Hwb iechyd meddwl yn Sir G芒r yn 'amhrisiadwy'
- Cyhoeddwyd
Mae pobl ifanc yn Sir G芒r wedi disgrifio'r cymorth amhrisiadwy maen nhw wedi鈥檌 gael gan hwb iechyd meddwl i bobl ifanc mewn argyfwng.
Y ganolfan yng Nghaerfyrddin yw'r un cyntaf yng Nghymru i ddarparu cymorth 24 awr y dydd, gan osgoi'r angen i blant sydd mewn argyfwng aros mewn adrannau brys ysbytai.
Dywedodd rhai o'r bobl ifanc fod y gwasanaeth yn un all achub bywydau'r rhai mwyaf bregus.
Daw hynny yn dilyn "cynnydd dramatig yn y galw" am wasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc.
'Becso amdanom ni'
Dywedodd Poppy Parsons,聽sy'n 18 oed, ei bod wedi hunan-niweidio o'r blaen a chanfod bod cyfnod mewn ysbyty yn aml iawn yn gallu gwneud pethau鈥檔 waeth.
"Chi'n cyrraedd A&E am 02:00 nos Sadwrn, dwedwch, ac mae ganddoch chi bobl meddw, yr heddlu, pobl yn crio," meddai.
"Dyw hwnna ddim lle chi moyn cael breakdown, pobl yn edrych arnoch chi'n synn yn wyndran be' chi'n 'neud 'na, be' sy'n bod 'da hon?"
Mae'n dweud bod defnyddio gwasanaethau'r hwb wedi "rhoi persbectif newydd" iddi ar fywyd, gan ganmol y staff yn enwedig.
"Mae'n destament i faint maen nhw'n becso amdanon ni," meddai. "Chi'n cerdded mewn a chi'n teimlo bod chi'n cael eich croesawu.
"Dwi'n drist bod pobl yn dioddef, ond dwi'n hapus bod lle fel hyn i'w helpu nhw."
Mae bellach wedi cael cynnig diamod i astudio gwleidyddiaeth Ffrainc a gwleidyddiaeth ryngwladol yn y brifysgol y flwyddyn nesaf, gan ddweud na fyddai hynny wedi bod yn bosib oni bai am yr help a gafodd.
"Heb yr help fi 'di cael, bydden i ddim hyd yn oed wedi ystyried hyn," meddai.
Un arall sydd wedi elwa o'r hwb yw Mia, 16.
Fe gyrhaeddodd bwynt o argyfwng a chael ei chyfeirio at y t卯m, lle cafodd ei hasesu a chael cynnig cymorth gan seicolegydd, yn ogystal 芒 gwaith therapi gr诺p, wnaeth olygu ei bod hi'n teimlo'n llai unig.
"Dair blynedd yn 么l doeddwn i ddim yn gallu gadael y t欧," meddai.
"Fyddwn i ddim hyd yn oed yn mynd i weld fy ffrindiau, ond nawr rydw i'n edrych ar fynd i'r coleg, mae gen i swydd ac mae pethau'n symud ymlaen.
"Mae'n golygu'r byd i mi.
"Mae鈥檙 buddsoddiad hwn yn dangos eu bod yn gofalu amdanom ni fel pobl ifanc, yn poeni amdanom, a dyna sydd ei angen arno ni."
'Dyma'r lle gorau iddyn nhw'
Mae'r gwasanaeth yn cael ei redeg gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda, gyda chyllid yn cyrraedd yn dilyn y cytundeb cydweithio sy'n bodoli rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Hyd yma mae ychydig dros 拢3m wedi'i wario, gyda chanolfannau eraill yn cael eu datblygu yn ardaloedd byrddau iechyd Betsi Cadwaladr, Bae Abertawe ac Aneurin Bevan.
Dywedodd Angela Lodwick, sy'n arwain gwasanaethau iechyd meddwl plant Hywel Dda, eu bod wedi gweld "cynnydd aruthrol" yn nifer y bobl ifanc sy'n cael eu cyfeirio atyn nhw.
"Rydyn ni wedi cael cynnydd mawr mewn pryder ac OCD (anhwylderau obsesiynol cymhellol), ac anhwylderau bwyta yn arbennig ers y pandemig," meddai.
"Rydym wedi gweld cynnydd amlwg yn nifer y bobl ifanc sy鈥檔 cyflwyno hunan-niwed, a chynnydd sylweddol yn y bobl ifanc hynny sy鈥檔 mynd i鈥檙 adran ddamweiniau ac achosion brys.
"'Dyn ni'n gwybod nad dyma'r lle gorau iddyn nhw fod, o ystyried y pwysau sylweddol sydd yno.
"Mae gennym ni lawer o gysylltiadau rhwng y bobl yma a'r heddlu, ac unwaith eto, nid dyma'r defnydd gorau o鈥檜 hadnoddau.
"I fod yn deg, dydyn nhw ddim wedi'u hyfforddi cystal 芒 ni i helpu pobl."
Gobaith am fwy?
Mae'r bwrdd iechyd hefyd wedi datblygu "noddfeydd" (sanctuaries) yn Aberystwyth a Hwlffordd gyda sefydliadau o'r sector wirfoddol.
Dywedodd y dirprwy weinidog dros iechyd meddwl a lles, Lynne Neagle, fod y cyllid yn rhan o fuddsoddiad ehangach mewn gwasanaethau i bobl ifanc, gan gynnwys cymorth mewn ysgolion.
"Mae'n ymwneud 芒'r agwedd 'dim drws anghywir' at iechyd meddwl," meddai.
"Hynny yw, pan fydd ei angen ar bobl ifanc, mae'r gefnogaeth yno ar eu cyfer ble bynnag maen nhw.
"Boed yn ysgol, meddygfeydd teulu neu os ydyn nhw mewn argyfwng, mae rhywle fel hyn ar gael."
Sian Gwenllian yw'r Aelod Senedd o Blaid Cymru sy'n arwain ar y gwaith o gydweithio mewn 46 maes polisi gyda Llywodraeth Cymru.
"Yn aml, gall pobl ifanc gael eu derbyn i ward seiciatrig oedolion neu fynd i uned arbennig sy'n darparu ar gyfer pobl ifanc, ond nid dyna'r ateb cywir bob amser," meddai.
"Mewn llawer o achosion, gyda'r gefnogaeth gynnar gywir, gyda'r gofal cywir, gyda'r agwedd gywir, gall pobl ifanc symud ymlaen a dod yn wydn.
"Rydym yn gobeithio y bydd yr agenda ataliol hon yn cael ei chyflwyno ledled Cymru."