大象传媒

Dechrau diogelu hen ysbyty chwarel 'eithriadol o bwysig'

Ysbyty Chwarel PenrhynFfynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r ysbyty yn rhan bwysig o hanes llechi Cymru a'r gymdeithas leol

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gwaith o ddiogelu hen Ysbyty Chwarel y Penrhyn - safle sy'n cael ei ystyried yn un hynod o bwysig - wedi dechrau.

Mae'r adeilad, a gafodd ei godi yn y 1840au, bron yn adfail erbyn hyn, a bydd y gwaith yn cynnwys sefydlogi'r waliau a gwarchod manylion pensaern茂ol a hanesyddol y tu mewn.

Llewyrch o'r Llechi ydy enw'r prosiect, sy'n bartneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd, Llechi Cymru/Breedon a Cadw ac mae'n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU.

Mae disgwyl i'r gwaith ger L么n Las Ogwen bara tua saith mis.

Atgofion personol

Un sy'n ymddiddori yn hanes yr hen ysbyty ydy Dr Dafydd Roberts, sy'n hanesydd lleol ac yn gyn-geidwad yn Amgueddfa Lechi Llanberis.

Dywedodd: "Mae'n ddiddorol hel meddyliau ynghylch arwyddoc芒d codi'r adeilad yn y lle cyntaf - yn amlwg mae'r ffaith fod angen ysbyty yn dangos pa mor beryglus oedd y chwarel yma i weithio ynddi.

"Mi oedd yna nifer cyson o ddynion yn dod yma efo anafiadau drwg."

Mae gan Dr Roberts gysylltiad agos iawn 芒'r hen ysbyty gan fod ei deulu yn wardeiniaid yno ar un adeg.

"Yma y buodd fy mam a 'nhad yn byw o tua 1946 tan 1953," meddai.

"Roedd fy nhad yn gweithio yn y chwarel ac yntau wedi cael rhyw fath o swyddogaeth fel warden yn yr adeilad ac yn byw mewn fflat ar y llawr uchaf gyda fy mam.

"Mae 'na atgofion personol am yr adeilad yma yn sicr."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r adeilad yn "eithriadol bwysig" yn 么l Dr Dafydd Roberts

Wrth drafod pwysigrwydd lleol yr adeilad, dywedodd Dr Roberts fod yr ysbyty yn "eithriadol bwysig" yng nghyd-destun meddygaeth.

Ychwanegodd: "'Dan ni'n gwybod fod anaesthetig wedi cael ei ddefnyddio am y tro cyntaf yng ngogledd America ym 1846.

"Pum mis yn ddiweddarach fe ddefnyddiwyd anaesthetig am y tro cyntaf yn yr ysbyty yma gan Dr Hamilton Roberts ar gyfer llawdriniaeth lwyddiannus torri coes.

"Mae'r arloesedd yna o ran trin anafiadau o bob math yn parhau yn nodwedd o waith yr ysbyty yma.

"'Dan ni'n meddwl weithiau am ogledd-orllewin Cymru fel pen draw'r byd, ond o safbwynt meddygaeth y cyfnod yna mi oedd yr ardal yma ar ei mwyaf blaengar."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Nia Jeffreys y bydd y gwaith yn diogelu'r ysbyty ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Bydd diwrnodau agored yn cael eu trefnu yn ystod cyfnod y gwaith er mwyn caniat谩u i'r cyhoedd weld beth sy'n digwydd yn yr ysbyty.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, sy'n gyfrifol am yr economi a chymuned ar Gyngor Gwynedd: "Rydym yn hapus iawn i weld y gwaith cadwraeth yn Ysbyty Chwarel y Penrhyn yn datblygu.

"Bydd y gwaith hanfodol hwn yn diogelu'r heneb ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan hwyluso gwell cyfleoedd ar gyfer mynediad a dehongli'r safle poblogaidd hwn."

Ychwanegodd fod Cyngor Gwynedd yn falch o fod yn bartner ar y prosiect a'u bod yn "edrych ymlaen at weithio gyda Llechi Cymru a Cadw ar y cynllun".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gwaith diogelu yn "gyfle i ni ddysgu mwy am y safle" yn 么l Jeff Spencer o Cadw

Dywedodd Jeff Spencer - warden henebion maes i Cadw - fod y safle yn bwysig iawn ac "yn agos iawn at galonnau pobl leol".

"Mae hefyd wedi cael ei amddiffyn fel heneb gofrestredig sy'n dweud ei fod o bwysigrwydd cenedlaethol," meddai.

"Mae Cadw yn edrych dros y gwaith i gyd.

"'Dan ni'n gweithio efo'r cyngor, arbenigwyr i fod yn sicr fod y gwaith yn cael ei wneud mor ofalus 芒 phosib ac i gadw'r rhan fwyaf o'r olion hanesyddol ac i wneud y safle yn saff at y dyfodol.

"Mae hefyd yn gyfle i ni ddysgu mwy am y safle a'i ran yn y gymdeithas lechi."

Mae rhaglen fuddsoddi ddiwylliannol Llewyrch o'r Llechi yn cael ei harwain gan Gyngor Gwynedd, ac mae'n werth dros 拢27m.

Mae'n cynnwys gwaith i greu tair canolfan ddiwylliannol yn ardaloedd Llanberis, Bethesda a Blaenau Ffestiniog.

Pynciau cysylltiedig