Cymeradwyo astudiaeth o addysg 么l-16 yn sir Ceredigion
- Cyhoeddwyd
Bydd cynghorwyr sir yn edrych yn fanylach ar gynlluniau posib i gau pob chweched dosbarth yng Ngheredigion.
Ddydd Mawrth, fe gymeradwyodd cabinet Cyngor Ceredigion gynlluniau i gynnal astudiaeth dichonoldeb ar addysg 么l-16 yn y sir.
Daw yn dilyn adolygiad o addysg chweched dosbarth sy'n edrych ar opsiynau cynaliadwy i'r dyfodol, ar 么l gostyngiad yn nifer y myfyrwyr.
Bydd Gwasanaethau Ysgolion a Dysgu Gydol Oes yn edrych yn benodol ar ddau opsiwn.
Ergyd i gyllid
Ar hyn o bryd, mae gan chwech o ysgolion uwchradd Ceredigion chweched dosbarth.
Rhwng 2014/15 a 2020/21, gostyngodd nifer y dysgwyr blwyddyn 12 yn y sir o 535 i 390.
Oherwydd hynny, mae Ceredigion yn derbyn 拢273,000 yn llai gan Lywodraeth Cymru ar gyfer addysg 么l-16.
Dyma'r gostyngiad mwyaf i unrhyw awdurdod yng Nghymru.
Mae'n cael ei amcangyfrif fod y gost o gynnal cyrsiau chweched ddosbarth yn 2023-24 yn 拢4.2m, sydd dros 400,000 yn fwy na'r grant chweched dosbarth gan y Llywodraeth.
Beth yw'r opsiynau?
Opsiwn 2: Datblygu鈥檙 sefyllfa gyfredol
Byddai darpariaeth 么l-16 yn parhau ar y chwe safle presennol.
Fe fyddai Bwrdd Strategol yn cael ei ffurfio i reoli cyllideb 么l-16 yr awdurdod a sicrhau cyd-gynllunio鈥檙 cwricwlwm.
Byddai鈥檙 bwrdd hefyd yn comisiynu darpariaeth gan yr ysgolion, e-ysgol a phartneriaid eraill.
Opsiwn 4: Un ganolfan
Byddai鈥檔 golygu cau鈥檙 ddarpariaeth 么l-16 bresennol a sefydlu Canolfan Ragoriaeth, yn cynnwys ystod o bartneriaid, ar un neu fwy o safleoedd daearyddol addas.
Byddai corff llywodraethol sy鈥檔 annibynnol o鈥檙 ysgolion yn gyfrifol am y cyllid a鈥檙 cwricwlwm.