大象传媒

Angen 'datgymalu a gwerthu' Swyddfa'r Post - Alan Bates

Alan BatesFfynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Alan Bates fu'n arwain yr ymgyrch am gyfiawnder dros fethiannau system gyfrifiadurol Horizon Swyddfa'r Post

  • Cyhoeddwyd

Mae Alan Bates, a arweiniodd ymgyrch am gyfiawnder yn y sgandal gyda system gyfrifiadurol Horizon Swyddfa'r Post, wedi rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad cyhoeddus i'r sefydliad ddydd Mawrth.

Cafodd dros 900 o is-bostfeistri eu herlyn rhwng 1999 a 2015 oherwydd diffygion gyda system gyfrifiadurol Horizon.

Mae'n cael ei ystyried yn un o'r camweinyddiadau cyfiawnder mwyaf yn hanes Prydain.

Roedd Alan Bates yn rheoli Swyddfa Bost Craig-y-Don yn Llandudno rhwng 1998 a 2003, ac mae ei ymgyrch am gyfiawnder wedi ysbrydoli drama ITV, Mr Bates vs the Post Office.

Dywedodd wrth yr ymchwiliad ei fod wedi "ymroi y rhan yma o fy mywyd i'r achos", gan ychwanegu ei fod wedi bod yn "ystyfnig".

Esboniodd wrth y cyfreithiwr ar ran yr ymchwiliad, Jason Beer, ei fod wedi darganfod bod camgymeriadau yn Horizon wedi effeithio ar bobl eraill hefyd.

"Unwaith roeddech chi'n gweld y niwed a'r anghyfiawnder oedd yn disgyn ar bobl eraill, roedd o'n rhywbeth roedd rhywun yn teimlo roedd rhaid delio ag o, bod o ddim yn rhywbeth all rywun ei roi lawr," dywedodd Mr Bates.

"Roedd rhaid cefnogi gweddill y gr诺p."

Cyhuddodd Alan Bates y Swyddfa Bost o ymddwyn fel "barnwr a rheithgor".

Mewn llythyr yn 2010, gofynnodd Mr Bates am gymorth y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros y Swyddfa Bost ar y pryd, Ed Davey.

Pan ofynnodd Jason Beer iddo am ei argraffiadau o'r Swyddfa Bost, dywedodd Alan Bates, ei fod yn "sefydliad echrydus" ac mi ddylai gael ei "ddatgymalu a'i ail-adeiladu o'r llawr" gan ychwanegu y dylai gael ei "werthu i gwmni fel Amazon".

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gollodd Mr Bates a'i wraig eu buddsoddiad ar 么l i'w gytundeb gyda Swyddfa'r Post gael ei derfynu heb esboniad yn 2003

Roedd Alan Bates yn rheoli Swyddfa Bost Craig y Don yn Llandudno rhwng 1998 a 2003.

Yn 2000, ychydig ar 么l dechrau defnyddio system Horizon, sylwodd Mr Bates bod na ddiffygion o tua 拢6,000 ar y llyfrau.

Yn 2003 cafodd ei gytundeb ei derfynu heb esboniad gan y Swyddfa Bost.

Ers hynny mae Alan Bates wedi ymgyrchu yn ddi-flino am gyfiawnder iddo fo a channoedd o is-bostfeistri cafodd eu herlyn rhwng 1999 a 2015.

Mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno deddfwriaeth i wyrdroi'r euogfarnau yn erbyn yr is-bostfeistri, ac mae gweinidog yn y llywodraeth wedi cyfaddef nad ydy'r dioddefwyr yn cael eu digolledu yn ddigon cyflym.

Pynciau cysylltiedig