大象传媒

Rishi Sunak yn cyhoeddi y bydd etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf

Rishi SunakFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Rishi Sunak y cyhoeddiad tu allan i Rif 10 Stryd Downing ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd

Bydd etholiad cyffredinol i ddewis aelodau i San Steffan yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf.

Fe wnaeth Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak, y cyhoeddiad ddydd Mercher yn dilyn misoedd o ddyfalu.

Wrth wneud ei gyhoeddiad yn y glaw toc wedi 17:00, dywedodd ei fod yn falch o'r hyn y mae ei lywodraeth wedi ei gyflawni.

Ychwanegodd bod y Deyrnas Unedig - dros y pum mlynedd ddiwethaf - wedi brwydro trwy'r amseroedd mwyaf heriol ers yr Ail Ryfel Byd.

Dywedodd Mr Sunak bod economi'r DU yn dal i dyfu a chwyddiant wedi dychwelyd i normal, cyfraddau llog wedi dod i lawr a bod "cynllun y llywodraeth yn gweithio".

Dywedodd hefyd bod yna amseroedd ansicr i ddod ond bod ganddo gynllun clir.

Nid oes cynllun o gwbl gan y Blaid Lafur a'u harweinydd Syr Keir Starmer, meddai.

Wrth ymateb, dywedodd Syr Keir mai "dyma'r amser i newid cymunedau a'r wlad", ac mae'n galw'r ymgyrch etholiadol hon yn "gyfle i sicrhau dyfodol gwell".

Dywedodd bod y blaid Lafur wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf ac mae'n gofyn am gyfle i wneud yr un peth i'r wlad.

Mae nifer o'r polau piniwn yn darogan mai Llafur fydd mewn grym yn dilyn yr etholiad.

Beth ydy'r ymateb yng Nghymru?

Mae Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething wedi croesawu'r newyddion am etholiad cyffredinol.

"Mae Rishi Sunak o'r diwedd wedi dod i'r un casgliad 芒 gweddill y wlad: mae angen Etholiad Cyffredinol nawr," meddai ar X.

"Mae pobl ar draws Cymru yn galw am newid llywodraeth, rhoi diwedd ar anhrefn Tor茂aidd a dwy lywodraeth Lafur yn cydweithio - i Gymru a Phrydain."

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad am yr etholiad, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS: "Dim ond pleidlais i Blaid Cymru fydd yn rhoi buddiannau gorau Cymru yn gyntaf yn yr etholiad hwn.

"Rydyn ni'n barod i fynd 芒'r frwydr hon i bleidiau Llundain i fynnu'r tegwch y mae Cymru ei angen ac yn ei haeddu.

"Mae'r Tor茂aid wedi chwalu'r economi ac mae pobl yn talu'r pris. Mae Llafur, ar y llaw arall, yn cymryd Cymru'n ganiataol. Wnaiff dim un o bleidiau Llundain roi Cymru'n gyntaf."

Mae Plaid Cymru'n dweud y byddan nhw'n mynnu "bargen ariannu decach" er mwyn buddsoddi yn yr economi, y gwasanaeth iechyd ac ysgolion.

Ymatebodd Jane Dodds AS, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru drwy ddweud: "Mae'n hen bryd i'r cyhoedd gael dweud eu dweud ynghylch pwy sy'n rhedeg y wlad, ar 么l blynyddoedd o anhrefn.

"Dyma gyfle i'r etholwyr anfon neges i San Steffan a Bae Caerdydd eu bod am weld newid ystyrlon.

"Peidiwch 芒 gwneud unrhyw gamgymeriad, nid yw'r Ceidwadwyr na Llafur yn cynnig dim byd gwahanol i'r sefyllfa bresennol.

"Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol bob amser wedi bod 芒 hanes balch o sefyll dros fuddiannau pobl yma yng Nghymru, ac ni fydd hyn yn newid."