Y tacsis allai achub bywyd ar 么l ymosodiad cyllell
- Cyhoeddwyd
Gallai tacsis yn cario rhwymynnau meddygol o safon milwrol fod ar strydoedd Cymru鈥檔 fuan, gyda鈥檙 gobaith y gall 鈥渉yd yn oed un ohonyn nhw鈥 achub bywyd rhywun sy鈥檔 cael eu trywanu.
Gobaith elusen sy鈥檔 cael ei rhedeg gan gyn-filwr ac heddwas yw y bydd o leiaf 50 o yrwyr tacsis Caerdydd yn cario鈥檙 pecynnau, fel rhan o rwydwaith sydd eisoes yn cynnwys chwe dinas arall ym Mhrydain.
Byddai sticeri ar y ceir yn dangos pa rai sy鈥檔 cario鈥檙 pecynnau, a gall aelodau鈥檙 cyhoedd ddenu eu sylw er mwyn defnyddio鈥檙 offer i roi cymorth meddygol i rywun sydd wedi鈥檜 trywanu.
鈥淢ae鈥檔 ffaith annymunol bod modd i chi waedu i farwolaeth mewn llai na phum munud,鈥 meddai Alex Chivers, cyd-sylfaenydd RAPAID.
鈥淵 cyflymaf gewch chi driniaeth, y gorau yw鈥檆h siawns o oroesi.鈥
Cwymp mewn troseddau
Mae miloedd o becynnau RAPAID eisoes mewn cerbydau ar hyd a lled Llundain, Manceinion, Rhydychen, Caerwysg, Swindon a Plymouth - Caerdydd a Bro Morgannwg sydd nesaf ar y rhestr.
Mae鈥檙 pecynnau鈥檔 cynnwys rhwymynnau wedi鈥檜 dylunio i atal gwaedlif trwm, ac yn 么l Mr Chivers roedd sicrhau eu bod ar gael yn hawdd i鈥檙 cyhoedd yn flaenoriaeth.
鈥淥 fy mhrofiad i gyda鈥檙 heddlu a鈥檙 lluoedd arfog, fel arfer y cyhoedd yw鈥檙 bobl gyntaf yna cyn i unrhyw gymorth gyrraedd,鈥 meddai.
鈥淵n y munudau cyntaf yna mae pobl wir angen help."
鈥'Nes i feddwl i fy hun, pam nad ydi鈥檙 cyhoedd yn gallu cael y rhwymynnau hyn, a sut allwn ni sicrhau eu bod nhw ar gael yn gyhoeddus?
鈥淢ae tacsis yn mynd a dod o鈥檔 cymunedau ni ddydd a nos, maen nhw ar ein stryd fawr ni gyda鈥檙 nos. Maen nhw tu allan i bob lle prysur,鈥 meddai.
Mae ffigyrau鈥檔 dangos bod nifer y bobl sy鈥檔 mynd i鈥檙 ysbyty yng Nghymru ar 么l ymosodiad gyda theclyn miniog wedi gostwng yn ddiweddar, gyda 60 achos yn y flwyddyn hyd at Mawrth 2024.
Roedd hyn yn ostyngiad o 19% ar y flwyddyn gynt (74), a chwymp o 50% ar y ffigyrau o bum mlynedd yn 么l (121).
Mae nifer y troseddau cyllyll ac offer miniog gafodd eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru hefyd wedi gostwng rhywfaint o鈥檙 lefel uchaf yn 2019/20, pan oedd 1,680 achos 鈥 er bod ffigyrau y llynedd (1,584 trosedd) dal dros ddwbl beth oedden nhw ddegawd yn 么l.
A gyda thua hanner y troseddau hynny鈥檔 digwydd yn ardal Heddlu鈥檙 De, mae Mr Chivers yn cyfaddef bod troseddau cyllyll yn parhau i fod yn broblem mewn rhai cymunedau.
鈥淢ae鈥檔 well cael y pecynnau yma a bod dim eu hangen, ond os oes un rhwymyn yn achub bywyd, rydyn ni wedi llwyddo,鈥 meddai.
'Syniad mor syml'
Nid pecynnau i achub dioddefwyr troseddau cyllyll yn unig ydyn nhw, fodd bynnag.
Yn 么l Mr Chivers maen nhw hefyd wedi cael eu defnyddio ar gyfer anafiadau eraill hefyd, gan gynnwys ble mae pobl wedi meddwi, neu dorri eu hunain ar wydr.
Nid y bwriad chwaith yw rhoi mwy o gyfrifoldeb ar yrwyr tacsi, meddai, gan mai eu prif r么l nhw fydd eu darparu i鈥檙 rheiny sy鈥檔 ceisio rhoi cymorth.
Bydd sticeri yn ffenestri鈥檙 tacsis yn rhoi gwybod pa rai sydd yn eu cario, gyda鈥檙 cyfarwyddiadau ar sut i helpu鈥檙 claf hefyd yn ddwyieithog.
鈥淏eth hoffen i weld yw bod rhain ar bob tacsi ar draws y wlad, a鈥檌 fod e鈥檔 dod yn normal bod pobl yn cario rhain,鈥 meddai Mr Chivers.
鈥淢ae pobl eisoes wedi cael eu hachub. Mae鈥檔 syniad mor syml.鈥
Mae鈥檙 cynllun, fydd yn cael ei lansio yn y brifddinas ddydd Gwener, eisoes wedi denu cefnogaeth y cyngor, gyrwyr tacsi a鈥檙 heddlu.
鈥淢ae鈥檙 awdurdod wrth ein boddau y bydd gyrwyr yn y ddinas yn gallu cario鈥檙 pecynnau yma, a bod yr ymgyrch ar gael yn y ddinas,鈥 meddai Rhys Morgan, o adran drwyddedau Caerdydd a Bro Morgannwg.
Ychwanegodd: 鈥淢ae cael y teclynnau ar gael ar draws y ddinas i helpu ein parodrwydd a鈥檔 hymateb i argyfyngau a damweiniau difrifol yn gam ymlaen er mwyn cynnig cefnogaeth i鈥檙 economi ddydd a nos yn y ddinas yn ehangach.鈥