大象传媒

Gofal mislif: 'Meddwl am bobl ddiniwed Gaza'

Molly Fenton yn gafael mewn bocs o nwyddau mislifFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Molly Fenton, 21 oed, wedi bod yn casglu arian er mwyn prynu nwyddau mislif i'w rhoi i bobl yn Gaza

  • Cyhoeddwyd

Mae dwy chwaer o Gaerdydd wedi prynu nwyddau mislif i fenywod yn Gaza, fel rhan o ymgyrch Love Your Period.

Fe wnaethon nhw gydweithio 芒 Direct Funds Gaza Cymru er mwyn casglu arian i brynu nwyddau i bobl leol.

Dywedodd un o'r sylfaenwyr, Molly Fenton, sy'n 21 oed: "Dy'n ni ddim yn meddwl yn ddaearyddol, ry'n ni'n meddwl am bobl ddiniwed sydd angen help, lle bynnag ma' nhw."

Daw hyn ar 么l i un elusen rybuddio bod amgylchiadau byw a phrinder d诺r ers dechrau rhyfel Israel-Gaza yn peryglu iechyd menywod yno.

'Chwiorydd mawr' i fenywod eraill

Cafodd Love Your Period ei sefydlu gan Molly a'i chwaer, Tilly, bum mlynedd yn 么l, tra'r oedd y ddwy dal yn yr ysgol.

Ar y pryd, doedd Molly ddim yn teimlo bod ei barn hi'n cael ei hystyried pan ddechreuodd Llywodraeth Cymru drafod cynnig nwyddau mislif mewn ysgolion.

"Ro'dd gen i'n bendant ddiddordeb mewn hawliau menywod pan o'n i'n yr ysgol" meddai Moli.

"Roeddwn i eisiau dechrau'r ymgyrch fel platfform i bobl fel fi i allu cael lleisio barn, ac fe dyfodd yn gyflym iawn."

Mae'r ymgyrch, sydd ddim yn wleidyddol, bellach yn d卯m o 75 menyw rhwng 13 ac 86 oed.

Maen nhw'n cyfeirio at eu hunain fel "y chwiorydd mawr" y gall merched droi atyn nhw am gymorth iechyd mislif.

Ffynhonnell y llun, Love Your Period
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Margaret, 86 oed, yn un o 75 o bobl sy'n helpu gyda phrosiectau cymorth mislif yr ymgyrch

Fe gysylltodd Direct Funds Gaza gyda Love Your Period er mwyn trafod dechrau ymgyrch ar y cyd.

Roedd yr elusen eisoes wedi anfon nwyddau i ffoaduriaid o Wcr谩in oedd yng Ngwlad Pwyl, ond roedd y casgliad ar gyfer pobl yn Gaza yn fwy cymhleth, yn 么l Molly.

"Dy'n ni methu gyrru lor茂au i Gaza felly'r syniad oedd rhoi arian roedden ni wedi ei gasglu i newyddiadurwr.

"Ar y funud, mae e'n dweud fod pecyn o badiau mislif yn costio tua 拢10 [allan yn Gaza], a dyw hynny ddim yn ymarferol.

"Dyna yw'r peth diwethaf ar feddyliau pobl."

Llwyddodd yr ymgyrch i gasglu tua 拢3,500, a bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio gan newyddiadurwr yn yr ardal i brynu nwyddau mislif i fenywod yn Gaza.

Effaith rhyfel Israel-Gaza

Ffynhonnell y llun, Oxfam
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Hadeel Qazzaz yn gweithio i Oxfam

Mae'r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif fod 700,000 o fenywod yn Gaza yn cael mislif, ond ddim yn gallu cael gafael ar nwyddau hylendid syml, gan gynnwys padiau, papur t欧 bach.

Mewn rhai achosion, does gan ferched ddim mynediad i dd诺r a thoiledau.

Dywedodd Hadeel Qazzaz, un o gydlynwyr Oxfam yn Gaza, nad yw cynnyrch mislif yn cael eu gweld fel eitemau hanfodol.

"Er bod 'na alw i flaenoriaethu cynnyrch mislif, dyw hynny ddim yn cael ei gymryd o ddifri'.

"Mae'r nifer cyfyngedig o lor茂au sy'n cael mynd fewn i Gaza sydd 芒 chyflenwad cyfyngedig o eitemau all achub bywydau gan gynnwys d诺r a bwyd, yn gwneud i offer mislif edrych fel eitemau sydd ddim yn hanfodol.

"Gyda d诺r yn beth mor brin, hyd yn oed i yfed a choginio, dyw menywod ddim yn gallu golchi eu hunain.

"Mae prinder d诺r a phecynnau hylendid yn golygu bod 'na fwy o risg iddyn nhw gael heintiau."

'Esgusodion' am ddiffyg addysg mislif

Yn ogystal 芒'r casgliad yma, mae Love Your Period yn parhau i weithio ar ymgyrchoedd eraill yng Nghymru.

Un o flaenoriaethau'r ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth am sut i ddefnyddio nwyddau mislif, fel tampons, yn gywir.

"Dyw'r addysg ddim yna.

"Ma' pobl yn cysylltu gyda ni ar-lein bob dydd yn gofyn beth fydde rhai yn ei ystyried fel cwestiynau reit syml.

"Ma' 'na esgusodion o hyd am [ddiffyg addysg] iechyd menywod sydd ddim yn ddigon da."

Yn 么l Molly, mae agweddau pobl at faterion yn ymwneud 芒 mislif wedi newid ers sefydlu Love Your Period, ond mae'n credu bod rhagor o waith i'w wneud.

"Mae 'na lot o siarad, ond ddim digon o weithredu."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Enillodd Molly (yma ar y chwith efo'i chwaer, Tilly) wobr 'Person Ifanc y Flwyddyn' yng Ngwobrau Dewi Sant 2021

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae lles mislif a dysgu am y cylch mislif yn orfodol o fewn y Cwricwlwm i Gymru.

"Mae hyn yn cynnwys dysgu am ble i gael rhagor o wybodaeth a chefnogaeth.

"Mae'n bwysig nad dim ond mewn un wers mae dysgwyr yn dysgu am les mislif, a dyna pam mae'r Cod Addysg Cyd-berthynas a Rhywioldeb yn nodi y dylid ei ddysgu dros amser wrth i blant dyfu."

Pynciau cysylltiedig