大象传媒

Protest yn y Senedd yn erbyn toriadau i gwmni opera

Protest Opera Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cannoedd o bobl wedi casglu tu allan i'r Senedd i brotestio yn erbyn toriadau i gwmni Opera Cenedlaethol Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae cannoedd o bobl wedi dod ynghyd y tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd i brotestio yn erbyn toriadau i gwmni Opera Cenedlaethol Cymru (WNO).

Mae'r cwmni 鈥渨edi gorfod gwneud newidiadau er mwyn sicrhau bod Opera Cenedlaethol Cymru yn parhau i fod yn gynaliadwy yn ariannol yn y dyfodol".

Maen nhw wedi "wedi agor ffenestr diswyddo gwirfoddol" ar gyfer staff sydd ddim yn perfformio, ac "mewn trafodaethau gydag undebau ynghylch ail-negodi contractau gyda鈥檔 Cerddorfa a鈥檔 Corws er mwyn arbed costau".

Yn dilyn eu hadolygiad buddsoddi ym Medi 2023, roedd yna ostyngiad o 35% yn yr arian gan Gyngor Celfyddydau Lloegr i'r WNO, tra bod Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn torri ei chyfraniad ariannol 11.8%.

Fis Ebrill, cyhoeddodd y cwmni na fydden nhw'n teithio i Landudno na Bryste ddechrau'r flwyddyn nesaf oherwydd y sefyllfa ariannol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd llythyr ei lofnodi gan 170 o bobl a'i yrru at weinidogion diwylliant Cymru a'r DU

Roedd dylunwyr gwisgoedd a staff cefn llwyfan wedi ymuno 芒 cherddorfa a chorws WNO ar risiau'r Senedd.

Fe ddechreuon nhw鈥檙 brotest gyda pherfformiad o Emyn y Pasg gan Cavaleria Rusticani - yr opera gyntaf i鈥檞 llwyfannu gan y cwmni ym 1946.

Ar 么l detholiad o Carmen gan Bizet, ymunodd corau cymunedol 芒 nhw ar gyfer yr emyn Gymraeg Gwahoddiad a鈥檙 anthem genedlaethol.

Dywedodd y trefnydd, Elizabeth Atherton, ei bod yn gobeithio y byddai鈥檙 canu鈥檔 ddigon uchel i darfu ar drafodion y Senedd "fel eu bod yn gwybod beth sydd mewn perygl o gael ei golli".

鈥淩ydym yn llythrennol yn canu am ein dyfodol,鈥 meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein dyfodol tymor hir" meddai Opera Cenedlaethol Cymru

Yn 么l Philip Lloyd-Evans o gorws Cwmni Opera Cymru, mae鈥檙 toriadau 鈥渁m gael effaith anferth ar y cwmni wrth symud ymlaen".

鈥淢ae鈥檙 toriadau anrheithiol hyn yn golygu na all eich Corws na鈥檆h Cerddorfa weithredu鈥檔 amser llawn.

鈥淏ydd y cymunedau ry鈥檔 ni鈥檔 eu cyrraedd yn llai, bydd y cynulleidfaoedd ry鈥檔 ni鈥檔 perfformio o鈥檜 blaenau鈥檔 llai a bydd dyfodol creu cerddoriaeth i鈥檔 plant yn llai o lawer.鈥

Yn ymateb i'r brotest ddydd Mawrth, dywedodd llefarydd ar ran Opera Cenedlaethol Cymru nad oedd y brotest "gan aelodau鈥檙 cwmni, wedi鈥檌 gefnogi gan yr undebau, wedi cael ei drefnu鈥檔 uniongyrchol gan Opera Cenedlaethol Cymru".

"Rydym yn parchu aelodau undeb llafur a鈥檜 hawl i brotestio ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein dyfodol tymor hir fel cwmni Opera Cenedlaethol Cymru."

Beirniadaeth gan s锚r amlwg

Mae degau o artistiaid amlycaf Cymru yn cynnwys Syr Bryn Terfel, Michael Sheen a Ruth Jones wedi beirniadu'r toriadau i Opera Cenedlaethol Cymru.

Roedden nhw ymysg 170 o bobl a oedd wedi llofnodi llythyr a gafodd ei yrru at Brif Weinidog Cymru, yr Ysgrifennydd Diwylliant, Lesley Griffiths, ac Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth y DU, Lucy Frazer.

Maen nhw'n honni bydd effaith toriadau mewn cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Celfyddydau Lloegr yn "ddinistriol".

Un arall a fu'n mynegi ei gefnogaeth i'r cwmni ddydd Mawrth oedd y cerddor Gruff Rhys.

Dywedodd ar X: "Anodd iawn gwylio pennod ddiweddara yr argyfwng diwylliannol - wedi cael cyd-weithio efo鈥檙 gerddorfa a鈥檌 cherddorion anhygoel yn y gorffennol a trist meddwl nad fydd yr adnodd gwerthfawr yma ar gael i eraill yn y dyfodol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Swm bach o arian" sydd gan y llywodraeth, meddai Lesley Griffiths

Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant Lesley Griffiths cyn y brotest: "Fedra i ddim dychmygu Cymru heb gwmni Opera Cenedlaethol.

"Yn y pendraw, swm bach o arian sydd gennym ac mae'n rhaid i ni wneud yn si诺r ei fod yn cyrraedd pawb.

"Dyna oedd y penderfyniad a wnaethom fel cabinet, ond gobeithio na fydd hi am byth.

"Rwy鈥檔 gresynu at bob toriad yn y gyllideb. Es i ddim i fyd gwleidyddiaeth i wneud toriadau i'r gyllideb.

"Ond y gwir amdani yw ein bod wedi cael 14 mlynedd o lymder ac rydym wedi cael un peth ar 么l y llall - y pandemig, Brexit, yr argyfwng costau byw."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cerddorion yn chwarae tu allan i'r Senedd fel rhan o'r brotest

Dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru: 鈥淢ae Opera Cenedlaethol Cymru yn nodwedd bwysig o鈥檙 tirlun diwylliannol yng Nghymru ac yn ein hadolygiad buddsoddi y llynedd, dyma鈥檙 cwmni a dderbyniodd y gefnogaeth ariannol fwyaf, sef bron i 拢4m.

"I osod cyd-destun ychwanegol, roedd y cwmni eisoes wedi derbyn toriad i鈥檞 grant blynyddol o 35% gan Gyngor Celfyddydau Lloegr yn 2022.

"Mae hi鈥檔 gyfnod heriol tu hwnt i鈥檙 celfyddydau yng Nghymru ac mae Opera Cenedlaethol Cymru wrthi鈥檔 ceisio llywio eu ffordd yn yr hinsawdd anodd hwn, gyda llai o incwm rheolaidd o鈥檙 pwrs cyhoeddus a gyda chostau sy鈥檔 cynyddu.

"Rydym ninnau yng Nghyngor y Celfyddydau hefyd wedi derbyn toriad o 10.5% eleni ac o鈥檙 herwydd, wedi gorfod gwneud arbedion a phenderfyniadau anodd.

"Mae ein cydymdeimlad yn llawn 芒鈥檙 cwmni a鈥檌 weithwyr ac rydym mewn cysylltiad cyson 芒鈥檙 Opera i鈥檞 helpu ar y siwrne anodd hon, a hefyd i warchod eu cynyrchiadau opera safonol, ac i鈥檞 cefnogi yn eu gwaith cymunedol pwysig fydd yn cyrraedd cynifer o bobl Cymru 芒 phosib.鈥

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae sefydliadau diwylliant, celf a chwaraeon Cymru yn rhan annatod o'n cymdeithas a'n lles, gan gyfoethogi ein cymunedau ac ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.

"Rydym wedi gweithredu i liniaru pwysau llawn y gyllideb ar y sectorau hyn, fodd bynnag, rydym wedi ei gwneud yn glir bod ein cyllideb hyd at 拢700m yn llai mewn termau real na phan gafodd ei phennu yn 2021 ac rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn i ganolbwyntio cyllid ar wasanaethau cyhoeddus craidd, gan gynnwys y GIG.鈥

Pynciau cysylltiedig