Prinder tatws: Glaw yn 'drychinebus' i'r diwydiant
- Cyhoeddwyd
Mae rhai ffermwyr yn y gogledd wedi rhannu eu pryderon ynghylch dyfodol y diwydiant amaeth a'r gadwyn gyflenwi wrth i'r glaw effeithio ar dyfu cynnyrch a chadw anifeiliaid.
Mae tyfwyr tatws yn benodol wedi dweud wrth raglen Dros Frecwast eu bod nhw ar ei h么l hi gyda phlannu tatws, a rhai hyd yn oed heb allu plannu o gwbl eleni oherwydd y glaw.
Yn 么l Roger Tebbutt, ffermwr o Ynys M么n, mae'r tymor tyfu eleni wedi bod yr anoddaf eto.
"Mae hi wedi bod yn wlyb diwrnod ar 么l diwrnod... mae'n torri calon rhywun yn y diwedd," meddai.
Mae Tudur Roberts o Dudweiliog yn rhannu'r un farn, gan ddweud ei fod yn teimlo fel petai hi wedi bwrw yn ddi-dor ers mis Medi.
- Cyhoeddwyd11 Ebrill
- Cyhoeddwyd11 Ebrill
Heb os, mae hi wedi bod yn fisoedd gwlyb iawn yng Nghymru, gyda'r gyfradd glawiad wedi bod yn uwch na'r cyfartaledd dros y misoedd diwethaf.
Fis Mawrth, fe welodd rhai lleoliadau ddwywaith eu glawiad cyfartalog.
Mae Roger Tebbutt a'i deulu wedi bod yn cynhyrchu tatws ar ei fferm yn Llanbedrgoch, Ynys M么n ers y 1950au, ac yn gwerthu'r rhan fwyaf o'r tatws yn lleol.
Dywedodd: "Mae'n drychinebus i'r farchnad sydd yn arfer codi tatws yr adeg yma o'r flwyddyn.
"Mae'r rhan fwyaf o'r ardaloedd [sy'n tyfu tatws] - Cernyw, Sir Benfro - mae pawb ar ei h么l hi."
Ynghyd 芒'r tatws, maen nhw hefyd yn cadw gwartheg.
Dywedodd Mr Tebbutt: "Mi ydan ni'n cadw'r buches sugno allan, ac maen nhw'n dod 芒 lloeau dros y gaeaf, a 'dw i erioed yn cofio blwyddyn pan maen nhw wedi dioddef cymaint wrth fod allan.
"Maen nhw wedi colli gwedd. Dydyn nhw ddim yn edrych cystal oeddwn i'n ei ddisgwyl ar yr amser yma o'r flwyddyn."
Nid ym M么n yn unig mae'r glaw wedi effeithio ar ffermwyr.
Ym Mhen Ll欧n, mae Tudur Roberts a'i deulu yn Nhudweiliog wedi gweld effaith fawr y glaw.
Roedd o'n arfer tyfu tatws, ond wedi methu eu plannu eleni.
"Mi oedd hi'n mynd yn bellach ac yn bellach, mi oedden ni'n disgwyl... ond glaw eto," meddai.
"Yn y diwedd roedd yn rhaid anghofio. Doedd gennym ni ddim mynadd cwffio yn erbyn y tywydd ddim mwy.
"Mae 'na un neu ddau yn yr ardal wedi plannu tatws diweddar, ond mi oedden nhw ryw bythefnos yn hwyrach yn eu rhoi nhw lawr - ambell un dair wythnos yn hwyrach - gan fod y tywydd ddim wedi bod efo ni.
"Does dim dwywaith, mi fydd yn rhaid i'r prisiau godi, mi fydd yna lai ohonyn nhw, ac mae prinder, fel mae pawb yn gwybod, yn gwneud i'r prisiau fynd fyny hefyd.
"Dwi'm yn gwybod be' 'di'r ateb i ddweud y gwir."
Mae'r undebau amaeth yng Nghymru wedi bod yn rhan o gynhadledd gyda Llywodraeth Cymru yn ddiweddar i drafod effaith y glaw ar y diwydiant.
Roedd Undeb Amaethwyr Cymru yn rhan o'r gynhadledd honno, ac yn 么l Phillip Jones o'r undeb, mae'r glaw wedi creu llawer o gymhlethdodau.
"Mae'r gadwyn fwyd yn rhywbeth bregus a dyw hi ddim yn argoeli'n dda y daw yna lawer o fwyd o'r cyfandir chwaith," meddai.
"Yn y tymor byr, mae'n anodd iawn i wybod pwy fath o gymorth gall y llywodraeth roi, ond mae'n rhaid i ni ystyried y ddau beth sydd wedi'u cyhoeddi eisoes, sydd yn gwmwl anferthol uwch ben y ffermwyr - rheolau NVZs a'r cynllun ffermio cynaliadwy.
"Wrth feddwl am y gwlypter ry'n ni wedi'i gael nawr, wrth gwrs dyw e ddim yn gyfuniad da - slyri a mwy fyth o dd诺r glaw.
"Os ydy'r lle'n brin, mae'n fwy tebygol o orlifo."
Dywedodd yr Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies: "Dwi鈥檔 ymrwymo i barhau i wrando ar ffermwyr a'r holl randdeiliaid a gweithio gyda nhw, i ddatblygu cynllun a fydd yn ein helpu i wireddu'n huchelgais i wneud Cymru'n arweinydd byd ym maes ffermio cynaliadwy.
"Mae 拢20m wedi'i ymrwymo ar gyfer dau gynllun i gefnogi ffermwyr i gydymffurfio 芒 Rheoliadau Adnoddau D诺r (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021."