Senedd 2026: Reform fydd y 'prif heriwr' i Lafur, medd Farage
- Cyhoeddwyd
Mae Nigel Farage yn dweud mai plaid Reform fydd y 鈥減rif heriwr鈥 i Lafur yn etholiad y Senedd yn 2026.
Bu'n annerch cynhadledd Gymreig y blaid yng Nghasnewydd ddydd Gwener, ddiwrnod ar 么l hedfan adref o鈥檙 Unol Daleithiau ar 么l cefnogi ymgyrch arlywyddol lwyddiannus Donald Trump.
Mae disgwyl i Mr Farage fod yn rhan fawr o ymdrechion Cymreig Reform ymhen 18 mis, ond dywedodd ei fod hefyd yn rhagweld y byddai'r blaid yn penodi arweinydd Cymreig.
Daeth yn Aelod Seneddol ar yr wythfed ymgais yn yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf, ac mae'n cynrychioli Clacton yn Essex.
Dywedodd Mr Farage: 鈥淵n ystod yr etholiad cyffredinol, fe wnaethom lansio ein Cytundeb gyda鈥檙 Bobl ym Merthyr Tudful."
Gan ddisgrifio Reform fel "y prif heriwr i Lafur yng Nghymru bellach", ychwanegodd: "Mae ein cynhadledd yng Nghasnewydd heddiw yn nodi dechrau ein hymdrechion i gyflwyno dewis newydd i bleidleiswyr sydd wedi cael eu siomi'n arw.
"Mae angen Reform ar Gymru."
Mae disgwyl i Reform gynyddu'r pwysau ar Lafur dros y 18 mis nesaf, gan awgrymu bod pobl yng Nghymru wedi talu鈥檙 pris am 鈥渇ethiant ar 么l methiant鈥 gan lywodraethau Llafur olynol.
Fe fyddan nhw鈥檔 dadlau bod Llafur, Plaid Cymru a鈥檙 Ceidwadwyr yn cynnig 鈥測r un hen addewidion a pholis茂au鈥.
Nid yw Reform wedi cyhoeddi rhestr o bolis茂au sy'n benodol i Gymru ar gyfer yr etholiad hyd yma.
- Cyhoeddwyd20 Medi
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf
Dywedodd Mr Farage wrth 大象传媒 Cymru mai etholiad y Senedd fydd "o bell ffordd, ein blaenoriaeth fwyaf" yn 2026.
Ychwanegodd na fyddai ei blaid yn dod i gytundeb gyda'r Ceidwadwyr Cymreig cyn yr etholiad.
"Gallan nhw wneud beth maen nhw eisiau. 'Dyn ni am fod yn yr etholiadau hynny, a bod y brif her i Lafur - dyna'r targed."
Ychwanegodd Mr Farage ei fod yn rhagweld y bydd gan Reform arweinydd Cymreig erbyn 2026.
Deellir bod y blaid yn targedu sicrhau o leiaf 16 Aelod o'r Senedd yn 2026, gyda Mr Farage wedi dweud o鈥檙 blaen y byddai Reform yn ennill 鈥渓lawer o seddi鈥.
Ni enillodd Reform yr un sedd yng Nghymru yn Etholiad Cyffredinol mis Gorffennaf, ond daeth yn ail mewn 13 o鈥檙 32 sedd a sicrhau 16.9% o鈥檙 bleidlais.
Mae disgwyl i system newydd y Senedd - 16 o etholaethau a phob un yn dychwelyd chwe Aelod o'r Senedd - fod yn fwy ffafriol i'r blaid na鈥檙 system cyntaf i鈥檙 felin a ddefnyddir ar gyfer etholiadau San Steffan.
Pe bai Reform yn ennill seddi yn 2026, byddai'n nodi llwyddiant gwrth-sefydliadol arall i Mr Farage ym Mae Caerdydd.
Ef oedd arweinydd UKIP pan enillodd y blaid honno saith sedd yn 2016, cyn i frwydro mewnol weld y gr诺p yn disgyn yn ddarnau dros gyfnod y Senedd.
Yn ddiweddarach arweiniodd Mr Farage Blaid Brexit, oedd hefyd 芒 gr诺p yn y Senedd. Newidiodd Plaid Brexit i Reform UK yn ddiweddarach.
Mae gan y blaid hefyd gynghorwyr yng Nghymru am y tro cyntaf, gyda thri aelod annibynnol o gyngor Torfaen yn newid i Reform yn fuan ar 么l yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf.
'Ceidwadol yn gymdeithasol'
Mae Reform a'i gyfran gymharol uchel o'r bleidlais yn her i Lafur a'r Ceidwadwyr yng Nghymru, ond dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru wrth 大象传媒 Cymru y byddai gan Reform heriau eu hunain wrth dargedu pleidleiswyr.
Meddai: 鈥淒yn canol oed fyddai pleidleisiwr cyffredin Reform. Felly mae eu pleidleiswyr yn iau, yn llawer iau na'r pleidleisiwr Ceidwadol cyffredin.
鈥淢aen nhw'n eithaf ceidwadol yn gymdeithasol, ond mewn gwirionedd maen nhw'n eithaf adain chwith yn economaidd.
"Dyw hi ddim yw鈥檔 glir i mi a ydy Reform yn meddwl bod angen iddyn nhw ddarparu ar gyfer y math hwnnw o elfennau mwy i'r chwith ym myd-olwg eu pleidleiswyr, oherwydd dyw hynny ddim yn rhywbeth 'da chi'n ei gysylltu efo鈥檙 bobl sy鈥檔 ariannu Reform.鈥