大象传媒

Arweinydd Plaid Cymru yn cyhoeddi gweledigaeth i helpu'r GIG

Rhun ap Iorwerth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhun ap Iorwerth yn annerch cynhadledd Plaid Cymru yng Nghaerdydd ddydd Gwener

  • Cyhoeddwyd

Byddai arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth yn penodi gweinidog iechyd y cyhoedd pe bai鈥檔 dod yn brif weinidog yn dilyn yr etholiad nesaf i Senedd Cymru.

Byddai鈥檙 cam yn rhan o gynllun ei blaid i gefnogi鈥檙 gwasanaeth iechyd drwy fuddsoddi mewn 鈥渕esurau iechyd ataliol鈥.

Daeth y cyhoeddiad cyn cynhadledd hydref Plaid Cymru, sydd wedi dechrau yng Nghaerdydd ddydd Gwener.

Fe sicrhaodd y blaid ei chanlyniad gorau erioed mewn etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf, wrth iddi ennill pedair sedd.

Yn ystod ei araith yn Stadiwm Principality yn ddiweddarach, mae dywedodd ap Iorwerth wrth aelodau ei blaid y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn 鈥渢orri鈥檙 cylch o feddwl tymor byr sy鈥檔 gadael Cymru i lawr鈥.

鈥淓rs gormod o amser, rheoli poen pobl fu blaenoriaeth Llafur ond rwyf am gadw pobl yn iach a gallaf gyhoeddi yn ystod 100 diwrnod cyntaf llywodraeth Plaid Cymru y byddwn yn cyflwyno cyllideb newydd 鈥 yn seiliedig ar egwyddorion o Gymru iachach, gyfoethocach 鈥 gydag addewid y bydd gwariant ar fesurau iechyd ataliol yn cynyddu bob blwyddyn.

鈥淒im mwy o blastr i guddio problemau, dim mwy o feio'r unigolyn, dim mwy o wrthod bod yn atebol.鈥

'Creu bywydau iachach'

Mae'n dweud y byddai penodi gweinidog dros iechyd y cyhoedd yn 鈥渟icrhau cenhadaeth wirioneddol genedlaethol o greu bywydau iachach sydd yn ei dro yn sicrhau arbedion sylweddol鈥.

Mae hefyd yn ymrwymo i 鈥済lirio鈥檙 么l-groniadau o waith cynnal a chadw brys鈥 ar ysbytai Cymru erbyn 2030.

Yn gynharach yr wythnos hon cafodd digwyddiad o argyfwng ei gofnodi鈥檔 Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi iddi ddod i'r amlwg bod difrod mawr i do'r adeilad.

鈥淢ae'n rhaid i ni gael yst芒d gwasanaeth iechyd sy'n addas at y diben,鈥 oedd neges Rhun ap Iorwerth.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Enillodd Plaid Cymru bedair sedd yn San Steffan yn etholiad cyffredinol mis Gorffennaf

Dydy Plaid Cymru erioed wedi ennill etholiad i鈥檙 Senedd ers dechrau datganoli ym 1999, gyda Llafur wedi arwain y llywodraeth yma ers 25 mlynedd.

Ond mae鈥檙 blaid wedi gweithio gyda Llafur mewn llywodraeth fel partner mewn clymblaid ac, yn fwy diweddar, yn rhan o gytundeb cydweithio.

Daeth Rhun ap Iorwerth 芒鈥檙 cytundeb hwnnw 鈥 oedd i fod i bara tan fis Rhagfyr 鈥 i ben yn gynnar ym mis Mai.

Heb fwyafrif o鈥檙 seddi yn y Senedd bydd angen i Lafur ddod i gytundeb gydag o leiaf un o鈥檙 gwrthbleidiau eto er mwyn pasio鈥檌 chyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Yn siarad ar drothwy鈥檙 gynhadledd dywedodd ap Iorwerth wrth newyddiadurwyr nad oedd ei blaid yn 鈥渃hwilio am gytundeb cyllideb鈥.

鈥淢ae鈥檙 b锚l yng nghwrt Llafur,鈥 meddai.

Golygon yn troi at 2026

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Rhun ap Iorwerth yn gobeithio dod yn brif weinidog yn dilyn etholiad y Senedd 2026

Mae gan Blaid Cymru ei golygon nawr ar etholiad 2026, pan y bydd hi鈥檔 gobeithio manteisio ar newidiadau i鈥檙 drefn bleidleisio.

Mae nifer y seddi ym Mae Caerdydd yn cynyddu hefyd o 60 i 96.

Mae arolygon barn yn awgrymu bod y blaid mewn sefyllfa gref i herio Llafur.

Fodd bynnag, mae鈥檔 parhau鈥檔 debygol y bydd angen cytundeb o ryw fath rhwng dwy neu fwy o bleidiau i ffurfio llywodraeth yn dilyn yr etholiad.

Dywedodd ap Iorwerth nad oedd yn 鈥済weld sefyllfa鈥 ble byddai ei blaid yn gweithio gyda鈥檙 Ceidwadwyr neu Reform UK.