´óÏó´«Ã½

Nifer uchaf erioed o ymgeiswyr Dysgwr y Flwyddyn

4 Dysgwr y Flwyddyn 2024Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Alanna Pennar-Macfarlane, Antwn Owen-Hicks, Joshua Morgan ac Elinor Staniforth ydy'r pedwar sy'n ceisio am deitl Dysgwr y Flwyddyn 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae prif gystadleuaeth y dysgwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol wedi derbyn y nifer uchaf erioed o geisiadau.

Roedd 45 o bobl wedi cystadlu yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2024 yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

Mae enwau'r pedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol wedi cael eu cyhoeddi.

Y rhai sydd wedi dod i'r brig eleni yw Elinor Staniforth o Gaerdydd, Antwn Owen-Hicks o Sirhywi, Alanna Pennar-Macfarlane sy’n wreiddiol o’r Alban a Joshua Morgan sy’n gweithio bellach ym Merthyr Tudful.

Cafodd rownd gynderfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn ei chynnal ym mis Mai.

Fe fydd y pedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn dod at ei gilydd ar faes yr Eisteddfod i sgwrsio gyda’r beirniaid, Bethan Glyn, Cefin Campbell a Mark Morgan.

Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod seremoni Dysgwr y Flwyddyn ar lwyfan y Pafiliwn Mawr, ddydd Mercher 7 Awst.

Pwy ydy’r pedwar?

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 10,000 o ddysgwyr Cymraeg yn defnyddio darluniau a gwersi Joshua Morgan neu ‘Sketchy Welsh’

Mae Joshua Morgan yn dysgu Cymraeg ers blwyddyn a hanner, ac yn gweithio fel athro yn Ysgol Arbennig Greenfield, Merthyr Tudful.

Symudodd i Loegr o Gymru pan oedd yn saith oed, cyn dychwelyd i Gymru i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Sylweddolodd y gallai ddysgu Cymraeg pan aeth ati i astudio isiXhosa pan fu’n byw yn Ne Affrica am ddwy flynedd.

Creodd lyfr '31 ways to Hoffi Coffi' ar gyfer teulu a ffrindiau, a daeth yn boblogaidd ymysg dysgwyr.

Yna, dechreuodd Josh greu darluniau o’i daith yn dysgu Cymraeg, ac erbyn hyn mae mwy na 10,000 o ddysgwyr yn defnyddio darluniau a gwersi ‘Sketchy Welsh’.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Antwn Owen-Hicks yn cefnogi a hyrwyddo artistiaid Cymraeg ers blynyddoedd

Mae Antwn Owen-Hicks yn defnyddio Cymraeg yn ddyddiol yn ei waith gyda Chyngor Celfyddydau Cymru.

Fe’i magwyd ar aelwyd ddi-Gymraeg - ei hen fam-gu oedd y siaradwr Cymraeg olaf yn ei deulu.

Aeth ati i ddechrau dysgu Cymraeg pan ddychwelodd i Gymru ar ôl bod yn fyfyriwr yn Llundain, ac mae wedi dilyn sawl cwrs dros y blynyddoedd gan gynnwys cwrs Lefel A Cymraeg.

Cymraeg yw iaith y cartref yn Sirhywi erbyn hyn, a’i ferch yw’r siaradwr Cymraeg iaith gyntaf yn y teulu ers pedair cenhedlaeth.

Mae’n un o sylfaenwyr y band gwerin Cymraeg, Carreg Lafar ac mae wedi dechrau cyfres o gyngherddau acwstig anffurfiol, ‘Y Parlwr’ gyda’i wraig Linda, gan roi llwyfan i artistiaid Cymraeg yn bennaf.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alanna Pennar-Macfarlane o'r Alban wedi creu adnoddau i helpu dysgwyr eraill

Yn wreiddiol o’r Alban, mae Alanna Pennar-Macfarlane yn byw yng Nghaerdydd, ac wedi dilyn o leiaf un wers Gymraeg bob dydd ers dros 2,400 diwrnod - bron i chwe blynedd a hanner - ar ap Duolingo.

Mae Alanna wedi ysbrydoli’i theulu i fynd ati i ddysgu Cymraeg, gyda’i chwaer yng nghyfraith a’i mam bellach yn dysgu.

Mae hi hefyd wedi datblygu adnoddau a fyddai wedi’i helpu hi ar ei thaith iaith.

Lansiodd ei Dyddiadur i Ddysgwyr ym mis Tachwedd 2023, gan werthu dros 200 o gopïau i ddysgwyr ar draws y byd, ac erbyn hyn, mae’n gweithio ar lyfr nodiadau i helpu gyda rheolau treiglo.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elinor Staniforth o Gaerdydd bellach yn dysgu Cymraeg i eraill

Dechreuodd Elinor Staniforth ddysgu Cymraeg tua phedair blynedd yn ôl, ac erbyn hyn, mae’n diwtor Cymraeg i oedolion ac yn ysbrydoli eraill i ddysgu’r iaith.

Fe’i magwyd ar aelwyd ddi-Gymraeg yng Nghaerdydd, ac astudiodd celfyddyd gain yn Rhydychen cyn dychwelyd i Gymru.

Dechreuodd ddysgu Cymraeg cyn Covid, er mwyn cyfarfod pobl a’i helpu i gael swydd yn y celfyddydau, a chael blas ar ein hiaith a’n diwylliant yn syth.

Fe fydd Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn cael ei chynnal ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd rhwng 3-10 Awst.