大象传媒

Newidiadau hwyr i ras seiclo oherwydd rheol 20mya

Taith Iau CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Taith Iau Cymru saith milltir yn fyrach na'r arfer eleni

  • Cyhoeddwyd

Mae trefnwyr ras seiclo'n dweud eu bod wedi gorfod gwneud newidiadau hwyr i'r llwybr eleni oherwydd y terfyn cyflymder 20mya.

Mae Taith Iau Cymru, sy'n dechrau ddydd Gwener ac yn parhau am bedwar diwrnod, fel arfer yn llwybr 237 milltir.

Ond oherwydd newidiadau i'r terfyn cyflymder mewn sawl ardal, mae trefnydd y ras, Richard Hopkins, yn dweud ei fod wedi gorfod addasu tri o鈥檙 pum cymal rasio, sy鈥檔 golygu bod y llwybr eleni o dan 230 milltir.

Mae'r newidiadau'n golygu na fydd y ras yn gorffen yn Nantgaredig, tref enedigol Emma Finucane, wnaeth ennill tair medal Olympaidd ym Mharis eleni.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

鈥淵 broblem yw na fydd y cerbydau cymorth a diogelwch yn gallu aros gyda'r beicwyr," meddai Richard Hopkins

Dywedodd Mr Hopkins: "Mae cynllun Llywodraeth Cymru i alluogi rasys seiclo i reoli diogelwch y ras a'r cyhoedd trwy barthau 20mya wedi methu, ac wedi ein gadael ni 芒 phroblem fawr.

鈥淓r mai dim ond saith milltir o 20mya oedd ar draws y ras 237 milltir, pedwar diwrnod, a hyd yn oed wedyn wedi鈥檌 rhannu鈥檔 nifer o adrannau byr iawn, ni allem warantu rheoli pob un ohonynt yn ddiogel.

鈥淵 broblem yw na fydd y cerbydau cymorth a diogelwch yn gallu aros gyda鈥檙 beicwyr, sy鈥檔 gallu reidio uwchlaw'r terfyn hwnnw.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd 100 o feicwyr yn dechrau'r ras ym Mrynmawr, Blaenau Gwent ddydd Gwener

Mae Taith Iau Cymru yn ras flynyddol a ddechreuodd yn 1981, ac sydd wedi gweld beicwyr o bob rhan o'r byd yn cymryd rhan.

Mae Geraint Thomas, y Pencampwr Olympaidd Tom Pidcock, a Josh Tarling o Aberaeron ymhlith yr enwau mawr sydd wedi cwblhau'r ras yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Bydd 100 o feicwyr yn dechrau'r ras ym Mrynmawr, Blaenau Gwent ddydd Gwener, gan fynd trwy Bowys ddydd Sadwrn, cyn mynd i Barc Gwledig Pen-bre ddydd Sul.

Daw'r ras i ben gyda'r cymal olaf trwy Sir Fynwy i gopa Mynydd y Tymbl ddydd Llun.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Does dim posib darfod y ras yn Nantgaredig oherwydd y terfyn cyflymder, medd trefnwyr y ras

'Colli rhannau eiconig y llwybr'

Dywedodd Mr Hopkins ei fod yn gobeithio y byddai'r ras yn mynd yn ei blaen fel y cynlluniwyd ar 么l i'r newidiadau gael eu gwneud, ond fe gyfaddefodd y gallai rhai o'r beicwyr fod yn siomedig o golli allan ar rai o rannau eiconig y llwybr.

"Yn y broses rydym wedi colli rhan fawr o鈥檙 cymeriad a鈥檙 her y mae鈥檙 digwyddiad yn enwog amdani 鈥 gan gynnwys ddiwedd y llwyfan yn Nantgaredig, pentref cartref pencampwr Olympaidd Cymru, Emma Finucane, yn ogystal 芒 dringo鈥檙 Mynydd Du yn Sir Gaerfyrddin.

鈥淢ae鈥檔 dorcalonnus, ar 么l rhoi cymaint o ymdrech i geisio gwneud y ras yn ei chyfanrwydd yn bosib ac mae hefyd yn fy ngadael yn pendroni beth sy鈥檔 mynd i ddigwydd nesaf, oherwydd bob tro rwy鈥檔 meddwl efallai ein bod ni mewn lle da, mae rhywbeth arall yn digwydd i'w guro'n 么l."

Ffynhonnell y llun, Melanie Phillips-Rees
Disgrifiad o鈥檙 llun,

鈥淔el busnes mae鈥檔 amlwg yn cael effaith," meddai Melanie Phillips-Rees, perchennog Gwesty鈥檙 Railway yn Nantgaredig

Dywedodd Melanie Phillips-Rees, perchennog Gwesty鈥檙 Railway yn Nantgaredig, y byddai peidio 芒 gorffen y ras yn y dref yn cael effaith ar fusnes.

鈥淢ae鈥檔 siomedig na fydd y ras yn gallu dilyn ei llwybr arferol gan ei fod wastad wedi bod yn atyniad sydd wedi tynnu sylw a chefnogaeth y gymuned leol.

"Mae gennym ni nifer o feicwyr ifanc yn yr ardal ac mae cwblhau'r ras yma yn caniat谩u iddyn nhw weld digwyddiad anhygoel, cyfle a fydd yn cael ei golli nawr.

鈥淔el busnes mae鈥檔 amlwg yn cael effaith arnom ni gan ei fod yn gasgliad o bobl sydd am gael eu colli."

'Diogelwch yw'r flaenoriaeth'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Y flaenoriaeth ar gyfer unrhyw ras bob amser yw sicrhau ei bod yn ddiogel i bawb sy'n cymryd rhan ac i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd yn unol 芒 gofynion yr heddlu/Awdurdodau Priffyrdd. Nid yw cyflwyno 20mya yn newid y sefyllfa hon.

"Rydym wedi gweithio gyda threfnwyr y ras i ddatblygu opsiynau amrywiol er mwyn sicrhau y gall y ras fynd yn ei blaen."

Dywedodd Beicio Cymru: "Rydym yn cefnogi gosod y cyflymder rhagosodedig yng Nghymru ar 20mya gan fod hyn bellach wedi'i brofi i wella diogelwch ar y ffyrdd, sy'n hynod bwysig i feicwyr.鈥

鈥淔odd bynnag, mae hyn wedi cyflwyno rhai heriau o ran darparu rasys ffordd, gan gynnwys Taith Iau Cymru. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i鈥檞 datrys, fel y gallwn barhau i ddatblygu talent yn ogystal 芒 hybu econom茂au lleol drwy rasio.鈥