Cynnydd 'dychrynllyd' mewn ymosodiadau ar griwiau t芒n

Disgrifiad o'r llun, Cafodd 967 o ymosodiadau ar griwiau t芒n eu cofnodi ar draws y DU yn ystod y flwyddyn 2023-2024, yn 么l y Swyddfa Gartref

Mae'r corff sy'n cynrychioli swyddogion t芒n "wedi dychryn" o weld cynnydd yn nifer yr ymosodiadau ar griwiau a phobl yn ffilmio'r digwyddiadau ar eu ffonau.

Yn 么l Undeb y Frig芒d D芒n (FBU) Cymru, yn y 10 mlynedd diwethaf, mae rhywrai wedi taflu t芒n gwyllt a cherrig at griwiau t芒n, a'u sarhau'n eiriol wrth iddyn nhw weithio ar noson brysuraf y flwyddyn.

Ond mae'r undeb yn rhybuddio nad dim ond ar noson Guto Ffowc y mae'r ymosodiadau'n digwydd, ac y gall hyn beryglu bywydau trwy achosi oedi o ran amseroedd ymateb.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn "condemnio unrhyw ymosodiadau ar aelodau'r gwasanaethau brys ar unrhyw adeg o'r flwyddyn".

Mae'r sefyllfa'n "destun pryder", medd Gareth Tovey o'r FBU.

"Rydyn ni'n siomedig ac wedi dychryn, mewn gwirionedd, bod ymladdwyr t芒n yn wynebu ymosodiadau gan y cyhoedd.

"Mae'n anodd - gall fod yn bethau sy'n cael eu taflu fel cerrig neu d芒n gwyllt, neu eu hanelu at injan d芒n."

Disgrifiad o'r llun, Mae pobl yn cynnau tanau yn fwriadol er mwyn denu swyddogion i fannau penodol, yn 么l Gareth Tovey

Ychwanegodd Mr Tovey: "Fe allai effeithio arnoch chi yn seicolegol os, trwy wneud eich gwaith, rydych yn cael eich gwawdio - a'r ffonau wedyn, gyda grwpiau o lanciau weithiau yn eich ffilmio. Gall hynny gael effaith gwirioneddol arnoch chi.

"Y peth gwaethaf yw, mae'n golygu bod hi'n bosib bod rhaid i ni dynnu'n 么l o'r sefyllfa yna - rhaid cofio ein bod ond wedi mynd yno i geisio cadw pobl yn ddiogel.

"Ry'n ni'n deall bod pobl nawr 芒 ffonau, ac mae hawl gyda nhw i ffilmio pethau cyhoeddus, ond y broblem yw'r gwawdio yn sgil tanau sydd yn amlwg wedi eu cynnau yn fwriadol i gael y gwasanaeth t芒n yna ac i gael ymateb.

"Dyw e ddim yn beth neis iawn, yn enwedig pan mae pobl jyst yn gweithio'n galed i gadw eu cymunedau'n ddiogel."

Mae'n broblem 'drwy gydol y flwyddyn'

"Dyw e ddim wedi ei gyfyngu i noson Guto Ffowc. Rydym yn sicr yn gweld yr ymosodiadau yma ar griwiau drwy gydol y flwyddyn, ar achlysur gwyliau gwahanol a gwyliau ysgol gwahanol," meddai Mr Tovey.

"Mae noson Guto Ffowc yn noson brysur iawn - mae mwy o bobl allan ac o gwmpas ac rydym eisiau gweld pobl yn mwynhau noson t芒n gwyllt, ac yn ei mwynhau'n ddiogel ac yn barchus.

"Rydyn ni jest eisiau gweld diwedd ar yr ymosodiadau yma ar ymladdwyr t芒n a gweithwyr y gwasanaethau brys eraill."

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth T芒n ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Disgrifiad o'r llun, Bu swyddogion yn ymateb i d芒n mawr yn Sir Benfro yr wythnos diwethaf oedd wedi ei achosi gan d芒n gwyllt oedd wedi ei gynnau yn anghyfreithlon

Fe gofnododd y Swyddfa Gartref 967 o ymosodiadau ar griwiau t芒n ar draws y DU yn ystod y flwyddyn 2023-2024 - cynnydd o 60% o'i gymharu 芒 10 mlynedd ynghynt.

Dywedodd Steven Davies, Rheolwr Gr诺p Gwasanaeth T芒n ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, eu bod yn gweithio'n agos gyda'r heddlu er mwyn erlyn troseddwyr.

"Rhaid i ni addysgu pobl am y peryglon," meddai, "ac am y ffaith, pe tai rhywun yn taflu t芒n gwyllt atom, bod hi'n drosedd i ymosod ar weithiwr gwasanaeth brys.

"Mae gyda ni CCTV ar y cerbyd ac fe gewch chi eich erlyn am y drosedd yna os ydych yn cael eich adnabod fel y person a daflodd y t芒n gwyllt.

"Os ddown ni ar draws coelcerth sy'n rhy agos at adeilad, fe wnawn ni ei diffodd a gweithio gyda'r heddlu a'r awdurdodau lleol i fonitro unrhyw goelcerthi all fod yn rhy fawr neu'n rhy agos at adeiladau."

Disgrifiad o'r llun, Y Cwnstabl Arbennig Ben Johns a fydd ar ddyletswydd i Heddlu De Cymru noson Guto Ffowc

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol hefyd wedi effeithio ar heddluoedd yng Nghymru.

Yn 么l y Cwnstabl Arbennig Ben Johns, a fydd ar ddyletswydd gyda Heddlu'r De nos Fawrth, mae heddweision yn aml yn cael eu gwawdio ar noson Guto Ffowc, ond fe fydd yna batrolau ychwanegol i gadw cymunedau'n ddiogel.

Dywedodd fod grwpiau yn y gorffennol wedi anelu t芒n gwyllt at yr heddlu ac at gerbydau a bysys, a thaflu wyau.

Mae'r math yna o ymddygiad, meddai, yn cadw'r heddlu rhag ymateb i alwadau brys eraill.

Effaith ar amseroedd ymateb

Roedd ar ddyletswydd gyda chwnstabliaid arbennig eraill - oll yn wirfoddolwyr, ac athrawon, cyfreithwyr a staff ysbyty yn eu plith - Nos Galan Gaeaf pan daflodd gr诺p o bobl wyau a th芒n gwyllt at eu fan heddlu.

"Mae'n swnllyd ofnadwy pan mae'n taro ochr y fan," dywedodd.

"Mae'n rhywbeth na ddylai ddigwydd i swyddogion heddlu, ond rydyn ni'n eitha' gwydn. Petai鈥檔 digwydd i aelod o'r cyhoedd fysa'n frawychus iawn."

Bu'n rhaid stopio defnyddio'r fan nes cael cadarnhad bod y cerbyd yn saff i'w yrru, ac o'r herwydd ni allai'r t卯m ymateb am gyfnod i alwadau brys.

Mae'r Cwnstabl Arbennig Johns yn rhan o gynllun sy'n annog pobl i adael i'r heddlu wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dywedodd ei fod eisiau i bobl fwynhau noson Guto Ffowc yn ddiogel, ond fod yna wastad fwy o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y noson honno.

Mae'n apelio ar bobl i ystyried pobl eraill, gan "nad yw pawb yn gwirioni ar d芒n gwyllt", gan gynnwys pobl 芒 PTSD a pherchnogion anifeiliaid.

Ac mae'n rhybuddio y bydd yr heddlu'n "delio'n gadarn ag unigolion sy'n camymddwyn".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n condemnio unrhyw ymosodiadau ar aelodau'r gwasanaethau brys ar unrhyw adeg o'r flwyddyn.

"Dylai swyddogion t芒n allu gwasanaethu'r cyhoedd heb orfod poeni am ymosodiadau o'r fath."