Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Buddugoliaeth Fiji: ‘Anodd i Gymru, ond grêt i rygbi’
- Awdur, Iolo Cheung
- Swydd, ý Cymru Fyw
Mae cyn-ganolwr Cymru Jamie Roberts wedi awgrymu mai buddugoliaeth Fiji dros Awstralia ddydd Sul oedd y “canlyniad gwaethaf posib” i Gymru, gyda Grŵp C yng Nghwpan Rygbi’r Byd nawr yn benagored.
Ar ôl colli i Gymru yn eu gêm agoriadol, llwyddodd y Fijiaid i drechu’r Wallabies yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf erioed, a hynny o 22-15.
Roedd cefnogwyr Cymru allan yn Ffrainc yn cadw llygad barcud ar bethau, gan wybod fod y canlyniad yn effeithio ar dîm Warren Gatland.
Ond roedd llawer yn cefnogi’r Ynyswyr beth bynnag, gydag un yn ei ddisgrifio fel canlyniad “anodd i Gymru, ond grêt i rygbi”.
'Mae gan Gymru bopeth i’w wneud wythnos nesa'
Gyda Chymru wedi crafu buddugoliaeth pwynt bonws yn erbyn Portiwgal ddydd Sadwrn, mae llawer o’r cefnogwyr wedi aros ar arfordir de Ffrainc cyn teithio i Lyon ar gyfer yr ornest yn erbyn Awstralia ddydd Sul.
Bu rhai’n treulio’r noson ar bromenâd y ddinas mewn digwyddiad yng nghwmni Roberts, a fu’n adlewyrchu ar ganlyniadau Cymru yn y twrnamaint hyd yma.
“O ystyried y canlyniad heno [gydag Awstralia’n cael pwynt bonws], hwn oedd y canlyniad gwaethaf posib i Gymru", meddai Roberts, a enillodd 97 cap dros Gymru a’r Llewod.
“Mae’n rhaid i ni guro Awstralia. Os nad ydyn ni, dwi ddim yn meddwl bod ni’n dianc o’r grŵp.
“Achos nawr o wybod beth sydd yn y fantol, bydd Awstralia a Fiji mwy na thebyg yn ennill eu gemau eraill gyda phwynt bonws.”
Cytuno oedd rhai o’r cefnogwyr bod canlyniadau’r penwythnos hwn wedi cynyddu pwysigrwydd yr ornest i ddod yn erbyn y Wallabies.
“Ro’n i’n falch dros Fiji, ond roedden i eisiau i Awstralia ennill,” meddai Alan Francis o Gaerdydd.
“Mae wedi agor y grŵp, ac mae gan Gymru bopeth i’w wneud wythnos nesa’, ond mae’n rhaid i’r bois ei ‘neud e.”
Roedd Danial o Gaergybi’n teimlo y gallai carfan Warren Gatland gymryd hyder o’r canlyniad.
“Dwi’n meddwl bod Eddie Jones ar downward spiral efo Awstralia, felly dwi’n gweld Cymru’n curo,” meddai.
Roedd eraill yn falch o weld Fiji yn ennill, hyd yn oed os yw hynny’n gwneud tasg Cymru o ddod allan o’r grŵp yn anoddach.
“Onid yw hynny’n gwneud pethau’n fwy diddorol?” meddai Jac o Gaerffili, oedd hefyd yn y digwyddiad fel rhan o grŵp MSG Tours.
“Yn y bôn mae’n rhaid i ni gael yr agwedd ein bod ni’n mynd i guro Awstralia a gorffen ar frig y grŵp, a bod Fiji yn dod gyda ni.”
Roedd Craig, o Gatffrwd yn Sir Fynwy, hefyd yn cefnogi’r Ynyswyr er gwaethaf y goblygiadau i’w dîm ei hun.
“Mae’n anodd i Gymru, ond mae’n grêt i rygbi, achos mae’n wych bod Fiji wedi curo Awstralia,” meddai.
“Dychmygwch Fiji a Chymru yn y chwarteri, byddai’n ffantastig i rygbi.”
'Neis cymdeithasu a phawb yn dod ‘mlaen'
Byddai rhai o bosib yn ei chael hi’n anodd deall pam fyddai rhywun yn cefnogi gwrthwynebydd, er nad yw’r canlyniad yn ffafrio’ch tîm chi.
Ond i Ann Kirwan o Ferthyr Tydfil, mae’n rhan o’r awyrgylch sydd mor arbennig am ddilyn rygbi.
“Mae’n arbennig bod pobl yn dod ymlaen gyda’i gilydd a chefnogi ei gilydd,” meddai.
Cytuno mae Steve Howells o Rymni, aeth i Fiji yn 2013 fel rhan o daith y Llewod yn Seland Newydd.
“Mae pobl rygbi yr un peth unrhyw le ewch chi yn y byd, does dim drwgdeimlad. Ni’n dymuno’r gorau iddyn nhw, maen nhw’n dymuno’r gorau i ni.”
Mae’n brofiad y mae Nans Davies, o Frynteg yng Ngheredigion, wedi ei drysori ar ei thrip cyntaf i wylio Cwpan y Byd dramor.
“O’dd ‘da ni ffans Portiwgal yn eistedd ar bwys ni [yn y gêm] – o’dd e’n neis cymdeithasu a phawb yn dod ‘mlaen yn dda gyda’i gilydd, dim gwahaniaeth o ba wlad maen nhw’n dod,” meddai.
“Ni ‘di cwrdd â rhai o Fiji a Japan, mae’n hollol wahanol i beth ni ‘di ‘neud o’r blaen [yn dilyn y Chwe Gwlad].”