Lee Waters i adael ei r么l fel Gweinidog Trafnidiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Trafnidiaeth Cymru, Lee Waters, wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y r么l unwaith y bydd prif weinidog newydd yn cael ei ethol.
Mr Waters oedd wedi arwain y broses ddadleuol o gyflwyno terfyn cyflymder 20mya newydd ar ffyrdd yng Nghymru.
Mae'r ddau ymgeisydd i gymryd yr awenau fel prif weinidog ar 么l Mark Drakeford wedi addo adolygiad o'r canllawiau a roddwyd i gynghorau ar ba ffyrdd i'w heithrio.
Ond mae Vaughan Gething a Jeremy Miles wedi cadarnhau na fydd y gyfraith yn cael ei dileu.
Yn dechnegol, mae pob gweinidog yn rhoi鈥檙 gorau i'w swyddi pan fydd prif weinidog newydd yn cymryd yr awenau, ond dyw hi ddim yn glir a yw Mr Waters yn dymuno dychwelyd i'r meinciau cefn neu ymgymryd 芒 swydd arall yn y cabinet.
Teitl swyddogol Mr Waters yw鈥檙 Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.
Wrth wneud y cyhoeddiad ar wefan X, Twitter gynt, cadarnhaodd Mr Waters y byddai'n dileu ei gyfrif pan fydd yn gadael ei r么l drafnidiaeth.
"Dros y 15 mlynedd diwethaf, rydw i wedi treulio gormod o amser ar Twitter," meddai.
"Fe stopiodd fod yn hwyl ychydig yn 么l, ond nawr rwy'n cael pentwr o sylwadau cas ar gyfer hyd yn oed y negeseuon mwyaf diniwed."
Yn y Senedd fis Medi diwethaf, fe wnaeth Mr Waters oroesi pleidlais o ddiffyg hyder gafodd ei gynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig.
Mae'r Ceidwadwyr eisiau i'r gyfraith 20mya gael ei dileu, ond yn cefnogi'r syniad mewn mannau megis o amgylch ysbytai ac ysgolion.
Wrth ymateb i gyhoeddiad Mr Waters, dywedodd eu harweinydd yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Bydd gyrwyr a pherchnogion busnesau ledled Cymru yn anadlu ochenaid o ryddhad wrth glywed y newyddion yma.
"Mae cyfnod y dirprwy weinidog yn y swydd wedi bod yn un polisi gwrth-fodurwyr ar 么l y llall, gan arafu Cymru a gwneud niwed difrifol i'n heconomi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2023
- Cyhoeddwyd17 Medi 2023
- Cyhoeddwyd21 Chwefror
- Cyhoeddwyd21 Chwefror
- Cyhoeddwyd8 Ionawr