大象传媒

Addysg amaeth i ddisgyblion yn y Ffair Aeaf

Plant yn y Ffair Ffynhonnell y llun, Ysgol Henry Richard
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cymdeithas y Sioe yn awyddus i addysgu mwy o blant am darddiad eu bwyd

  • Cyhoeddwyd

Bydd y Ffair Aeaf yn cynnig mynediad am ddim eleni i dripiau ysgol er mwyn rhoi鈥檙 cyfle iddyn nhw ddysgu am amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd.

Mae cannoedd o bobl, yn arddangoswyr ac ymwelwyr, yn edrych 'mlaen yn eiddgar at y Ffair Aeaf, fydd yn cael ei chynnal yn Llanelwedd ddydd Llun a Mawrth.

Mae鈥檙 Ffair yn cael ei chydnabod fel un o sioeau stoc gorau Ewrop.

Eleni, bydd tripiau ysgol yn cael mynediad am ddim a bydd cost mynediad rhatach i fyfyrwyr addysg uwch, o gofrestru ymlaen llaw.

Mae Cymdeithas y Sioe yn awyddus bod plant yn dysgu mwy am sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, am y gadwyn gyflenwi ac am gefn gwlad yn gyffredinol.

Roedd dros 1,000 o blant ysgol a myfyrwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt wedi ymweld 芒鈥檙 Ffair y llynedd.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Henry Richard
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhai o ddisgyblion Ysgol Henry Richard, Tregaron, yn mwynhau yn y Ffair Aeaf y llynedd

Un ysgol sydd yn mynychu鈥檙 Ffair bob blwyddyn ers 20 mlynedd ac sydd wedi trefnu trip eto eleni i 133 o鈥檜 disgyblion yw Ysgol Henry Richard, Tregaron.

Bydd tri bws yn mynd i鈥檙 Ffair, yn ddisgyblion blynyddoedd 7, 8 a 9 a鈥檙 rheiny sy鈥檔 astudio Amaeth a Bwyd a Maeth i lefel TGAU.

Mae 26 yn astudio Amaeth fel pwnc TGAU ac 20 yn astudio Bwyd a Maeth yn yr ysgol.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Henry Richard
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 26 yn astudio Amaeth fel pwnc TGAU ac 20 yn astudio Bwyd a Maeth yn Ysgol Henry Richard, Tregaron

Yn 么l Eleri James, athrawes Amaeth yn ogystal 芒 Bwyd a Maeth, mae鈥檙 tripiau hyn i鈥檙 Ffair Aeaf yn fwy poblogaidd na鈥檜 tripiau haf fel arfer.

"Mae鈥檔 agoriad llygad i鈥檙 disgyblion weld be sydd gan y diwydiant amaeth ei gynnig," meddai.

Ychwanegodd bod 60% o鈥檜 disgyblion yn dod o gefndir amaethyddol.

"Gan bod Ysgol Henry Richard wedi ei leoli mewn tref amaethyddol, mae'n bwysig bod disgyblion yr ysgol yn deall pwysigrwydd amaethyddiaeth i'n cymunedau, diwylliant a'r iaith Gymraeg.

"Wrth ymweld 芒'r Ffair Aeaf, mae'n gyfle i'r disgyblion weld y gwaith caled sy'n digwydd o fewn y diwydiant ac i greu cysylltiad rhwng yr hyn sy'n cael ei ddysgu o fewn ein gwersi Amaeth a Bwyd a Maeth.

"Ni鈥檔 trafod lleihau milltiroedd bwyd, prynu cynnyrch lleol ac ati, ac mae鈥檙 cyfan yn cael ei atgyfnerthu gyda thrip i鈥檙 Ffair Aeaf."

Ffynhonnell y llun, Eleri James
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Eleri James, mae 'na blant "sydd ddim mor ymwybodol o darddiad bwyd, o鈥檙 giat i鈥檙 plat, fel petai, felly mae mynd i鈥檙 Ffair Aeaf yn gyfle gwych iddyn nhw"

Addysgu plant yn hanfodol

Yn agor y Ffair Aeaf yn swyddogol fore Llun fydd dirprwy lywydd NFU Cymru, Abi Reader, ac mae hithau鈥檔 awyddus iawn i addysgu鈥檙 genhedlaeth nesaf.

Hi yw鈥檙 drydedd genhedlaeth o鈥檌 theulu i ffermio eu fferm gymysg yng Ngwenf么 ychydig y tu allan i Gaerdydd, ac mae鈥檔 gwneud hynny gyda'i rhieni a'i hewythr.

Mae Fferm Goldsland yn gartref i 200 o wartheg godro, 150 o ddefaid, 90 o wartheg eidion a 120 erw o dir 芒r.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Abi Reader yn teimlo'n angerddol bod angen gwella ymwybyddiaeth pob plentyn am fyd amaeth.

Mae Abi yn gyd-sylfaenydd 鈥楥ows on Tour鈥, prosiect sy鈥檔 ceisio gwella gwybodaeth pob plentyn am fyd amaeth, yn enwedig plant o ardaloedd trefol.

Mae鈥檔 teimlo鈥檔 gryf y dylai pob person ifanc fod ag ymwybyddiaeth sylfaenol o dechnegau amaethyddiaeth a dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o'r 'cynnyrch terfynol' sef y bwyd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gwobr Goffa John Gittins yn cael ei rhoi i Moss Jones am ei gyfraniad eithriadol i'r diwydiant defaid yng Nghymru

Yn dilyn yr agoriad swyddogol, bydd cyflwyno gwobrau鈥檙 Gymdeithas.

Enillydd Gwobr Goffa John Gittins eleni yw Cyn-Ysgrifennydd Cymdeithas Bridwyr Defaid Miwl Cymru, Moss Jones o Landre, Aberystwyth.

Mae鈥檙 wobr yn cael ei rhoi am ei gyfraniad eithriadol i'r diwydiant defaid yng Nghymru.

Mae Mr Jones wedi rhoi ei fywyd i'r diwydiant defaid a chig eidion yng Nghymru drwy ei waith gyda gwahanol sefydliadau amaethyddol a chymdeithasau defaid niferus, yn enwedig Cymdeithas Bridwyr Defaid Miwl Cymru.

Gwasanaethodd Mr Jones fel ysgrifennydd y cwmni am dros 30 mlynedd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae鈥檙 Ffair yn cael ei chydnabod fel un o sioeau stoc gorau Ewrop

Tad a mab yn beirniadu bwtsiera gyda'i gilydd

Yn ogystal 芒 chystadlaethau da byw, mae鈥檙 Ffair Aeaf yn cynnal amrywiaeth enfawr o ddosbarthiadau ac arddangosiadau, yn cynnwys ceffylau, y sioe g诺n hela, dofednod wedi鈥檜 trin, bwtsieraeth, hamperi cig, coginio, cynnyrch a gwaith llaw, garddwriaeth a gosod blodau.

Yn yr adran fwtsiera, bydd cystadleuaeth asennau b卯ff newydd, dosbarth fydd yn cael ei feirniadu gan y tad a mab, Arwyn a Steve Morgans, bwtsieiriaid yn ardal Aberhonddu a Llanfair-ym-muallt.

Ffynhonnell y llun, Steve Morgans
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma fydd y tro cyntaf i鈥檙 tad a鈥檙 mab, Arwyn a Steve Morgans, feirniadu gyda鈥檌 gilydd

Er bod y ddau wedi beirniadu llawer o gystadlaethau cynhyrchion cig o鈥檙 blaen, dyma fydd y tro cyntaf i鈥檙 tad a鈥檙 mab feirniadu gyda鈥檌 gilydd.

鈥淢ae鈥檔 fraint i mi fod yn beirniadu鈥檙 gystadleuaeth yma gyda fy nhad dwi鈥檔 ystyried yn ffrind gorau i mi,鈥 meddai Steve Morgans.

鈥淢ae鈥檙 diwydiant wedi wynebu llawer o heriau dros y blynyddoedd, ac rydym wedi datblygu ac arallgyfeirio ein busnes i fodloni anghenion cyfoes cwsmeriaid heddiw tra byddwn yn dal i gadw鈥檙 arferion bwtsiera traddodiadol hynny yn fyw.鈥