Dyfodol ansicr i ffermwyr llaeth wrth i brisiau ostwng

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae cynhyrchu llaeth gwerth bron i 拢850m i economi Cymru
  • Awdur, Sara Dafydd
  • Swydd, 大象传媒 Cymru

Mae ffermwyr llaeth yng Nghymru yn wynebu "storm berffaith" oherwydd cwymp mewn pris llaeth, yn 么l pennaeth undeb amaeth.

Yn sgil amodau marchnad heriol, mae prisiau llaeth wedi gostwng 30% ar gyfartaledd ers y flwyddyn ddiwethaf, gyda ffermwyr yn derbyn ar gyfartaledd 15c yn llai am litr o laeth o'i gymharu 芒鈥檙 flwyddyn gynt.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru ac NFU Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi ffermwyr llaeth.

Dywedodd y llywodraeth eu bod wedi ymrwymo "i gefnogi ein ffermwyr a'n cymunedau gwledig i sicrhau dyfodol cynaliadwy".

'Nid dyma'r ffordd i redeg diwydiant'

Dywedodd llywydd NFU Cymru, Aled Jones: "Mae ffermwyr llaeth Cymru yn wynebu storm berffaith.

"Mae鈥檔 ymddangos bod y diwydiant yn rhedeg ar danwydd o'r enw 'gobaith iddo wella' ac mae鈥檙 tanc ar goch.

"Nid dyma'r ffordd i redeg diwydiant.

"Mae'n ymddangos bod rhannau eraill o鈥檙 gadwyn gyflenwi yn trosglwyddo eu colledion i'r cynhyrchwyr cynradd ac unwaith eto ffermwyr sy'n ysgwyddo'n annheg y risgiau a ddaw yn sgil cynhyrchu鈥檙 cynnyrch naturiol, iach a chynaliadwy hwn."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Aled Jones mai "ffermwyr sy鈥檔 ysgwyddo鈥檔 annheg y risgiau" o gynhyrchu llaeth

Mae cynhyrchu llaeth gwerth bron i 拢850m i economi Cymru, ac yn cyfrif am bron i 40% o allbwn gros gynhyrchiant amaethyddol y wlad.

Mae鈥檙 sector hefyd yn cynhyrchu cyflogaeth sylweddol, gyda dros 5,300 o bobl yn cael eu cyflogi鈥檔 uniongyrchol ar ffermydd llaeth Cymru.

'Ma' fe'n costi lot'

Mae Dai Miles, dirprwy lywydd UAC, wedi bod yn godro ers dros 20 mlynedd.

Dywed fod rheoliadau newydd gan Lywodraeth Cymru yn rhoi baich ariannol ychwanegol ar ffermwyr.

"Mae costau cynhyrchu'n fwy drud nawr na beth ma' nhw wedi bod dros y blynydde' diwethaf," meddai.

"Chi'n gorfod buddsoddi, chi'n gorfod upgradio, chi'n gorfod bod on top of the game. A ma' fe'n costi lot."

Ffynhonnell y llun, UAC

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Dai Miles fod pris profi a rheoli TB ar ffermydd yn "ddychrynllyd"

Yn 么l UAC mae rheoliadau Llywodraeth Cymru - megis cynllun plannu coed - yn rhoi pwysau ychwanegol ar ffermydd llaeth.

Ychwanegon nhw fod y pwysau yn ei gwneud hi'n amhosibl iddynt ymuno 芒 Chynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, oni bai bod cynlluniau'r llywodraeth yn cael eu haddasu.

Dywedodd Dai Miles fod pris profi a rheoli TB ar ffermydd yn "ddychrynllyd".

"Ma' pris y farchnad yn un peth. Ond mae Llywodraeth Cymru yn gosod mwy a mwy o regulations ar ffermydd.

"Mae hynny'n dod 芒'i gost, a dyw'r farchnad ddim yn talu am y costau 'ma."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Jams Morgan ei fod yn "byw mewn gobaith fydd e鈥檔 gwella a byw drwy鈥檙 storm鈥

Mae Jams Morgan yn ffermwr o Landre yng Ngheredigion, ac yn dweud ei fod wedi gweld y diwydiant yn gwaethygu dros y flwyddyn ddiwethaf.

鈥淒wi wedi colli 33% o pris llaeth fi ers y llynedd. Mae hwn yn gwymp sylweddol," meddai.

"Ma' prisie pethau i brynu wedi cwympo 'chydig bach, ond dim i gymharu 芒 beth ma' pris llaeth wedi cwympo.

"Ma' pris llafur wedi mynd lan. Ma' pris gwrtaith wedi cwympo ond ma' dal yn uchel i gymharu 芒 blynyddoedd cynt.

"Ma' pris olew wedi codi ac egni lan. Felly ma'r holl bethe yn rhoi pwysau arnom ni ar faint ma鈥檔 costi i ni gynhyrchu.

Pray and hope. 鈥楲eni ni wedi trio newid cwpl o bethe鈥 a 'da ni yn cynhyrchu llai o laeth oherwydd hynny, ond byw mewn gobaith fydd e鈥檔 gwella a byw drwy鈥檙 storm.鈥

Yn 么l Mr Morgan does dim digon o ddealltwriaeth gan Lywodraeth Cymru am bwysigrwydd y diwydiant i economi鈥檙 wlad.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi ein ffermwyr a'n cymunedau gwledig i sicrhau dyfodol cynaliadwy.

"Er enghraifft, rydym wedi blaenoriaethu cyllideb Cynllun y Taliad Sylfaenol 2023, sy'n parhau i fod yn 拢238m ac sy'n gwneud taliadau ymlaen llaw fel arfer, gyda mwy na 拢158m yn cael ei dalu i dros 15,600 o fusnesau fferm ers 12 Hydref 2023.

"Mae camau gweithredu i gefnogi cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, gwella bioamrywiaeth, a chryfhau'r economi wledig yn rhan o gynigion i ddylunio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

"Y prif fygythiad i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy yw newid hinsawdd, ac mae plannu coed yn un o nifer o fesurau y gall ffermwyr eu cymryd i chwarae eu rhan i sicrhau dyfodol cynaliadwy."