Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ap锚l am wybodaeth am ddyn, 98, sydd ar goll yn Abertawe
Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn 98 oed o ardal Abertawe fod ar goll ers fore Mercher.
Cafodd Reginald Rees ei weld ddiwethaf toc cyn 08:35 yn gyrru Renault Captur coch ym Mharc Pencaerfenni, Crofty, Abertawe.
Roedd o'n gwisgo trowsus brown golau neu hufen; crys porffor golau streipiog; siaced werdd heb lewys ac esgidiau Velcro brown.
Mae'n bosib ei fod yn gwisgo sbectol, medd plismyn ac maen nhw'n apelio am unrhyw yn sydd 芒 gwybodaeath i gysylltu 芒 nhw.
Fore Iau bu hofrennydd yr heddlu yn chwilio ardal G诺yr a'r ardal o gwmpas lle mae Mr Rees yn byw ond bu'n rhaid atal y chwilio am gyfnod oherwydd y tywydd gwael.
Dywed plismyn y byddan nhw'n ailddechrau'r chwilio pan fydd y tywydd yn gwella.