大象传媒

Ysgol Dyffryn Aman: Merch 13 oed yn y llys

Heddlu yn Ysgol Dyffryn AmanFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd dau athro ac un disgybl eu trywanu ar dir Ysgol Dyffryn Aman ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae merch 13 oed wedi ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli fore Gwener, wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio tri o bobl.

Cafodd y ferch, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, ei harestio yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman ddydd Mercher.

Cafodd dwy athrawes ac un disgybl eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau o ganlyniad i gael eu trywanu wedi'r digwyddiad.

Mae'r ferch hefyd yn wynebu cyhuddiad o gael llafn yn ei meddiant.

Cafodd ei chadw mewn uned ddiogel i bobl ifanc, a bydd yn ymddangos nesaf yn Llys y Goron Abertawe ar 27 Mai.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu/大象传媒
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 大象传媒 Cymru'n deall mai Liz Hopkin a Fiona Elias yw'r ddwy athrawes a gafodd eu hanafu

Mae 大象传媒 Cymru yn deall mai Fiona Elias - pennaeth blwyddyn saith yr ysgol - a Liz Hopkin, 53, yw'r ddwy athrawes a gafodd eu hanafu.

Dywedodd teulu Liz Hopkin wrth 大象传媒 Cymru: "Mae hi'n cerdded yn araf gan fod un o'r anafiadau yn ei phen-glin. Mae hi'n stiff ac mewn tipyn o boen.

'Hapus i fod yn fyw'

"Mae ei hwyliau hi'n uchel, yn hapus i fod yn fyw, ac yn hapus nad oedd yr anafiadau i'w chydweithiwr na'r disgybl yn rhy ddifrifol.

"Mae hi'n gobeithio bod ei gweithredoedd wedi sicrhau na chafodd mwy o bobl eu hanafu."

Ychwanegodd ei bod yn ddiolchgar i'r holl staff wnaeth ei helpu wedi'r ymosodiad, i'r holl dimau meddygol am eu cymorth ac i'r heddlu am eu cefnogaeth.

"Hoffai ddiolch hefyd i bawb am y negeseuon caredig sydd yn help mawr wrth gadw ei hwyliau yn uchel."

Bydd Ysgol Dyffryn Aman yn ailagor i ddisgyblion ddydd Llun.

Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron mewn datganiad "fod hwn yn achos troseddol actif, ac mae gan y diffynnydd yr hawl i brawf teg".

鈥淢ae鈥檔 hynod bwysig na ddylai fod unrhyw adrodd, sylw na rhannu gwybodaeth ar-lein a allai achosi rhagfarn yn yr achos mewn unrhyw ffordd.鈥