnyn nhw ac o dano fo mae na sheet du," meddai.
"Maen nhw wedi codi’r rheiny hefyd gan achosi gwaith ond dim byd i gymharu efo’r graffiti. Dwi’n teimlo’n drist."
Mae'r hyn sydd wedi digwydd wedi gwylltio pobl sy'n byw gerllaw hefyd.
"Mae’n warthus bod atgofion hen bobol Caernarfon yn cael eu sarhau. Dydi o ddim yn iawn," medd Rhys Prydderch.
Meddai Lowri Roberts: "Dydi o ddim yn neis iawn a finna yn byw dros y lôn. Ddylsan nhw ddim gwneud petha fel'na.
"Dwi ddim yn hapus o gwbwl. Hwyrach se’n well cael camerâu yna."
- Cyhoeddwyd30 Awst 2018
Y Cynghorydd Dewi Jones sy’n cynrychioli ward Peblig ar Gyngor Gwynedd. Dywedodd y dylai’r rhai sydd wedi achosi’r fandaliaeth deimlo cywilydd mawr ac mae ganddo neges i’r sawl fu'n gyfrifol.
"Y neges yn syml ydi rhag eich cywilydd chi a pheidiwch â dod yn ôl.
"Does 'na ddim lle i bethe fel hyn yng Nghaernarfon. 'De ni ddim yn mynd i ddiodde' fo."
"Mae 'na rywun yn gwybod pwy sydd wedi bod wrthi a fuaswn i’n annog y bobol yna i roi gwybod i’r heddlu fel bod ni’n gallu dod â phwy bynnag sydd wedi gwneud hyn i gyfri.
"Dydan ni ddim yn derbyn y math yma o ymddygiad yng Nghaernarfon."
Dywedodd y Canon Dylan Williams: "Rwy'n siomedig a rhwystredig iawn wedi blynyddoedd math o waith caled bod rhai pobl wedi meddwl bod hi'n dderbyniol i achosi difrod ac amharchu'r rheiny sydd wedi eu claddu yn y fynwent.
"Rydym yn benderfynol fodd bynnag na fydden ni'n cael ein trechu ac y bydd y gwaith da yn parhau wrth i ni ymdrechu i wneud y fynwent yn le gwell i bobl dda Caernarfon."