Ansicrwydd i gefnogwyr Cymru sydd am deithio i Montenegro
- Cyhoeddwyd
Mae cefnogwyr p锚l-droed Cymru yn gwneud trefniadau eraill ar 么l i'w hawyren o faes awyr Caerdydd i Montenegro gael ei chanslo.
Roedd cefnogwyr yn bwriadu teithio o faes awyr Caerdydd i Podgorica yn syth ar 么l y g锚m gyfartal rhwng Cymru a Thwrci nos Wener ar gyfer y g锚m oddi cartref yn erbyn Montenegro yng Nghynghrair y Cenhedloedd brynhawn Llun, 9 Medi.
Ond eglurodd un cefnogwr, Richard Grigg, wrth Cymru Fyw bod cwmni teithio Wonky Sheep wedi anfon neges atyn nhw yn ystod hanner amser y g锚m "i ddweud wrthon ni i beidio mynd i'r maes awyr ac i fynd adre".
Roedd y neges yn egluro bod "yr awyren oedd i fod i deithio i Montenegro wedi taro aderyn a fydd dim modd hedfan".
Roedd yr awyren wedi taro aderyn cyn iddi hi gyrraedd Caerdydd ac er bod Wonky Sheep wedi ceisio trefnu awyren arall, maen nhw'n dweud nad oedd criw ar gael.
Mae'n ymddangos bod 180 o gefnogwyr i fod i deithio ar yr awyren nos Wener.
Fe benderfynodd rhai cefnogwyr drefnu teithiau eraill fore Sadwrn o Heathrow i Montenegro o Heathrow ond roedd Richard Grigg a'i ffrind Iwan Pryce wedi penderfynu aros i gael rhagor o wybodaeth gan Wonky Sheep.
Roedd y cwmni wedi anfon neges atyn nhw fore Sadwrn yn dweud eu bod "yn anelu i adael i chi wybod erbyn 12:00-13:00 heddiw [dydd Sadwrn] be ydi'r sefyllfa ddiweddaraf" cyn anfon neges arall yn dweud eu bod nhw'n gobeithio "anfon diweddariad arall am 16:00".
Dywedodd Richard ei fod yn "rhwystredig achos ni eisiau gwybod un ffordd neu'r llall os ydyn ni angen trefnu ffordd arall o gyrraedd Podgorica".
Nos Sadwrn penderfynodd Richard ac Iwan drefnu eu taith eu hunain o Gatwick i Montenegro, ac maen nhw bellach wedi cyrraedd Podgorica.
Roedd ansicrwydd i gefnogwyr ar 么l iddyn nhw gael gwybod bod y daith nos Wener wedi ei chanslo.
Dywedodd Richard Grigg: "Rydyn ni'n aros i gael gwybod gan Wonky Sheep os fydd awyren arall yn mynd neu os ydyn ni angen chwilio am opsiynau eraill heno neu bore fory.
"Ni wedi talu am y flight drwy Wonky Sheep felly bydde'n well gen i gael direct flight o Gaerdydd gyda nhw. Fel arall bydd rhaid teithio i Lundain a does dim flights direct i Podgorica.
"Mae'n anodd credu bo nhw [Wonky Sheep] dal ddim yn gwybod os oes flight yn mynd neu beidio."
'Diolch am eich amynedd'
Mewn neges sydd wedi ei hanfon i'r 大象传媒 gan gefnogwr, dywedodd Dave o Wonky Sheep: "Y peth ola roedden ni eisiau ei wneud oedd gadael ein cefnogwyr lawr ond mae'n teimlo fel mai dyma beth sy'n digwydd ar hyn o bryd."
Fe eglurodd eu bod nhw wedi gobeithio trefnu awyren arall nos Wener ond nad hynny'n bosib.
Ychwanegodd: "Ein cynllun ydi ceisio dod o hyd i ddatrysiad arall a dyna ydi'n prif flaenoriaeth.
"Rydyn ni'n anelu i adael i chi wybod erbyn 12:00-13:00 heddiw [dydd Sadwrn] be ydi'r sefyllfa ddiweddaraf ac yna am 16:00 os fydd angen hynny.
"Yn amlwg, y cwestiwn fyddwch chi'n gofyn yw a fydd yna awyren ar gael? Dwi'n ceisio bod yn agored ac yn onest, a'r ateb yw nad ydw i'n gwybod ar hyn o bryd. Mae'n rhaid gweld sut y gwneith pethau ddatblygu dros yr oriau nesaf.
"Diolch am eich amynedd, a rydyn ni'n ymddiheuro am yr anghyfleustra."
- Cyhoeddwyd27 Awst
- Cyhoeddwyd6 Medi
Dywedodd llefarydd ar ran maes awyr Caerdydd nad ydyn nhw wedi cael digwyddiad yn ymwneud ag awyren yn taro aderyn yn ddiweddar.
"Cawson ni wybod ddoe bod yr awyren i Montenegro wedi cael ei chanslo oherwydd nad oedd criw ar gael.
"Rydyn ni'n trafod y diweddaraf gyda'r cwmni teithio a'r cwmni hedfan."