Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Anafiadau difrifol i ddyn ifanc a gafodd ei daro gan gar
Mae dyn ifanc wedi dioddef anafiadau all newid ei fywyd ar 么l iddo gael ei daro gan gar yn ardal y Mwmbwls yn Abertawe.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad y tu allan i siop Co-Op toc wedi 01:00 fore Llun.
Dywedodd Heddlu De Cymru y cafodd dyn 22 oed ei daro gan gar Kia Rio gwyn.
Fe gafodd ei gludo i'r ysbyty, a'r gred yw y gallai ei anafiadau newid ei fywyd.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw dystion neu unrhyw un sydd 芒 lluniau CCTV neu dashcam o'r digwyddiad i gysylltu 芒 nhw.