大象传媒

Pedwar newid i d卯m Cymru wrth i gwestiynau barhau am Gatland

Sam CostelowFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sam Costelow yn cymryd lle Gareth Anscombe yn safle'r maswr

  • Cyhoeddwyd

Mae prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi gwneud pedwar newid i鈥檙 t卯m ar gyfer y g锚m yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn wrth i gwestiynau barhau am ei ddyfodol yn y swydd.

Mae Gatland wedi colli 11 g锚m brawf yn olynol, sy'n record, a byddai colled arall yn golygu bod Cymru鈥檔 mynd blwyddyn galendr gyfan heb ennill prawf am y tro cyntaf ers 1937.

Mae pencampwyr y byd De Affrica yn ffefrynnau clir i鈥檞 gwneud yn saith buddugoliaeth yn yr wyth g锚m ddiwethaf yn erbyn Cymru.

Yn dilyn y golled o 20-52 yn erbyn Awstralia, mae'r asgellwr Rio Dyer, y maswr Sam Costelow, y clo Christ Tshiunza a'r wythwr Taine Plumtree yn dod i mewn i'r 15 sy'n dechrau.

Un newid safle yw Blair Murray, sy'n symud o'r asgell i safle'r cefnwr yn lle Cameron Winnett.

T卯m Cymru i wynebu De Affrica

Murray; Rogers, Llewellyn, B Thomas, Dyer; Costelow, Bevan; G Thomas, Lake (capt), Griffin, Rowlands, Tshiunza, Botham, Morgan, Plumtree.

Eilyddion: Elias, Smith, Assiratti, F Thomas, Reffell, R Williams, James, Hathaway.