大象传媒

Lauren Price a'i thaith i frig y byd bocsio

Lauren a KathFfynhonnell y llun, Kath Morgan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Lauren Price a Kath Morgan

  • Cyhoeddwyd

Jimmy Wilde, Howard Winstone, Joe Calzaghe a Lee Selby 鈥 enwau sydd ymysg yr 13 pencampwr bocsio鈥檙 byd o Gymru.

Dydd Sadwrn, 11 Mai, mae鈥檔 bosib y bydd Cymru鈥檔 dathlu pencampwr byd rhif 14 wrth i Lauren Price o Ystrad Mynach wynebu Jessica McCaskill yng Nghaerdydd.

McCaskill o Chicago yw pencampwr pwysau welter y byd, ac mae鈥檙 beltiau WBA, WBC ac IBO yn ei meddiant.

Os fydd Lauren Price yn fuddugol, hi fydd y ferch gyntaf o Gymru i ennill pencampwriaeth byd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Lauren Price yn ei gornest ddiweddaraf; buddugoliaeth yn erbyn Silvia Bortot ym mis Rhagfyr 2023

Ond cyn iddi ddechrau ar ei siwrne focsio roedd Lauren yn rhagori mewn p锚l-droed, gan chwarae dros Gaerdydd ac ennill capiau rhyngwladol i Gymru.

Rhywun sydd yn ei 鈥榥abod yn dda yw Kath Morgan, cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru a'r ferch gyntaf o Gymru i ennill bathodynnau hyfforddi trwydded 'A' gan UEFA, yn 2008.

鈥淧an ddaeth Jarmo Matikainen yn rheolwr ar d卯m menywod Cymru yn 2010 o鈥檔 i鈥檔 rheolwr cynorthwyol iddo," meddai. "Yn fy r么l o鈥檔 i鈥檔 gyfrifol am y timau iau; dan-17, dan-18 a dan-19. Daeth Lauren fewn i鈥檙 system cenedlaethol yn 2011.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Lauren yn cynrychioli Cymru dan-19 yn erbyn Lloegr - 2 Ebrill, 2012

Fe wnaeth Lauren argraff fawr ar Kath yn syth.

鈥淧an ddaeth hi fewn ges i fy nharo gan pa mor broffesiynol oedd hi ac hefyd pa mor aeddfed oedd hi. Roedd gen hi鈥檙 focus 鈥榤a o鈥檔 i erioed wedi gweld o'r blaen.

鈥淥dd hi o鈥檙 Cymoedd fel fi, a ni鈥檔 hoffi edrych ar 么l ein gilydd yno felly 鈥榥es i gadw llygad arni.

鈥淏e' dwi鈥檔 gofio yw o'dd hi mor ddiolchgar am unrhyw tips ac adborth, ac o'dd hi鈥檔 amsugno fe i gyd lan.鈥

Roedd Lauren yn chwarae i d卯m dan-19 Cymru gyda Nia Jones, a aeth ymlaen i chwarae p锚l-rwyd dros Gymru.

鈥淥dd hi (Lauren) yn flaenllaw iawn yn ngharfan dan-19, ac fe roedd hi a Nia Jones yn rhannu鈥檙 gapteiniaeth.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Lauren yn cynrychioli t卯m Cymru, yn gwisgo'r crys rhif pump. Hefyd yn y llun mae ambell i wyneb cyfarwydd arall fel Nia Jones (rhif pedwar), Jess Fishlock (rhif chwech) a Sophie Ingle (rhif tri)

Mae Lauren Price wedi s么n yn y gorffennol ei bod wedi cael plentyndod anodd, gyda'i ddau riant yn byw gydag alcoholiaeth, ac o ganlyniad cafodd hi ei magu gan ei nain a'i thaid.

Ond er yr heriau hyn fe ragorodd Lauren gyda'r timau iau ac fe aeth 'mlaen i chwarae dros y t卯m h欧n.

Chwaraeodd Lauren ddwywaith dros brif d卯m rhyngwladol Cymru yn 2012-13, tra roedd hi鈥檔 chwarae dros Glwb Dinas Gaerdydd.

鈥淩oedd hi鈥檔 esiampl, o ran hyfforddi, ffitrwydd a disgyblaeth鈥, meddai Kath.

鈥淔alle roedd 鈥榥a chwaraewyr yn well na hi yn dechnegol, ond doedd 鈥榥a neb yn well o ran ymroddiad 鈥 hyfforddi鈥檔 galed, bwyta鈥檔 iawn a cymryd ice-baths ac ati.鈥

Roedd Lauren yn paffio yr un pryd 芒鈥檌 gyrfa p锚l-droed.

鈥淒ydy bywyd fel bocsiwr ddim yn hudolus fel mae pobl yn ei feddwl. Ma' fe鈥檔 fywyd ynysig - ry' chi鈥檔 hyfforddi ben eich hun, mynd drwy鈥檙 un rwt卯n dro ar 么l tro, ac mae hynny鈥檔 cymryd disgyblaeth arbennig.鈥

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Enillodd Lauren fedal aur yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020. Mae hi hefyd wedi ennill y fedal aur yn y Gemau Ewropeaidd, Gemau'r Gymanwlad ac ym Mhencampwriaethau'r Byd

Mae Kath yn cofio un digwyddiad yn gymharol ddiweddar sy鈥檔 dangos cymeriad Lauren.

鈥淒wi鈥檔 cofio cymryd sesiwn hyfforddi p锚l-droed Nghaerffili ar y caeau 4G ble mae t卯m rygbi鈥檙 Dreigiau yn hyfforddi, ac roedd Lauren digwydd bod yno," meddai.

鈥淩oedd hi newydd ddod n么l o Tokyo ble enillodd hi fedal aur, ac roedd hi鈥檔 rhoi cyfweliadau i鈥檙 wasg.

鈥淩hwng y cyfweliadau 鈥榥es i chwibanu ar y merched ar y cae i ddod fewn yn agosach 鈥 dwi鈥檔 eitha' adnabyddus am allu chwibanu yn uchel iawn gyda fy mysedd.

鈥淔e glywodd Lauren fi鈥檔 chwibanu a throi rownd a dweud 鈥I thought I recognised that whistle!鈥, a ddaeth hi lawr i siarad gyda fi.

"鈥楴ath hi dynnu lluniau gyda鈥檙 merched, ac yna 鈥榥ath hi ddiolch i fi am ei helpu hi gyda鈥檌 gyrfa pan oedd hi鈥檔 iau. 鈥楴ath hi hyd yn oed ymddiheuro am ddewis bocsio dros b锚l-droed, ond 鈥榥es i ddweud bod fi ddim yn gweld bai arni o gwbl - dwi'n meddwl 'nath hi' r penderfyniad iawn!

鈥淒yna sut fath o ferch yw Lauren; hoffus iawn a diymhongar. Dwi鈥檔 teimlo鈥檔 freintiedig iawn i fod wedi gallu cyfrannu rhywfaint i鈥檞 gyrfa chwaraeon hi.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Lauren gyda'i gwrthwynebydd, Jessica McCaskill

Gornest gyfartal cafodd Jessica McCaskill yn ei hymddangosiad diwethaf yn y sgw芒r bocsio, ac yn 39 oed mae hi 10 mlynedd yn hyn na'r Gymraes.

Er mai Lauren Price yw'r ffefryn gyda'r bwcis mi fydd hi'n ymwybodol iawn o brofiad a gallu'r Americanes.

Bydd Cymru gyfan yn gobeithio y bydd Lauren yn gallu ymuno 芒 Calzaghe, Wilde a Winstone ar restr anfarwolion bocsio'r genedl.

Pynciau cysylltiedig