大象传媒

Dyn 20 oed o Wrecsam wedi boddi yn Y Bermo - cwest

Traeth Y Bermo
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Mohamad Alkadour wedi ymweld 芒 thraeth y Bermo gyda'i ffrindiau ar 27 Mai

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi ei agor i farwolaeth dyn 20 oed oedd wedi bod yn nofio yn y m么r yn Y Bermo.

Cafodd Mohamad Alkadour, cogydd oedd yn byw yn Wrecsam ond a gafodd ei eni yn Syria, ei achub o'r tonnau ar 么l bod ar goll am ddwy awr.

Fe geisiodd y gwasanaethau brys i'w adfywio ac fe gafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ond bu farw yno yn ddiweddarach.

Cafodd y cwest ei ohirio tra bod ymchwiliadau pellach yn digwydd i'r hyn ddigwyddodd.

Clywodd y gwrandawiad yng Nghaernarfon ddydd Llun fod Mr Alkadour wedi ymweld 芒'r Bermo gyda'i ffrindiau ar 27 Mai eleni.

Dywedodd y crwner, Kate Robertson: "Mae'n ymddangos bod rhai tonnau wedi ei daro gyda rhywfaint o rym a'i wthio oddi tano.

"Cafodd ei ddarganfod dwy awr yn ddiweddarach ar 么l i Wylwyr y Glannau a鈥檙 heddlu chwilio amdano."

Ychwanegodd bod archwiliad post mortem wedi digwydd ac mai achos y farwolaeth oedd boddi.