Y fet o Geredigion sy'n 'joio' ar fferm Jeremy Clarkson
- Cyhoeddwyd
"'Nes i erioed feddwl y byddai'r rhaglen Clarkson's Farm mor boblogaidd," meddai Dilwyn Evans - y milfeddyg sy'n helpu'r cyflwynydd Jeremy Clarkson i edrych ar 么l yr anifeiliaid.
O Landdewi Brefi yng Ngheredigion y daw Dilwyn yn wreiddiol, a bu'n siarad am ei brofiadau ar raglen Bore Sul 大象传媒 Radio Cymru.
Dywed bod yr hyn sy'n digwydd ar fferm Diddly Squat yn y Cotswolds wedi "agor llygaid sector newydd o bobl i ffermio ac wedi cyfleu pa mor galed yw e".
"Mae lot o bobl y wlad yn gwybod am ffermio ond dyw lot o bobl eraill ddim," meddai.
'Mae ffermio'n galed'
Ychwanegodd: "Mae ffermwyr yn cael lot o stick, gyda rhai'n credu bod ffermwyr yn gyrru four-wheel drives, saethu bob yn ail diwrnod a chaso ar 么l cadno ar geffyl.
"Ond nid fel'na mae hi - mae ffermio'n galed, rhaid dibynnu ar y tywydd, bod yr anifeiliaid yn iawn a phrisiau'r farchnad.
"Gallwch chi dyfu yr un cynnyrch 芒 llynedd ond falle 'leni chi'n cael pris hollol wahanol amdano fe.
"Mae'r rhaglen yn dangos nad yw pethe wastad yn mynd to plan - nid bai Jeremy Clarkson yw e ond dyna be' sy'n digwydd a mae rhywun yn gallu bod yn anlwcus."
Mae Dilwyn yn un o bedwar o blant ac wedi ei fagu ar fferm fechan - 67 erw - yn Llanddewi Brefi ger Tregaron.
"Mae'n anhygoel bod fy rhieni wedi llwyddo i godi pedwar o blant ar fferm mor fach," meddai.
"I ddechrau 15 buwch odro o'dd 'da ni ac un neu ddwy hwch.
"Ro'dd pethe'n deit. Chafodd fy rhieni erioed wyliau ac oes oedden ni'n mynd bant am ddiwrnod - i'r Sioe, er enghraifft, rhaid oedd godro cyn mynd ac wedi dod n么l.
"Do'dd dim digon o arian i ni gyd fynd ar drip ysgol - ro'n ni'n cymryd ein tro."
Mae Dilwyn, 62, yn hynod o falch ei bod hi'n bosib astudio milfeddygaeth bellach yng Nghymru a thrwy'r Gymraeg yn sgil agor yr ysgol filfeddygol yn Aberystwyth yn 2020.
Bu'n rhaid iddo ef fynd i Gaeredin i hyfforddi, a chyn cartrefu am yr eildro yn Lechdale bu'n filfeddyg ym Malawi am gyfnod ac yna yn Y Wyddgrug a Cheintun (Kington).
'Neb yn gallu mynd 芒 dy radd oddi wrthot'
"Gweld All Creatures Great and Small yn blentyn oedd un ysgogiad ac ro'n i'n gweld fy hun fel James Herriot," meddai Dilwyn Evans.
"Roeddwn i hefyd yn licio gwaith ysgol ac ro'dd Mam, yn enwedig, yn pwsho ni lot adre' i wneud gwaith ysgol. Ro'dd hi ei hunan wedi gorfod aros adre' i helpu ar y fferm.
"Fydd neb yn gallu mynd 芒 dy radd oddi wrthot fyddai ei geiriau ond ro'dd hi'n anodd cael lle i fod yn fet ac roedd rhaid cael tair A.
"Ges i sioc pan ges i'r tair A ac wedi blwyddyn o waith gyda milfeddygon yn Llanbed es i i Gaeredin - tipyn o hiraeth, cofiwch.
"Bues i'n lwcus iawn o ddyn llaeth, mab i ffrind i Mam, oedd yn byw yno ond ro'n i'n hiraethu am adre' bob tro ro'n i'n ei weld e!
"Fe adawodd y pedwar ohonon ni adre' - ro'dd hi'n drueni bron bod neb wedi cymryd y ffarm drosodd."
Cymydog i Jeremy Clarkson yn ei gartref newydd ar gyrion Chipping Norton a awgrymodd Dilwyn Evans fel milfeddyg addas i'r fferm.
"Daeth e lawr i weld ni a gaethon ni ryw fath o gyfweliad," meddai Dilwyn.
"Yn practis ni mae 'na ferch o Awstralia a merch o Romania a fi'n credu bod y t卯m cynhyrchu yn gallu gweld bod tipyn o diversification i gael yn y practis ac fe gaethon ni'r job!
"O'n i'm wedi meddwl y byddai'r rhaglen mor boblogaidd.
"Ma' Jeremy wedi dysgu lot yn ystod y rhaglen. Do'dd e ddim yn gwybod lot ar y dechrau ond nawr mae e'n gwybod shwt ma' anifeiliaid yn bihafio.
"Ma' fe'n edrych mwy fel ffermwr wrth i'r rhaglen fynd 'mlaen.
"Chi'n meddwl weithiau bod e'n jocan ond mae ei gwestiynau yn hollol genuine - mae'n rhaid gweud wrtho fe beth yw beth ac fel'na mae e'n dysgu."
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd8 Chwefror
Mae Dilwyn Evans bellach wedi ymddeol o'i bractis milfeddygol ac felly yn gallu rhoi ei holl sylw i Diddly Squat.
"Dwi'n joio - mae e bron fel bod ar alwad drwy'r amser.
"Mae'r gwaith ar raddfa gwahanol i fod yn filfeddyg fel cynt ond falle eith y ff么n unrhyw amser yn gofyn am help.
"Fi'n credu bo fi wedi bod yn lwcus iawn - ro'n i yn y lle iawn ar yr amser iawn."
Mae cyfweliad Dilwyn Evans i'w glywed yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bore Sul ac yna ar 大象传媒 Sounds.