Oes gan y Seintiau siawns yn erbyn Goliath Fiorentina?
- Cyhoeddwyd
Bydd Y Seintiau Newydd yn chwarae'r g锚m fwyaf yn hanes y clwb nos Iau, wrth iddyn nhw herio cewri Fiorentina yn Yr Eidal.
Y Seintiau yw'r clwb cyntaf o gynghreiriau Cymru i gyrraedd rownd y grwpiau - neu rownd y gynghrair fel yw hi o eleni ymlaen - yn un o brif gystadlaethau Ewrop.
Ond a hwythau yn Fflorens, mae'r Seintiau yn y lle iawn os ydyn nhw'n chwilio am ysbrydoliaeth i oresgyn her anferthol.
Ychydig filltiroedd o'r Stadio Artemio Franchi ble bydd y g锚m yn cael ei chynnal mae cerflun Michelangelo o Dafydd - y dyn a drechodd Goliath.
Mae nifer o'r farn y byddai canlyniad i'r Seintiau Newydd oddi cartref yn Yr Eidal yn gamp ar yr un lefel 芒 buddugoliaeth Dafydd.
Fe fyddan nhw hefyd yn herio Djurg氓rdens o Sweden, Astana o Kazakhstan, Shamrock Rovers o Weriniaeth Iwerddon, Panathinaikos o wlad Groeg a Celje o Slofenia yng Nghyngres UEFA eleni.
Ond y g锚m gyntaf yw'r her fwyaf i'r Seintiau - mae Fiorentina yn un o glybiau mwyaf Yr Eidal, ac wedi colli yn ffeinal y gystadleuaeth yma ddwy flynedd yn olynol.
Mae disgwyl i tua 150 o gefnogwyr brwd y Seintiau wneud y daith i Twsgani i wylio'r g锚m nos Iau.
Yn siarad gyda 大象传媒 Cymru cyn gwneud y daith i'r Eidal, dywedodd y chwaraewr canol cae Leo Smith mai'r nod ydy "rhoi'r gynghrair a'r wlad ar y map".
Ychwanegodd Smith, o Borthmadog, eu bod yn gobeithio "rhoi g锚m dda iddyn nhw, a dangos iddyn nhw 'da ni yma am reswm hefyd".
Does gan Fiorentina ddim cymaint o enwau mawr heddiw ag oedd ganddyn nhw yn nyddiau Roberto Baggio a Gabriel Batistuta, ond mae 'na ambell enw cyfarwydd yn y garfan o hyd.
Bydd cyn-golwr Manchester United, David de Gea, a chyn-ymosodwr Everton a Juventus, Moise Kean, yn wynebau cyfarwydd i unrhyw un sy'n dilyn Uwch Gynghrair Lloegr.
Ond o wrando ar gynhadledd i'r wasg y rheolwr Raffaele Palladino cyn y g锚m, prin y cafodd Y Seintiau Newydd eu crybwyll.
Roedd sylw'r wasg Eidalaidd eisoes wedi troi at g锚m nesaf Fiorentina - yn erbyn AC Milan ddydd Sul.
Mewn cymhariaeth, taith oddi cartref i Lansawel sy'n wynebu'r Seintiau dros y penwythnos.
Yn 么l y rheolwr Craig Harrison, mae'r garfan yn teimlo "y gallwn ni fynd yno'n reit relaxed, a chwarae heb unrhyw ddisgwyliadau arnon ni".
"Y disgwyliadau gen i a'r chwaraewyr ydy nad ydyn ni'n dod yn destun embaras - 'dan ni'n mynd i gynychioli Cymru a'r Seintiau y gorau y gallwn ni, dangos y fersiwn orau o'n hunain, a gweld be ddaw.
"Os oes ganddon ni'r agwedd gywir ac yn gweithio'n galed, bod yn drefnus, gyda'n gilydd - pwy a 诺yr be all ddigwydd?"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref
- Cyhoeddwyd23 Medi
- Cyhoeddwyd30 Awst