Blog Vaughan Roderick: 'Am wythnos'
- Cyhoeddwyd
Wel, am wythnos! Nid yn aml y mae ymgyrch Etholiad Cyffredinol yn llechu yn y cysgodion newyddiadurol ond dyna ddigwyddodd yr wythnos hon wrth i strancs Senedd Cymru hawlio'r sylw.
Mae'n amhosib bron gor-ddweud ynghylch y digwyddiadau ym Mae Caerdydd yr wythnos hon. Mae fy ff么n i a rhai newyddiadurwyr eraill wedi bod yn pingio'n gyson trwy'r wythnos gyda negeseuon gan aelodau Llafur o'r Senedd yn mynegi eu hanniddigrwydd 芒'i gilydd.
Does dim byd tebyg wedi digwydd ers dyddiau olaf Alun Michael. Oedd, roedd 'na anhapusrwydd a galar yn dilyn marwolaeth drist Carl Sargeant ond criw bach o aelodau oedd yn credu y dylai Carwyn Jones gwympo ar ei gleddyf.
Y tro hwn mae'n weddol amlwg bod o gwmpas hanner y gr诺p Llafur o'r farn bod cyfnod Vaughan Gething fel Prif Weinidog yn tynnu at ei derfyn, er gwaeth ymdrechion glew'r Prif Weinidog i fynnu mai "gimig" yw'r ffaith iddo golli pleidlais o hyder yn y Siambr.
- Cyhoeddwyd6 Mehefin
- Cyhoeddwyd6 Mehefin
Criw cymharol fach o bobl yw'r rheiny sy'n amgylchynu Vaughan Gething ac yn sibrwd yn ei glust, a theg yw cwestiynu eu crebwyll gwleidyddol.
Rhain oedd y bobl wnaeth fethu rhagweld yr ymateb oddi mewn i'r blaid, a thu hwnt iddi, i'r penderfyniad i dderbyn rhoddion ariannol David Neal. Rhain hefyd oedd y bobl wnaeth fethu sylweddoli y byddai ymddiheuriad syml a chynnar mwy na thebyg wedi bod yn ddigon i dawelu'r dyfroedd.
Erbyn hyn, mae pethau wedi mynd yn rhy bell. Mae dau aelod o'r Senedd, Lee Waters a Hannah Blythyn, wedi llosgi eu pontydd. Anodd yw gweld y naill na'r llall yn cael s锚l bendith y blaid yn yr etholiad nesaf os ydy Vaughan Gething yn ei harwain.
Beth nesaf? Pwy a 诺yr?
Y tu hwnt i Fae Caerdydd y newyddion mawr yw bod dim byd llawer wedi digwydd i newid y llif gwleidyddol.
Llwyddodd Rishi Sunak a Keir Starmer i osgoi unrhyw gamgymeriadau trawsnewidiol yn y ddadl deledu, ac mae'n debyg bod unrhyw fantais i Mr Sunak o'i honiadau am gynlluniau trethi Llafur wedi eu dadwneud gan benderfyniad Nigel Farage i fentro i faes y gad.
Y diweddar Roy Jenkins wnaeth ddyfeisio'r disgrifiad Ming vase strategy i ddisgrifio strategaeth bresennol y Blaid Lafur.
Gyda Llafur mor bell ar y blaen yn yr arolygon mae'r ymgyrch fel cario trysor gwerthfawr dros lawr sgleiniog.
Y cyfan sydd angen gwneud i ennill yr etholiad yw osgoi camgymeriadau difrifol.
Am y rheswm hynny mae'n debyg bod y blaid Brydeinig yn cadw llygad barcud ar yr hyn sy'n digwydd ym Mae Caerdydd. Hyd yma mae Keir Starmer wedi cadw'r ffydd ynghylch helyntion Vaughan Gething.
Hyd yma.