大象传媒

Eryri: Oriel luniau o'i llynnoedd

  • Cyhoeddwyd

Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi safoni cannoedd o enwau llynnoedd mewn ymgais i ddiogelu enwau Cymraeg cynhenid.

Dyma oriel o rai o leoliadau hardd yr ardal.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Llyn Padarn - sydd weithiau'n cael ei alw'n Llanberis Lake - wedi dod yn lle poblogaidd i hamddena. Mae llun y goeden yma i'w weld yn aml ar y cyfryngau cymdeithasol lle mae'n cael ei alw yn 'The Lonely Tree'. Yn ddiweddar newidiodd caffi cyfagos ei enw i'r Lonely Tree Cafe. Er bod yr olygfa yma tuag at Yr Wyddfa a'i chriw yn adnabyddus iawn, mae ffiniau'r parc yn dechrau ochr arall i lynnoedd Padarn a Peris

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llyn Padarn o'r pen arall, o'r llwybr 'sig-sag' oedd chwarelwyr yn ei defnyddio i fynd i'w gwaith. Sant o'r chweched ganrif oedd Padarn, ac mae Eglwys Padarn yn Llanberis. Ond mae enw'r pentref yn cyfeirio at sant arall - Peris. Mae Eglwys Peris ychydig filltiroedd i fyny'r dyffryn yn Nantperis

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Mae rhyw ddewin 芒 dieflig hud yn gwneuthur gweld ei wyneb i mi'n nef' meddai TH Parry Williams yn ei gerdd Llyn y Gadair. Mae cartref y bardd - T欧'r Ysgol, Rhyd Ddu - i'w weld yn y llun. Mae panel safoni enwau lleoedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dweud y dylid cyfeirio at Lyn y Gadair - nid Llyn y Gader, sef ffurf yr Arolwg Ordnans, gan eu bod nhw wedi cymysgu gyda...

Ffynhonnell y llun, Y Goron
Disgrifiad o鈥檙 llun,

... Llyn y Gader - nid Gadair - sydd yng nghysgod Cader Idris, ger Dolgellau

Ffynhonnell y llun, Y Goron
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ffordd Brailsford, llwybr beicio sydd wedi ei enwi ar 么l Syr David Brailsford, yn mynd heibio i Lynnau Mymbyr, ger Capel Curig

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llyn Tegid - nid Lake Bala yn 么l argymhelliad panel safoni enwau lleoedd Awdurdod y Parc - o gyfeiriad Aran Fawddwy. Mae enw'r llyn yn cael ei gysylltu gyda chwedl Tegid Foel

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llyn gyda'r Wyddfa ar un pen a llechen Dyffryn Nantlle ar yr ochr arall - all hwn ond fod yn Llyn Nantlle a nunlle arall

Ffynhonnell y llun, Y goron
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llyn Ogwen, yng nghysgod Tryfan. Yn nes at y copa mae Llyn Bochlwyd, un o'r llynnoedd sydd wedi codi pryderon gan fod rhai yn ei galw yn Lake Australia oherwydd ei si芒p

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Llwybr y Mwynwyr yn mynd heibio i Lyn Llydaw ac yna Glaslyn cyn ymuno efo Llwybr y Pyg ac ymlaen i gopa'r Wyddfa - mynydd mae awdurdod y parc eisoes wedi penderfynu cyfeirio ato yn Gymraeg yn unig

Ffynhonnell y llun, Y Goron
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pont ar draws Llyn Trawsfynydd. Yn y cefndir mae adeilad hen atomfa niwclear Trawsfynydd, gafodd ei lleoli yma er mwyn defnyddio d诺r y llyn i oeri'r adweithyddion

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llyn y Dywarchen, sy'n cyfeirio at y dywarchen enwog (nid yr ynys yn y llun) fu'n symud yn raddol ar draws y llyn. Mae s么n amdani gan Gerallt Gymro yn 1188, gan Edmund Halley yn 1698 a Thomas Pennant yn 1784. Mae'r llyn hefyd yn lleoliad hen chwedl Tylwyth Teg

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae straeon am y Tylwyth Teg hefyd yn Llyn Cwellyn, sydd ond rai milltiroedd i ffwrdd o Llyn y Dywarchen

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nid ceffyl ond dafad uwchben Llyn Marchlyn Bach, yng nghysgod Elidir Fawr, ger Dinorwig

Disgrifiad o鈥檙 llun,

A dyma Marchlyn Mawr, un o nifer o lynnoedd Cymru sydd ag argae ar eu traws. Ar rai adegau o'r dydd bydd y d诺r yma yn cael ei ollwng i lawr siafft ac yn troi tyrbin yn y gwaelod i greu trydan. Bydd y d诺r wedyn yn rhedeg i...

Disgrifiad o鈥檙 llun,

... Lyn Peris, gyda phwerdy Dinorwig ar ei lan. Bydd y d诺r yn cael ei bwmpio yn 么l i dop y mynydd ar 么l cynhyrchu'r trydan er mwyn dechrau'r broses eto